Ysgol Carreglefn: Cefnogi cau ysgol leiaf Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymuned Carreglefn
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond naw disgybl sy'n mynychu Ysgol Gymuned Carreglefn, gyda phryderon y bydd niferoedd yn cwympo etp

Mae cynllun i gau ysgol gynradd ar Ynys Môn, sydd ag ond naw o ddisgyblion, wedi ei gefnogi gan aelodau o bwyllgor sgriwtini'r cyngor.

Roedd swyddogion wedi argymell cau Ysgol Gymuned Carreglefn, ger Amlwch, erbyn Medi 2024 yn dilyn pryderon y byddai nifer y disgyblion yn parhau i ddisgyn.

Y bwriad yw i'r disgyblion fynychu Ysgol Gymuned Llanfechell - sydd 2.2 milltir i ffwrdd - o fis Medi 2024.

Yn ôl y cyngor mae'r gost fesul disgybl yn Ysgol Gymuned Carreglefn yn £17,200 - sef yr uchaf yng Nghymru a thros dair gwaith cost gyfartalog disgyblion cynradd y sir o £5,240.

Ymysg cyn-ddisgyblion yr ysgol yw'r gwyddonydd Tom Parry Jones, dyfeisydd y prawf anadl.

'Rhieni wedi pleidleisio hefo'u traed'

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones wrth gyfarfod arbennig o Bwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y cyngor fore Mawrth, fod "yn rhaid cadw'r adeilad ar gyfer y gymuned".

Ychwanegodd fod dwy siop a chapel yn y pentref yn ystod y 1970au, ond bellach fod "popeth wedi mynd".

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Aled Morris Jones oedd yr unig aelod o'r pwyllgor i wrthod cefnogi'r argymhelliad i gau'r ysgol

"Dwi'n deall doedd y swyddogion presennol ddim yn involved, ond wnaeth y cyngor sir totally mishandlo'r sefyllfa yng Ngharreglefn 'chydig flynyddoedd yn ôl, wnaeth y rhieni bleidleisio hefo'u traed a symud eu plant o 'na.

"A dyna sut 'da ni wedi landio fyny yn y sefyllfa drist yma, mae'n bechod sa'r cyngor sir wedi trio cael y plant yn ôl."

'Dim plant yn yr ardal'

Mae nifer y disgyblion yng Ngharreglefn wedi gostwng o 42 yn 2012 a 15 yn 2020, ond dywedodd prif weithredwr y cyngor, Dylan Williams, fod y cyngor wedi ymrwymo i gynnal trafodaethau ar gadw'r adeilad er budd y gymuned.

Ychwanegodd un o'r aelodau lleol ac arweinydd y cyngor, Llinos Medi: "Does dim adnodd cymunedol [arall] ar gael yng Ngharreglefn ddim mwy, mae'r ddarpariaeth llofft capel wedi diflannu, mae'n gymuned gweithgar ac mae 'na hanes i'r ardal sy'n bwysig ein bod yn ei ddiogelu.

"Yn anffodus dirywiad sydd wedi bod [yn nifer y disgyblion] ers nifer o flynyddoedd, ond mae 'na lot o gefnogaeth wedi bod a diolch i'r rhai sydd wedi camu i'r bwlch i fod yn bennaeth ar yr ysgol fel bod y drysau yn cael aros ar agor.

"Ond yn anffodus dydi'r niferoedd just ddim wedi cynyddu.

"'Da ni'n gweld yn y niferoedd o ran genedigaethau a ballu yn yr ardal, dydi'r plant ddim bellach yn bodoli yn yr ardal chwaith."

Ffynhonnell y llun, Eric Jones/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carreglefn yn gymuned wledig yng ngogledd yr ynys

Ychwanegodd fod cysylltiadau clos eisoes yn bodoli gyda Llanfechell, gyda'r pentrefi'n rhannu cyngor cymuned.

Gan fod gan Garreglefn lai na 10 o ddisgyblion mae Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru yn nodi nad oedd angen i'r awdurdod gynnal ymgynghoriad cyffredinol cyn dilyn y broses ffurfiol i'w chau.

Y cynghorydd Aled Morris Jones oedd yr unig aelod i beidio cefnogi'r cynnig i gau'r ysgol, ond roedd cefnogaeth unfrydol i gynnal trafodaethau ar gadw'r adeilad fel adnodd cymunedol.

Bydd argymhelliad y pwyllgor yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor gwaith, fydd yn ystyried cyhoeddi rhybudd statudol i gau'r ysgol erbyn diwedd y flwyddyn ysgol hon.

Pynciau Cysylltiedig