'Haws cael y cyffur crac na thecawê,' medd un cyn-ddefnyddiwr
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd bod marwolaethau cocên yn dod yn broblem gynyddol wedi cynnydd sylweddol yn y niferoedd dros y ddegawd ddiwethaf.
Bellach mae mwy o bobl nag erioed yng Nghymru a Lloegr yn marw mewn cysylltiad â'r cyffur, a llynedd fe wnaeth lluoedd heddlu'r DU feddiannu mwy nag erioed o gocên powdr.
Fe benderfynodd Richard, 28, fod yn rhaid iddo adael ei gartref yn ne Cymru yn y diwedd, ac i ffwrdd o'i ferch, er mwyn ceisio delio gyda'i ddibyniaeth ar crac cocên.
"Mae'n haws cael crac nag yw e i gael tecawê," meddai wrth raglen The Drugs Map of Britain ar BBC Three.
Crac yw'r enw ar y stryd i math solet o gocên sydd fel arfer yn cael ei ysmygu, ac mae Richard wedi bod yn gaeth iddo ers pedair blynedd.
Roedd ei ferch yn gwybod ei fod yn cymryd cyffuriau, meddai Richard, ac felly roedd rhaid iddo droi am gymorth "nawr" er mwyn atal y cyffur rhag "rheoli fy mywyd".
"Allwch chi ddim dianc rhagddo fe pan mae e yn eich pen chi," meddai Richard, sy'n gyn-arddwr a gyrrwr bws.
"Dych chi'n fodlon gwneud unrhyw beth i gael gafael arno fe. Byddech chi'n gwerthu'r sgidiau oddi ar eich traed i gael crac.
"Gallwch chi guddio'r peth am ychydig o amser pan 'dych chi'n dechrau cymryd crac, ond yn y pen draw bydd e'n dangos.
"Roedd rhaid i rywbeth newid."
Mae Richard bellach wedi symud i Gaerlŷr ar gyfer rhaglen adfer o 16 wythnos, ac yn dilyn hynny bydd yn gwirfoddoli gydag elusen camddefnydd cyffuriau.
"Fy merch i oedd ar flaen fy meddwl pan 'nes i benderfynu gwneud hyn, i gael bywyd gwell i ni," meddai.
"Tasen i wedi mynd adre i dde Cymru ar ôl yr 16 wythnos dwi ddim yn meddwl fydden i wedi bod yn barod.
"Byddai siawns uchel y bydden i'n cymryd crac cocên eto. Ond ar ôl blwyddyn, fe af i adre."
Mae crac yn gyffur Dosbarth A sy'n aml yn cael ei gysylltu gydag ardaloedd difreintiedig.
Gall rhywun gael ei garcharu am hyd at saith mlynedd am fod â'r cyffur yn ei feddiant, a wynebu bywyd yn y carchar am ei ddelio.
Mae Glenn - nid ei enw iawn - yn gwerthu crac yn ne Cymru ac yn dweud ei fod yn gallu prynu owns o gocên am £900, cyn ei werthu fel crac am £2,500 mewn diwrnod.
"Bydden i'n dweud celwydd tasen i ddim yn cyfaddef mod i'n rhan o'r broblem o'r cylch yna o ddibyniaeth," meddai.
"Ro'n i'n arfer bod yn galed ar fy hunan yn meddwl mod i'n dinistrio bywydau. Ond os na fi'n 'neud e, bydd rhywun arall yn."
Yn 2019, y DU oedd â'r ganran uchaf o ddefnyddwyr cocên yn Ewrop - bellach Yr Iseldiroedd sydd ar y brig.
Mae ffigyrau swyddogol wedi dangos yn gyson mai cocên yw'r ail gyffur mwyaf poblogaidd yng Nghymru a Lloegr dros y ddegawd ddiwethaf, ar ôl canabis.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i wenwyn cyffuriau yng Nghymru a Lloegr ar ei uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 1993, gyda 4,907 o farwolaethau yn 2022 - 857 ohonynt yn bobl oedd wedi cymryd cocên.
Mae marwolaethau cysylltiedig â chocên bum gwaith yn uwch yng Nghymru a Lloegr na'r hyn oedden nhw 10 mlynedd yn ôl.
"Mae 'na epidemig ohono," meddai Richard sy'n byw yn y Rhondda.
"Rai blynyddoedd yn ôl fe fyddai'n rhaid i chi fynd i Gaerdydd i'w gael - ond nawr mae gwerthwyr yn dod i'r cymoedd."
Mae ffigyrau swyddogol yn awgrymu bod bron i 30% yn fwy o bobl yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio Cyffur Dosbarth A - cyffuriau fel cocên, crac cocên, ecstasi a heroin - na'r hyn oedd yn gwneud 10 mlynedd yn ôl.
Fe wnaeth plismyn ar draws y DU gipio 3.36 tunnell o gocên y llynedd - dwywaith yn fwy na'r flwyddyn cyn hynny.
Dywed yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol bod tystiolaeth yn awgrymu mai crac cocên sy'n gyfrifol am y cynnydd mewn trais yng Nghymru a Lloegr, ac mae lluoedd yr heddlu wedi rhybuddio defnyddwyr a gangiau bod yna fesurau cyfreithiol gorfodol i'w dal.
Mae ffigyrau Cymru ar gam-drin sylweddau yn dangos bod yr angen am wasanaethau ar gyfer camddefnyddio crac wedi codi yng Nghymru fwy na 50% yn ystod y pum mlynedd hyd at 2021.
Dywedodd y rhai sy'n rhoi cymorth bod defnyddwyr yn dweud wrthyn nhw bod rhoi'r gorau i crac cocên yn anodd gan nad oes triniaeth glinigol - mae methadon yn gallu helpu y rhai sy'n gaeth i heroin.
Yr unig beth a all helpu y rhai sy'n gaeth i gyffur crac yw therapi gwybyddol ymddygiadol ac mae hynny yn ei gwneud hi'n anodd perswadio defnyddwyr i roi'r gorau iddi, medd y rhai sy'n rhoi cymorth.
"Mae hi mor hawdd bod yn gaeth iddo," meddai Cullan Mais a fu'n gaeth i crac ond sydd bellach yn gweithio i elusen gyffuriau Kaleidoscope.
"Mae 'na bethau chi'n gallu cymryd yn lle rhai cyffuriau eraill a chymorth ond does yna ddim llawer ma's 'na ar gyfer cocên a chrac cocên.
"Mae'n drist achos mae gan bobl gywilydd i siarad am y peth - a dydyn nhw ddim yn cael help os nad ydyn nhw'n cyfaddef. Mae yna gymaint o bobl â phroblemau heb wybod lle i droi."
Fe dreuliodd Cullan, 32, gyfnod yn y carchar am ddwyn a hynny er mwyn ariannu ei ddibyniaeth ar gyffuriau ond dywed ei fod bellach yn lân ers 10 mlynedd.
Mae Richard nawr am helpu eraill a dywed fod ei gyfnod o driniaeth adfer wedi helpu llawer. Mae'n teimlo nad yw'n gaeth bellach ac yn "ddyn newydd".
"Nid Richard sy'n ysmygu crac ydw i mwyach ond Richard y Cristion sy'n dad cariadus," meddai.
"Dwi'n falch ohonof fy hun ond nid yn ddigon naïf i feddwl bod y siwrne ar ben. Ond rwyf am helpu eraill rhywdro a dwi am i fy stori i roi gobaith."
Os yw'r stori hon wedi effeithio arnoch mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.
Mae'r gyfresThe Drugs Map of Britain i'w gweld ar BBC iPlayer ac ar BBC Three ddydd Mawrth am 22:15.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020