Canlyniadau Casnewydd a Wrecsam yn Adran Dau

  • Cyhoeddwyd
Bryn Morris yn dathlu sgorio gyda'i gyd-chwaraewyrFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bryn Morris yn dathlu sgorio gyda'i gyd-chwaraewyr

Casnewydd wnaeth yn orau o'r ddau dîm o Gymru yn Adran Dau brynhawn Sadwrn yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus oddi cartref yn Walsall.

Ond mae gôl hwyr ar y Cae Ras yn golygu bod rhediad gwael Wrecsam yn ddiweddar yn parhau.

Wrecsam 0-1 Bradford City

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Methodd Wrecsam â rhoi'r bêl heibio golwr Bradford, Sam Walker

Fe darodd Andy Cook y bêl i'r rhwyd wedi 89 munud o chwarae i sicrhau'r pwyntiau i Walsall.

Funudau cyn hynny roedd golwr Wrecsam, Arthur Okonkwo, wedi atal Cook rhag sgorio o'r smotyn.

Mae'n golygu bod Wrecsam yn llithro i bumed safle'r tabl, ar ôl methu â sgorio ar y Cae Ras am y tro cyntaf ers Tachwedd 2021.

Walsall 0 - 3 Casnewydd

Cafodd y fuddugoliaeth ei selio yn yr hanner cyntaf, gyda'r gôl gyntaf, gan Bryn Morris yn dod bedwar munud yn unig wedi'r gic gyntaf.

Fe ddyblodd Will Evans (15) y fantais cyn i beniad Harry Charsley (38) wneud hi'n dair gôl i ddim.

Roedd hi'n dalcen caled felly i'r tîm cartref wedi'r egwyl, hyd yn oed cyn i Owen Evans weld cerdyn coch a'u gadael un dyn yn brin.

Mae Casnewydd wedi codi i'r 10fed safle, gyda phedwar pwynt o fwlch rhyngddyn nhw a safleoedd y gemau ail chwarae.