Ateb y Galw: Juliette Manon

  • Cyhoeddwyd
Juliette ManonFfynhonnell y llun, Theatr Genedlaethol Cymru

Y cyfarwyddwr theatr, Juliette Manon, sy'n ateb ein cwestiynau yr wythnos hon.

Mae Juliette yn gyfarwyddwr theatr gyda phrofiad penodol o gynyrchiadau gwleidyddol, prosiectau cymunedol a theatr cyfranogol.

Ar hyn o bryd mae Juliette yn cyfarwyddo Ie Ie Ie sef addasiad Cymraeg y Theatr Genedlaethol o Yes Yes Yes; gan y gwneuthurwyr theatr o Aotearoa/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Fy hen fodryb Colette yn dangos i fi sut i goginio tarten bricyll pan o'n i'n blentyn. Nes i 'neud un yn sbeshal i impressio girlfriend cefnder fi.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Copa un o fryniau Clwyd (adra), gyda paned allan o fflasg a fy nghi Ziggy. Ma gwaith yn medru cymryd drosodd bywyd braidd a ma mynd am dro yn helpu fi i just cal clirio mhen a checio fewn gyda fy hun. (Nath rhywyn hefyd ddisgrifio copa bryn ffefryn fi fatha nipple pan ti'n edrych arno o bellter a ma hwnna'n teimlo'n rili fitting.)

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ziggy'n cael awyr iach

Y noson orau i ti ei chael erioed?

NYE 2022. Noson 'Queer House Party' yn Llundain efo ffrind gora fi Phoebe. Nathon ni golli'r countdown oherwydd oedden ni mewn ciw ar gyfer y cloakroom. 'Rioed wedi dawnsio gymaint yn fy mywyd a nes i golli'n llais i oherwydd nes i wario hanner y noson yn sgrechian (mewn ffordd positive - basically'n addoli) ar y perfformwyr. Fave rhan o'r noson wedyn oedd rhedeg lawr Oxford St am dri o'r gloch bora desparately'n chwilio am rwla oedd dal ar agor i brynu cheesy pitta a chips. ('Nathon ni lwyddo ac odd o'n glorious).

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Hot. Welsh. Gay.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu?

Pigo ci fi fyny o'r rescue a dod á hi adre am y tro cynta.

Beth oedd y digwyddiad wnaeth godi mwya o gywilydd arnat ti?

Byrpio ar lwyfan mid-unawd cerdd dant Steddfod sir tua 2008. (Hwnna di'r ateb PG…)

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Neithiwr! Noson wasg Ie Ie Ie wrth i mi ddarllen ymatebion y gynulleidfa ar pôl yn ystod y sioe. Dwi mor browd o'n sioe bwysig ni a mor mor browd o Eleri a'n tîm anhygoel.

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Yr actores Eleri Morgan ar y llwyfan yn Ie Ie Ie

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pigo a byta raisins allan o sgons sydd allan yn y gegin. A ddim just sgons i fod yn hollol onest... unrhywbeth efo raisins, dwi'm yn gwahaniaethu. Ma'n gyrru teulu fi'n nyts.

Beth yw dy hoff lyfr? Pam?

Ydi drama'n cyfri? Ar hyn o bryd... Cowbois gan Charlie Josephine neu unrhywbeth sy' 'di sgwennu gan Travis Alabanza. Dwlu ar yr holl trans joy a magic.

Byw neu farw, gyda pwy fyddet ti'n cael diod?

Julie d'Aubigny, cantores opera enwog Ffrangeg o'r 17eg ganrif oeddyn cal duels angyfreithlon efo'r holl ddynion yn llys Louis XIV. Un o storis ffefryn fi amdani ydi'r stori ohoni hi'n bustio cariad hi allan o leiandy yn Avignon. Ultimate girl crush.

Rhywbeth does dim llawer o bobl yn gwybod?

Dwi'n medru chwarae'r corn Ffrengig. Sexy, I know.

Beth fyddet ti'n neud ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned?

Cynnal twmpath masif efo pawb dwi'n caru a dawnsio nes bod ni methu teimlo'n traed ni ddim mwy. Wedyn i gloi'r noson, prynu pob eitem o fecws Lidl a cal pastry buffet efo pawb.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Pob llun sy' genai o Ziggy. Fel arall, y llun 'ma nes i gymryd o tu fewn i Theatr Clwyd cyn i'r adeilad gau i'r cyhoedd ar gyfer ailddatblygu. Ma' Clwyd yn le sy'n rili agos at fy nghalon. Dyma lle nes i syrthio mewn cariad efo theatr a dyma lle nes i wario lot o amser fi'n dysgu sut i fod yn gyfarwyddwr ac yn artist. Ma'n teimlo fatha ail gartref i fi.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Petaet ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai?

Neb sbesiffig… just dyn rili cyfoethog efo lot o bŵer. Dwi'n licio meddwl bod fi'n bach o anarchist felly 'swn i'n ffeindio ffordd o redistributio eu cyfoeth nhw, dismantlo pŵer nhw ac achosi total chaos yn bywyd nhw. Anarchiaeth am byth.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig