Enillwyr Gwobrau'r Selar 2024

  • Cyhoeddwyd
selar

Dros yr wythnos ddiwethaf mae BBC Radio Cymru wedi datgan enillwyr Gwobrau'r Selar 2024.

Felly, dyma'r rhestr o'r holl artistiaid buddugol eleni.

Gwobr arbennig: Gai Toms

Gai yn derbyn y wobr ar Raglen Rhys Mwyn.

Cyfansoddwr rhai o ganeuon mwyaf eiconig y 1990au a'r 2000au gafodd ei ddewis gan Y Selar fel enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig 2023. Er bod Gai wedi honni ar raglen Rhys Mwyn ei fod o'n rhy ifanc i ennill gwobr o'r fath, does dim dwywaith fod yr artist o Flaenau Ffestiniog yn llwyr haeddiannol o'r clod.

Ffynhonnell y llun, Y Selar

Band neu Artist Newydd Gorau: Dadleoli

Efan, Jac, Tom, Caleb a Jake o Gaerdydd ddaeth i'r brig fel Band Newydd Gorau 2023. Aeth y pump o nerth i nerth yn 2023, ac mae 2024 yn argoeli'n flwyddyn fawr iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Dadleoli

Record Fer Orau: Diwrnodau Haf - Dadleoli

Ifan Jones yn Evans yn datgan ar ei raglen mai Dadleoli oedd enillydd y record fer orau.

Yr ail wobr i'r band ifanc o Gaerdydd, a dydyn nhw ddim i'w gweld yn stopio chwaith, gyda sengl newydd allan ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Ffynhonnell y llun, Dadleoli

Cân Orau: 'Bolmynydd' - Pys Melyn

Pys Melyn yn ennill gwobr 'Can Orau' - rhaglen Aled Hughes, 14 Chwefror.

"Bolmynydd, Bolmynydd - yr unig le i mi!" Y band o Ben-Llŷn gipiodd y wobr am Gân Orau 2023. Roedd 2023 yn flwyddyn brysur iawn i'r band, wrth iddynt fynd ar deithiau gyda Melin Melyn a chefnogi un o'u ffans mwyaf - Gruff Rhys.

Ffynhonnell y llun, Pys Melyn

Gwaith Celf: 'Fel Hyn Fel Arfer' - Y Cledrau

Georgia Ruth yn datgan bod y wobr yn mynd i'r Cledrau, 13 Chwefror.

Y gwaith celf ar gyfer sengl ddiweddaraf y band o ardal Y Bala aeth â hi yn y categori yma, ddwy flynedd ar ôl i waith celf eu hail halbwm, 'Cashews Blasus', ddod i'r brig. Yr artist o Gaerdydd, James Reid, oedd yn gyfrifol am y gwaith.

Ffynhonnell y llun, Y Cledrau

Artist Unigol Gorau: Malan

Georgia Ruth yn datgan fod y wobr yn mynd i Malan, 13 Chwefror.

Yr artist jazz o Gaernarfon ydi Artist Unigol Gorau 2023 yn ôl y pleidleiswyr, yn dilyn blwyddyn brysur o recordio a rhyddhau ei record fer gyntaf, 'Bloom'.

Band Gorau: Fleur de Lys

Aled Hughes yn cyhoeddi enillydd gwobr band gorau ar ei raglen, 15 Chwefror.

Yn dilyn rhyddhau eu hail halbwm a gigio ledled Cymru, y pedwarawd o Fôn a Morfa Nefyn ydi Band Gorau 2023.

Gwobr 2023: Tara Bandito

Mirain Iwerydd, ar Radio Cymru ar 15 Chwefror, yn datgan bod Tara Bandito wedi ennill Gwobr 2023.

Enillodd y gantores boblogaidd o Sir Gonwy Gwobr 2023. Aeth Tara ar daith yn ddiweddar gan berfformio yng ngŵyl LUCFest yn Nhaiwan ym mis Tachwedd. Mae ffilm wedi ei ryddhau yn olrhain hanes Tara, dolen allanol ar y daith.

Ffynhonnell y llun, Y Selar

Seren y Sin: Criw Gigs Tin Sardins

Ifan Davies, ar raglen Huw Stephens, yn datgan bod y wobr yn mynd i Criw Gigs Tin Sardins, 15 Chwefror.

Criw gweithgar o drefnwyr gigs yn ardal Caernarfon ydi enillwyr categori Seren y Sîn 2023. Dechreuodd y criw (sy'n cynnwys aelodau o KIM HON, Y Reu, a Tri Hŵr Doeth) drefnu ar ôl sylwi ar brinder gigs annibynnol yn yr ardal, ac mae nhw wedi profi'n llwyddiant mawr.

Ffynhonnell y llun, Selar

Fideo Gorau: 'Hotel' - Gwcci

Mirain Iwerydd, ar Radio Cymru ar 15 Chwefror, yn trafod enillwyr y categori Fideo Gorau, Gwcci.

Y triawd cudd GWCCI sy'n "codi tymheredd y sîn gerddoriaeth Gymraeg" enillodd y wobr am Fideo Gorau 2023. Y band eu hunain a Dan Jardine oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo, cynhyrchu a golygu'r fideo.

Ffynhonnell y llun, Gwcci

Record Hir Orau: Dim Dwywaith - Mellt

Ifan Davies, ar raglen Huw Stephens, yn datgan bod Mellt yn fuddugol yn y categori Record Hir Orau, 15 Chwefror.

Ail albwm Glyn, Ellis a Jacob ydi Record Hir Orau 2023. Daeth y triawd o Aberystwyth â 2023 i ben gyda thaith o amgylch Cymru i nodi rhyddhau'r record, ac mae'n amlwg eu bod wedi creu argraff.

Ffynhonnell y llun, Mellt

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig