Mam bachgen fu farw yn croesawu ymgyrch gwrthgyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae mam bachgen 13 oed fu farw ar ôl cymryd cyffuriau oedd wedi eu prynu ar Snapchat wedi croesawu ymgyrch gwrthgyffuriau ar yr ap.
Bu farw Carson Price, o Hengoed, Sir Gaerffili, ym mis Ebrill 2019 wedi iddo gymryd cyffuriau Dosbarth A .
Ym mis Awst eleni cafodd bachgen 15 oed Orchymyn Atgyfeirio Ieuenctid fydd yn para am 12 mis wedi iddo gyfaddef cyflenwi ecstasi i Carson.
Mae mam Carson, Tatum, yn croesawu ymgyrch Fearless gan Crimestoppers, fydd yn gweld hysbysebion yn ymddangos yn Gymraeg a'r Saesneg i bobl ifanc ar yr ap.
Mae'r straeon fydd yn ymddangos yn seiliedig ar brofiadau pobl ifanc gyda chyffuriau ac ecsbloetiaeth, ac yn dweud sut y mae modd codi pryderon am unrhyw droseddau yn ddienw i Crimestoppers.
'Targedu plant yn well'
Mae 250m o bobl ar draws y byd yn defnyddio Snapchat yn ddyddiol, ac mae ffigyrau'n awgrymu bod dros 60% o bobl 13-34 oed yn y DU yn ei ddefnyddio.
Mae'r ap yn galluogi defnyddwyr i yrru lluniau sy'n ymddangos am ychydig eiliadau cyn diflannu, gan arwain at bryderon bod delwyr cyffuriau yn ei ddefnyddio i hysbysu cwsmeriaid posib.
"Mae'n rhywbeth positif - bydd ei wneud e ar gyfryngau cymdeithasol yn targedu plant yn well," meddai Ms Price.
"Os ydy'r hysbysebion ar y teledu neu ar y stryd dydw i ddim yn credu y bydden nhw'n cymryd sylw."
Er ei bod yn croesawu ymgyrch Crimestoppers, mae Ms Price yn dweud bod angen gwneud mwy i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar Snapchat.
Ers dechrau'r pandemig ym mis Mawrth mae Crimestoppers Cymru wedi cyrraedd cynulleidfa o 60,000 o bobl ifanc trwy Snapchat.
Mae hynny bron ddwbl y nifer y llwyddodd y mudiad i'w cyrraedd wyneb-i-wyneb mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid trwy gydol 2019.
Dywedodd rheolwr cenedlaethol Crimestoppers yng Nghymru, Ella Rabaiotti bod yr hysbysebion ar yr ap wedi gweld mwy o bobl ifanc yn gofyn am gymorth.
"Y nod ydy eu hatgoffa, os oes ganddyn nhw wybodaeth a'u bod yn ofnus neu'n bryderus am roi gwybod i rywun, bod modd defnyddio ein gwasanaeth yn ddienw," meddai.
Mae Ms Price yn croesawu'r pwyslais ar adrodd yn ddienw, gan ddweud ei bod yn credu y byddai hynny'n annog mwy o bobl ifanc i adrodd unrhyw bryderon.
Ymateb Snapchat
Dywedodd y cwmni sy'n berchen ar Snapchat, Snap bod eu canllawiau yn "gwahardd unrhyw un rhag defnyddio Snapchat i brynu neu werthu cyffuriau anghyfreithlon.
"Mae modd i unrhyw un sy'n gweld gweithgareddau anghyfreithlon i adrodd hynny ar yr ap, ac rydyn ni'n annog defnyddwyr i wneud hynny."
"Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd i wella ein hymateb i'r gweithgareddau hynny ymhellach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2019