Barcutiaid hynod o brin wedi'u gweld yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Barcud Coch wenFfynhonnell y llun, Gigrin Farm
Disgrifiad o’r llun,

Barcud coch gwyn prin yn hedfan ym Mhowys

Mae aderyn hynod o brin wedi cael ei weld yng Nghymru.

Mae Canolfan Fwydo Barcutiaid Coch Gigrin Farm yn Rhaeadr Gwy ym Mhowys yn dweud eu bod wedi gweld tri barcud coch gwyn dros y misoedd diwethaf, gyda dau yn aml yn ymweld gyda'i gilydd.

Mae'r adar yn farcutiaid coch heb bigment (leucistic), a does dim llawer ohonynt yn bodoli dros y byd.

Absenoldeb o eumelanin a pheomelanin yn y plu yw'r achos tu ôl i liw'r adar prin yma.

Ffynhonnell y llun, Rodney Holbrook
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan fwydo barcutiaid coch ym Mhowys yn dweud eu bod wedi gweld tri barcud coch gwyn dros y misoedd diwethaf

Ymysg yr ymwelwyr lwcus a welodd y barcud coch gwyn yn y ganolfan fwydo ym Mhowys oedd Rodney Holbrook, a lwyddodd i dynnu llun o'r aderyn.

"Roedd yn hudolus i'w gweld nhw. Rydw i mor falch - ddaeth yr aderyn yn eitha' agos ata' i," meddai.

Ychwanegodd fod cael y llun yn dipyn o her.

"Dydi o ddim mor hawdd â be' fyddai rhai yn meddwl, oherwydd mae angen eu dilyn nhw.

"Fe allwch chi gymryd 400 i 500 o luniau a bydd 200 ohonyn nhw ddim yn glir."

Pynciau cysylltiedig