Llafur Cymru: Yr Arglwydd Kinnock yn cefnogi Gething i fod yn brif weinidog

  • Cyhoeddwyd
Neil KinnockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Arglwydd Kinnock, cyn AS Islwyn, oedd arweinydd Llafur y DU rhwng 1983 a 1992

Mae cyn-arweinydd Llafur, yr Arglwydd Kinnock, wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi Vaughan Gething i arwain y blaid yng Nghymru ac i fod y prif weinidog nesaf.

Dywedodd fod Mr Gething wedi dangos "pwrpas clir, ymarferol, synnwyr cyffredin a gwytnwch" fel gweinidog iechyd Cymru yn ystod y pandemig.

Mae Mr Gething, sydd bellach yn weinidog economi Cymru, a Jeremy Miles, y gweinidog addysg, yn ceisio olynu Mark Drakeford.

Wrth ysgrifennu yn y Mirror ddydd Mercher, dywedodd yr Arglwydd Kinnock: "Mae angen gwerthoedd ar bob arweinydd i'w harwain; gweledigaeth sy'n rhoi pwrpas clir, ymarferol iddynt; synnwyr cyffredin a gwytnwch fel eu bod yn realistig ac yn gadarn - yn enwedig mewn cyfnod anodd.

"Mae gan Vaughan y rhinweddau hynny yn llawn - maen nhw wedi'u gwreiddio'n ddwfn ac, yn hollbwysig, wedi'u profi o dan bwysau wrth i Vaughan, ynghyd â Mark, arwain Cymru drwy'r pandemig Covid-19 yn ei rôl flaenorol fel gweinidog iechyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething a Jeremy Miles yw'r ddau ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Llafur

Ddydd Mercher hefyd, dywedodd Jeremy Miles y dylai Llafur Cymru "bob amser fod yn unigryw ac yn hyderus Gymreig".

Mae Llafur Cymru "wedi'i gwreiddio mewn balchder dros ein gwlad a gofal am ein pobl", meddai.

"Rwy'n falch o fod yn Gymro, ac yn falch o fod yn Llafur.

"Fy ngwerthoedd yw gwerthoedd Llafur Cymru - ac rwyf wedi bod yn aelod o'n plaid ers dros 35 mlynedd."