Teimladau cymysg am gynllun pibellau tanfor yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Pwerdy Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan bwerdy Penfro'r capasiti i gynhyrchu digon o drydan o losgi nwy i bweru pedair miliwn o gartrefi

Mae yna fwriad i osod pibellau tanfor newydd i gludo allyriadau carbon deuocsid o bwerdy yng ngorllewin Cymru - un o bwerdai nwy mwyaf Ewrop.

Byddai'r cynllun yn cysylltu'r pwerdy ger Penfro â gorsaf nwy naturiol hylifedig (LNG) ar ochr draw dyfrffordd Aberdaugleddau.

Mae cefnogwyr yn dweud y gallai ddiogelu swyddi tra'n helpu'r DU i gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd.

Ond byddai'r gwaith adeiladu sylweddol yn gorfod digwydd ar draws aber prysur sydd wedi'i warchod yn amgylcheddol.

Dweud y byddai'n well gwario'r arian ar fwy o ynni adnewyddadwy mae Cyfeillion y Ddaear.

Ffynhonnell y llun, RWE
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwybr y biblinell arfaethedig yn croesi lôn longau brysur ac mae'n safle o bwysigrwydd amgylcheddol

Mae gan bwerdy Penfro'r capasiti i gynhyrchu digon o drydan o losgi nwy i bweru pedair miliwn o gartrefi.

Er ei fod e'n un o allyrwyr carbon deuocsid mwya' Cymru, mae ganddo "rôl allweddol" yn nhrawsnewidiad y wlad i ddyfodol glanach, yn ôl ei berchennog - cwmni RWE.

Ateb RWE - yn ogystal â buddsoddi mewn cyfleusterau cynhyrchu hydrogen allai ddisodli nwy yn y dyfodol - yw dal a storio carbon.

Mae'r cwmni'n anelu at allu dal hyd at 2 megadunnell o allyriadau erbyn 2030, gan gynyddu i 5Mt erbyn 2035 - sy' gyfystyr â chael gwared ar filiwn o geir petrol oddi ar y ffyrdd.

Ond mae hyn yn dibynnu ar allu sefydlu ffordd o gludo'r CO2 yna'r holl ffordd i hen feysydd nwy ac olew gwag ym Môr y Gogledd i'w gladdu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nwy naturiol ar ffurf hylif oer yn cael ei dwymo, ei droi'n ôl i nwy a'i anfon oddi o Dragon LNG

Dyna pam fod angen pibellau ar draws dyfrffordd Aberdaugleddau.

Ychydig dros hanner milltir o'r pwerdy, dros y dŵr, mae Dragon LNG - un o dair gorsaf yn y DU lle mae nwy naturiol ar ffurf hylif oer yn cyrraedd ar danceri enfawr o dramor.

Mae'n cael ei dwymo, ei droi'n ôl i nwy a'i anfon oddi yno i gartrefi a busnesau.

Yn debyg i hynny - y bwriad yw anfon allyriadau carbon pwerdy Penfro ar draws yr aber i'w troi'n hylif a'u llwytho ar longau yn yr orsaf LNG.

Gallai'r pibellau hefyd gludo gwres sy'n wastraff o'r pwerdy i helpu datgarboneiddio rhai o'r prosesau diwydiannol ar safle Dragon LNG.

Byddai modd anfon hydrogen hefyd yn y dyfodol o bosib - gan gysylltu busnesau i'r gogledd o'r aber a chyflenwad o'r tanwydd glân.

2,000 o swyddi?

Y gobaith yw gallu adeiladu'r prosiect cyn diwedd y ddegawd, gydag archwiliadau peirianyddol wrthi'n cael eu gwneud, wedi'u hariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Ond bydd sicrhau caniatâd rheoleiddion i adeiladu cwys a gosod pibellau ar draws llwybr prysur i gychod a fferis, ac ardal cadwraeth arbennig ddim yn dasg hawdd.

Os yw'r cynllun yn llwyddiant, y bwriad yw ceisio'i efelychu ar safleoedd diwydiannol eraill drwy dde Cymru - gan gynnwys Port Talbot, Caerdydd a Chasnewydd - gan sefydlu llwybr i allforio CO2, allai achub swyddi, yn ôl y cwmnïau, drwy ganiatáu i hen ddiwydiannau ddatgarboneiddio.

Mae'r prosiect yn rhan o gynllun ehangach Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) - sef diwydiannau mawr ar draws y rhanbarth yn gweithio ar dorri allyriadau ar y cyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mair Lewis, swyddog cyswllt cymunedol gorsaf bŵer Penfro

"Mae gymaint o swyddi'n gallu dod mas o hwn," eglurodd Mair Lewis, swyddog cyswllt cymunedol gorsaf bŵer Penfro.

"O ran y prosiectau sydd gyda ni fan hyn ar y safle i ddatgarboneiddio bydd angen oddeutu 2,000 ar gyfer y gwaith adeiladu [erbyn diwedd y degawd]," ychwanegodd.

Ond dywedodd Cyfeillion y Ddaear eu bod yn teimlo bod 'na resymau i fod yn "hynod o amheus" ynglŷn â'r cynlluniau.

Byddai defnyddio technoleg o'r fath yn "ein clymu i danwyddau ffosil am ddegawdau i ddod", meddai Mike Child, pennaeth gwyddoniaeth, polisi ac ymchwil yr elusen.

"Yn hytrach na defnyddio nwy i gynhyrchu trydan mae angen i ni symud i ffwrdd o hynny'n llwyr a ffocysu ar ynni adnewyddadwy a ffyrdd o storio ynni," meddai

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddan nhw'n gweithio i gefnogi'r gwaith ymchwil i ymarferoldeb y cynllun.

"Bydd ein timau yn darparu cyngor arbenigol i sicrhau bod ardal cadwraeth forol arbennig Sir Benfro a safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig dyfrffordd Aberdaugleddau yn cael eu diogelu," meddai cyfarwyddwr gweithredol CNC, Sarah Jennings.

"Ry'n ni'n gobeithio dod o hyd i atebion arloesol sy'n cydbwyso ymdrechion i ddadgarboneiddio yn ofalus gyda gwarchod yr amgylchedd naturiol, er budd bywyd gwyllt a'r gymuned yn lleol."

Pynciau cysylltiedig