Gwrthod apêl i godi mast 51m o uchder ar y Preselau
- Cyhoeddwyd
Mae apêl cwmni oedd am godi tŵr telegyfathrebu 51 metr o uchder ar y Preselau wedi cael ei wrthod.
Cafodd cais gwreiddiol cwmni Britannia Towers II ei wrthod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym mis Hydref 2022 yn sgil pryder am yr effaith ar dirlun arbennig yr ardal, a daeth cadarnhad ddydd Mawrth bod apêl y cwmni yn erbyn y penderfyniad hwnnw hefyd wedi ei wrthod.
Roedd y cwmni wedi dadlau y byddai'r tŵr ger Rosebush yn hwyluso'r broses o drosglwyddo data ariannol rhwng canolfannau yn Ne Iwerddon a Lloegr.
Dywedodd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru - y sefydliad sy'n gyfrifol am benderfynu ar apeliadau cynllunio - mai'r prif reswm bod y cais wedi ei wrthod oedd effaith posib y datblygiad ar dirwedd y parc cenedlaethol.
Roedd yna bryderon yn lleol i effaith posib y cynlluniau, a chafodd grŵp newydd - Cyfeillion y Preselau - ei ffurfio i ymladd yn eu herbyn.
Pe bai'r cais wedi cael ei ganiatáu ar apêl, roedd y grŵp yn poeni y gallai hynny osod cynsail peryglus am ddatblygiadau pellach o fewn y parc cenedlaethol.
Yn ôl Hefin Wyn o grŵp Gwarchod y Preselau, mae hi wedi bod yn "braf gweld cynifer, a thrawsdoriad mor eang o blith y trigolion yn awyddus i ddiogelu'r Preselau".
"Diolch i'r Arolygiaeth am benderfynu o blaid synnwyr cyffredin," meddai.
"Mae 'na elfennau eraill i'w diogelu hefyd, megis yr iaith a'r diwylliant. Mawr obeithir y gall y cyfeillion brofi yr un mor frwd fel mudiad i wrthsefyll bygythiadau, a throi'r pryderon cyfredol yn faterion o lawenydd cyn pen fawr o dro."
Ardal 'arbennig ac unigryw'
Yn ei adroddiad, mae'r arolygydd Mr A Thickett o Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn rhestru sawl rheswm y tu ôl i'r penderfyniad i wrthod yr apêl.
Yn eu plith mae'n nodi bod y safle dan sylw mewn ardal hanesyddol o bwys, ac mai dyma'r ardal o ucheldir mwyaf eang o fewn ffiniau'r parc.
"Rwyf yn ystyried y byddai'r tŵr, y dysglau a'r antennae arfaethedig, oherwydd eu lleoliad a'u huchder, yn cael effaith andwyol sylweddol ar dirwedd y Parc Cenedlaethol," meddai.
"Ni fyddai'r niwed hwn yn cael ei liniaru i unrhyw raddau sylweddol trwy orffen y mast mewn gwahanol liw i'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol.
Ychwanegodd bod nodweddion yr ardal dan sylw yn "arbennig" ac yn "unigryw o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2023
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022