Ras Llafur Cymru: 'Neges ynghylch 20mya yn anghywir'
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gamgymeriadau wrth gyfathrebu ei pholisi 20mya, yn ôl un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.
Dywedodd Vaughan Gething bod angen i weinidogion "wrando ac nid pregethu" i'r cyhoedd.
Fe gafodd y Gweinidog Economi a'i wrthwynebydd yn y ras i olynu Mark Drakeford, Jeremy Miles, eu holi'n fyw ddydd Sul ar raglen Politics Wales.
Fe wnaeth Mr Miles addewid i "brynu neu adeiladu" safleoedd newydd er mwyn mynd i'r afael ag amseroedd aros triniaethau orthopedig, gan awgrymu y byddai cynghorau'n helpu i'w cyllido.
Yn y cyfamser, dywedodd bod gofyn i ffermwyr blannu 10% o'u tir â choed yn bolisi "cywir".
Mae'r mater hwnnw ymhlith nifer sydd wedi ysgogi protestiadau gan ffermwyr yn ddiweddar.
Mae Mr Gething a Mr Miles wedi dweud na fydden nhw'n cefnu ar y polisi 20mya, gan addo yn hytrach i adolygu'r ffordd y mae'r drefn newydd yn cael ei gweithredu.
Mae adolygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd o ran y canllawiau i gynghorau wrth benderfynu pa ffyrdd ddylai gael eu heithrio.
'Cefnogaeth eang'
Yn ôl Mr Gething mae yna "gefnogaeth eang i'r egwyddor cyffredinol o arafu cyflymderau ar ystadau ble mae yna blant, ac wrth ymyl ysgolion".
"Ein her, rwy'n meddwl, oedd, wrth gyflwyno'r [drefn] 20mya, cael rhywfaint o'r ochr gyfathrebu yn anghywir.
"Mae'n bwysig i ddangos ein bod wedi gwrando o ran hynny hefyd.
"Mae adolygu'r canllawiau yn bwysig. Rwyf wedi dweud yn gyson, serch hynny, bod hynny ynddo'i hun ddim yn mynd i fod yn ddigon.
"Y pwynt rwy'n ei wneud yw bod yr egwyddor yn un cywir o ran arafu cyflymderau ar lawer o ffyrdd ond mae'n rhaid i ni wrando a ni pregethu."
Amseroedd aros
Mae yna addewid ym maniffesto Jeremy Miles i sefydlu canolfannau arbennig ar gyfer gosod cluniau a phengliniau newydd er mwyn clirio rhestrau aros am driniaethau.
Yn ei gyfweliad, dywedodd Mr Miles y byddai hynny o ganlyniad "cydweithredu rhwng byrddau iechyd a chynghorau lleol sydd â'r grym neu'r mynediad at gyllid cyfalaf i wneud i hyn ddigwydd.
"Mae'r canolfannau hyn mewn llefydd gwahanol [i'r ysbytai] felly maen nhw'n cael eu gwarchod rhag y pwysau y byddai'n cael eu dwyn arnyn nhw o fod mewn ysbyty."
Mae'r cynllun, meddai, yn wahanol i brojectau eraill sydd eisoes ar waith i leihau rhestrau aros.
"Bydd angen i naill ai brynu neud adeiladu safleoedd newydd i hynny ddigwydd," dywedodd.
Mae cynghorau yn ariannu gofal cymdeithasol, ond dydyn nhw ddim ar hyn o bryd yn darparu gwasanaethau iechyd.
Mae meddygon iau Cymru yn bwriadu streicio eto dros gynnig Llywodraeth Cymru i roi codiad cyflog o 5%, sy'n llai na'r cynigion yn Lloegr a'r Alban.
Fe wnaeth Mr Gething gydnabod bod cyflogau staff y GIG wedi gostwng mewn termau real a bod llawer ohonyn nhw wedi "cyrraedd pen eu tennyn".
"Yr hyn sy'n rhaid i ni allu ei wneud yw parhau i eistedd i lawr gyda'r BMA, ac undebau eraill y gwasanaeth iechyd, i edrych ar ein hymrwymiad tymor hir i adfer cyflogau, a thrafod yn onest yr hyn y gallwn ei wneud o fewn fframwaith y gyllideb sydd gynnon ni nawr ag yn y dyfodol."
Polisi coed yn un 'cywir'
Dywedodd Mr Miles fod pob rhan o economi Cymru yn gorfod ymateb i'r "argyfwng" newid hinsawdd gan gynnwys y sector amaethyddol.
Mae cymhorthdal newydd yn cael ei gyflwyno i ffermwyr sydd â'r nod o wobrwyo cynhyrchu ac arferion bwyd "cynaliadwy" sy'n helpu mynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli elfennau natur.
I fod yn gymwys ar gyfer y taliadau mae'n rhaid i ffermydd sicrhau bod 10% o'u tir yn cael ei blannu gyda choed a bod 10% yn cael ei drin fel cynefin bywyd gwyllt.
Mae undebau ffermio yn dadlau na fydd hyn yn ymarferol i lawer a bydd rhestr wirio gofynion y cynllun yn golygu bod yna fwy o waith papur.
Dywedodd Mr Miles bod y targedau plannu coed yn "llawer mwy hyblyg nag y maen nhw'n ymddangos".
Ond pan ofynnwyd a fyddai modd eu llacio, atebodd: "Na, rwy'n credu mai dyma'r polisi cywir, ond mae yn hyblygrwydd o fewn y polisi hwnnw i'w reoli'n sensitif. Felly mae modd plannu'r goeden gywir yn y lle cywir."
Mae ymgynghoriad ar y gweill. Ni wnaeth Mr Gething ddiystyru'r posibilrwydd o leihau'r gofyniad 10%.
"Rwy'n barod i gael sgwrs gydag undebau ffermio, fel y maen nhw'n ei gael gyda [y Gweinidog Materion Gwledig] Lesley Griffiths," meddai.
'Dim cynllun'
Gan ymateb i'r cyfweliadau, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies bod "dim cynllun" gan y naill ymgeisydd na'r llall "i fynd i'r afael â'r materion pwysicaf yng Nghymru".
"Bydd y ddau ohonyn nhw ond yn gwneud mwy o'r un peth - canolbwyntio ar hoff brosiectau Llafur sef mwy o wleidyddion, gwahardd ffyrdd newydd a'r cyfyngiad 20mya hurt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd4 Chwefror