Cynyddu nifer oriau darlledu gwreiddiol Radio Cymru 2

  • Cyhoeddwyd
Rhydian Bowen Phillips a Lisa Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd Rhydian Bowen Phillips a Lisa Gwilym yn parhau i ddarlledu ar foreau Llun i Iau

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd nifer yr oriau o ddarlledu gwreiddiol ar wasanaeth BBC Radio Cymru 2 yn cael eu hymestyn.

O ddydd Llun 4 Mawrth bydd oriau darlledu cyffredinol y gwasanaeth yn cael eu hymestyn hefyd, gyda'r amserlen yn cynnwys cyfuniad o raglenni gwreiddiol a rhaglenni sydd hefyd yn cael eu darlledu ar BBC Radio Cymru.

Cerddoriaeth fydd prif ffocws y gwasanaeth gyda'r amserlen newydd 17 awr yn cynnwys cyfuniad o DJ's adnabyddus fel Rhydian Bowen Phillips a Lisa Gwilym, a rhaglenni cerddoriaeth yn unig.

Dywedodd Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, bod hyn yn "gyfle euraidd i gyrraedd cynulleidfa newydd trwy gyfrwng y Gymraeg".

Ym mis Ionawr fe gafodd y BBC ganiatâd gan y corff rheoleiddio Ofcom i fwrw 'mlaen gyda chynlluniau i ymestyn nifer yr oriau darlledu ar Radio Cymru 2.

Mae hyn yn golygu fod y sianel yn dod yn orsaf radio gwasanaeth cyhoeddus, gyda llefarydd ar ran y BBC yn dweud ar y pryd bod y penderfyniad yn dangos bod Radio Cymru 2 "yn darparu gwerth uchel am arian".

Ers y cyhoeddiad hwnnw mae hi wedi dod i'r amlwg bod nifer gwrandawyr wythnosol BBC Radio Cymru wedi gostwng yn is na 100,000 am y tro cyntaf, a hynny yn y chwe mis hyd at ddiwedd Rhagfyr.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y data RAJAR mwyaf diweddar - cyfuniad o ffigyrau gwrando byw Radio Cymru a Radio Cymru 2 - yn awgrymu mai 95,000 oedd y cyrhaeddiad wythnosol

Mae'r newidiadau yn golygu y bydd cynnydd sylweddol yn nifer yr oriau darlledu gwreiddiol ar BBC Radio Cymru 2.

Ar ddyddiau Llun i Iau bydd nifer yr oriau o raglenni gwreiddiol yn codi o bedair i naw, o bedair i chwech ar ddyddiau Gwener, parhau'r un peth ar ddyddiau Sadwrn ac yn codi o dair i 14 ar ddyddiau Sul.

Dywedodd Dafydd Meredydd bod hyn "yn newyddion da i'r gwrandawyr sydd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth" a'i fod yn "falch iawn ein bod ni'n gallu cynnig Radio Cymru 2 am fwy o oriau".

"Yn ogystal â rhai o DJs mwyaf cyffrous Cymru yn cyflwyno'r rhaglenni, bydd rhestrau chwarae gwych wedi eu dewis gan rai o sêr Cymru megis Josh Navidi a Tara Bandito," meddai.

Fe fydd Lisa Gwilym yn parhau i ddarlledu ar y gwasanaeth ar ddyddiau Llun i Iau: "Tiwns drwy'r dydd fydd ar Radio Cymru 2 - a dwi methu disgwyl!

"Mi fydd gen i fwy fyth o gerddoriaeth i wneud ein diwrnod ni gyd yn well a dwi wir yn edrych ymlaen at chwarae'r traciau sy'n rhoi gwên ar ein wynebau ni... felly tiwniwch mewn am y tiwns!"

Amserlen newydd BBC Radio Cymru 2

Dydd Llun - Iau

07:00 - 10:00 - Rhydian Bowen Phillips

10:00 - 14:00 - Lisa Gwilym

14:00 - 17:00 - Ifan Jones Evans (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

17:00 - 19:00 - Traciau Radio Cymru 2

19:00 - 21:00 - Rhys Mwyn, Georgia Ruth, Mirain Iwerydd, Huw Stephens (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

21:00 - 00:00 - Caryl Parry Jones (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

Dydd Gwener

07:00 - 09:00 - Lisa Angharad

09:00 - 11:00 - Trystan ac Emma (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

11:00 - 14:00 - Dom James

14:00 - 17:00 - Tudur Owen (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

17:00 - 18:00 - Parti Nos Wener

18:00 - 21:00 - Lauren Moore (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

21:00 - 00:00 - Ffion Emyr (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

Dydd Sadwrn

07:00 - 09:00 - Daniel Glyn

09:00 - 11:00 - Tudur Owen (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

11:00 - 14:00 - Sioe Sadwrn (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

14:00 - 17:30 - Traciau Radio Cymru 2 - yn cynnwys Dewis, Parti'r Penwythnos a Nôl i'r Nawdegau

17:30 - 21:00 - Marc Griffiths (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

21:00 - 00:00 - Ffion Emyr (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

Dydd Sul

07:00 - 10:00 - Mirain Iwerydd

10:00 - 21:00 - Traciau Radio Cymru 2 - yn cynnwys Dewis a Parti'r Penwythnos

21:00 - 00:00 - John ac Alun (Radio Cymru a Radio Cymru 2)

Mae'r erthygl hon wedi cael ei newid i ddangos mai am hanner nos - 00:00 - y bydd rhaglenni hwyr Radio Cymru a Radio Cymru 2 yn gorffen ac nid 23:00