Cwmni 'wedi ymrwymo' i'r Drenewydd er gwaethaf torri swyddi

  • Cyhoeddwyd
Ffatri Nidec
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nidec Control Techniques yn cyflogi tua 800 o bobl ar ddau safle yn Y Drenewydd

Mae cwmni a gafodd ei sefydlu yn Y Drenewydd dros hanner canrif yn ôl yn dweud ei fod "wedi ymrwymo i'r dref a'i phobl" er iddo gyhoeddi fis diwethaf y bydd bron i 100 o swyddi'n cael eu colli.

Sefydlwyd Nidec Control Techniques - KTK oedd ei enw gwreiddiol - yn Y Drenewydd ym 1973.

Ym 1979 symudodd y cwmni i safle mwy yn y dref ar ôl cael cynnig ffatri di-rent gan Gorfforaeth Datblygu Canolbarth Cymru.

Mae pencadlys y cwmni yn dal i fod yn Y Drenewydd lle mae bellach yn cyflogi tua 800 o bobl ar ddau safle, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr sector preifat mwyaf y canolbarth.

Ond fis diwethaf dywedodd y cwmni fel ymateb i "ansicrwydd yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang" bod yn rhaid iddo wneud newidiadau i'w weithlu yn Y Drenewydd a allai arwain at golli hyd at 98 o swyddi.

Mae'r cwmni'n dylunio ac yn cynhyrchu gyriannau cyflymder amrywiol sy'n rheoli moduron at amrywiaeth o bwrpasau, gan gynnwys mewn lifftiau, craeniau, y sector bwyd a diod, y diwydiant ceir a llawer o feysydd eraill.

Yn 2017 ymunodd Control Techniques â chorfforaeth Nidec o Japan sy'n gweithredu mewn mwy na 40 o wledydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Martin Cray fod y cwmni'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r Drenewydd er gwaethaf y cynllun i dorri swyddi

Dywedodd Martyn Cray, is-lywydd gweithrediadau byd-eang y cwmni: "Mae'r farchnad gyriannau yn farchnad gystadleuol iawn."

Roedd "galw enfawr" yn y cyfnod ar ôl Covid, meddai, ond mae hynny bellach yn gostwng yn Y Drenewydd ac yn fyd-eang

"Yn anffodus, ar ôl trafodaethau hir a llawer o fesurau a gymerwyd gennym i osgoi hyn, yn y pendraw does gennym ni ddim opsiwn arall ond colli swyddi."

Dywedodd Mr Cray fod yr ymgynghoriad gyda staff wedi dechrau'r wythnos ddiwethaf ac y bydd yn parhau am fis.

Yn dilyn hynny, ychwanegodd y bydd ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal gyda'r gweithwyr fydd yn cael eu heffeithio trwy fis Mawrth, gyda'r nod o gwblhau'r broses cyn y Pasg.

Mae Nidec Control Techniques - a elwir yn aml yn 'CT' gan bobl leol - yn gwmni uchel ei barch yn Y Drenewydd, sydd wedi darparu gwaith i gannoedd o bobl leol ers y 1970au.

Y ffatri yn Y Drenewydd yw cyfleuster mwyaf y cwmni yn y byd lle mae gyriannau'n cael eu gwneud.

'Eisiau presenoldeb yma yn y tymor hir'

Mae nwyddau'n cael eu cludo ar draws y byd o'r dref fach yn y canolbarth, a dywedodd Martin Cray fod y cwmni'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r Drenewydd er gwaethaf y cynllun i dorri swyddi.

"Ers 50 mlynedd ry'n ni wedi bod yma yn gorfforol yn Y Drenewydd," meddai.

"A thros y cyfnod hwnnw, mae'r cwmni wedi tyfu o fod â rhyw fath o feddylfryd 'garej' o adeiladu gyriannau hyd at gyfleuster gweithgynhyrchu o safon uchel iawn, iawn.

"Gallai hynny ddim ond dod o'r ffaith bod ein rhiant-gwmni - Nidec - yn credu yn Y Drenewydd, ac yn credu mewn Control Techniques ac eisiau cael presenoldeb yma yn y tymor hir."

Er y penderfyniad anodd i golli sywddi, ychwanegodd bod "cael ein pencadlys a'n canolfan ymchwil a datblygu yma yn dangos ein bod wedi ymrwymo i'r maes hwn ac wedi ymrwymo i bobl Y Drenewydd hefyd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd David Selby yn hyderus fod gwaith yn lleol i'r rheiny fydd yn colli eu swyddi

Mae David Selby yn gynghorydd yn Y Drenewydd ac mae hefyd yn aelod cabinet Cyngor Powys sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu economaidd.

Dywedodd y byddai colli 98 o swyddi yn cael effaith fawr ar y dref sydd â phoblogaeth o tua 11,000.

Ychwanegodd fod gan y cyngor adnoddau i helpu pobl sy'n wynebu colli gwaith a'u cysylltu â chyflogwyr newydd posib.

"Mae'r Drenewydd yn dref gweithgynhyrchu, ac mae llawer o sefydliadau da - ddim mor fawr â CT - sy'n chwilio am weithwyr.

"Dwi ddim yn gwybod yr union fanylion, ond dylai fod yn bosibl i bobl ddod o hyd i waith os ydyn nhw'n dymuno cael swydd debyg."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Russell George fod 98 o swyddi yn lawer i'w colli mewn tref fach

Bu Craig Williams, AS Maldwyn, a Russell George, sy'n cynrychioli'r etholaeth yn y Senedd, yn cwrdd â'r cwmni ar ôl y cyhoeddiad fis diwethaf.

Dywedodd Mr George, er gwaethaf eu hymrwymiad i'r ardal a chynlluniau am fuddsoddiad pellach, y bydd colli'r swyddi yn ergyd.

"Ry'n ni'n clywed weithiau am lawer mwy o swyddi'n cael eu colli mewn rhannau eraill o'r wlad.

"Ond os meddyliwch am sut mae canolbarth Cymru a'r boblogaeth yn is, yna mae 98 o swyddi'n llawer, yn anffodus.

"Felly bydd yn siomedig iawn i'r staff a rhai o'r teuluoedd hynny sy'n gysylltiedig, a dyna pam rwy'n awyddus iawn i gael cymorth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru i'r ardal.

"Mae pobl yn falch iawn o'r ffaith i Control Techniques ddechrau yma. Mae llawer o gefnogaeth i'r cwmni, a dyna pam roedd yn newyddion siomedig.

"Ond rwy'n falch serch hynny fod y cwmni wedi sôn am eu hymrwymiad i'r Drenewydd a lefel y buddsoddiad y maent yn parhau i'w roi yn yr ardal."

Pynciau cysylltiedig