Pennaeth tân dros dro yn wynebu honiadau o aflonyddu

  • Cyhoeddwyd
Stuart MillingtonFfynhonnell y llun, SWFRS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stuart Millington ei ddewis yn Brif Swyddog Tân dros dro yr wythnos ddiwethaf

Mae'r dyn sydd wedi'i benodi i arwain Gwasanaeth Tân De Cymru ar ôl adroddiad damniol i'r diwylliant yno, yn wynebu honiadau o aflonyddu a gwahaniaethu.

Cafodd Stuart Millington ei ddewis yn Brif Swyddog Tân dros dro yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i Lywodraeth Cymru gymryd rheolaeth uniongyrchol o'r gwasanaeth.

Roedd Mr Millington yn arfer bod yn bennaeth cynorthwyol Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, ac mae'n destun tribiwnlys cyflogaeth yno - gyda disgwyl i wrandawiad cychwynnol ddigwydd fis nesaf.

Mae'r unigolyn sy'n cwyno yn cael ei gyflogi gan Wasanaeth Tân ac Achub y Gogledd, ac mae'n honni ei fod yn destun aflonyddu a gwahaniaethu, wedi'i gosbi am gymryd rhan mewn gweithgareddau undeb, a bwlio.

Mae Mr Millington yn gwadu'r honiadau.

Mewn datblygiad ar wahân, mae ymgyrch y Rhuban Wen, sy'n galw am ddileu trais yn erbyn menywod, wedi dileu achrediad Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan ddweud bod yr honiadau sydd wedi dod i'r amlwg yn achos pryder mawr.

Does dim awgrym bod yna elfen hiliol na rhywiaethol i'r gwyn yn erbyn Mr Millington y bydd y tribiwnlys yn ei ystyried.

Mae Undeb y Frigâd Dân (FBU) a gwleidyddion wedi codi cwestiynau ynglŷn â'r broses benodi, ddaeth i'r amlwg gyntaf mewn adroddiad gan ITV Cymru.

Dywedodd swyddog rhanbarthol undeb yr FBU, Duncan Stewart-Ball, eu bod yn "bryderus iawn", gan alw am ail-ystyried y penodiad.

"Mae gennym ni bryderon nad oedd y broses [benodi] yn un agored a thryloyw, yr hyn sy'n ein poeni ni yw ei fod yn teimlo fel pe na bai gwersi wedi'u dysgu."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Duncan Stewart-Ball, mae'n anodd credu bod y fath broblemau yn bodoli o fewn un gwasanaeth yn unig

"Yn y gwasanaeth tân ac mewn sefydliadau eraill, dwi'n siŵr, gallwch chi ddim cael eich penodi i swydd tra'ch bod yn destun ymchwiliad neu'n wynebu camau disgyblu.

"Ar sail hynny ddylai'r penodiad hwn ddim wedi digwydd ar hyn o bryd."

Mae Mr Stewart-Ball wedi galw am adolygiad ehangach o'r gwasanaeth.

"Gyda chymaint o wybodaeth bryderus wedi dod i law o'r adolygiad ddigwyddodd yn ne Cymru, mae'n anodd iawn credu bod y materion hyn dim ond yn digwydd mewn un gwasanaeth."

'Diffyg dealltwriaeth lwyr'

Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar bartneriaeth gymdeithasol, Joel James AS, wedi dweud bod y penodiad yn "achosi penbleth".

"Dwi wedi ysgrifennu at y dirprwy weinidog partneriaeth gymdeithasol yn amlinellu'r pryderon sydd gen i, a thrigolion sydd wedi cysylltu â fi, ynglŷn â'r penodiad hwn, oherwydd mae'n dangos diffyg dealltwriaeth lwyr o'r hyn sydd angen newid," meddai.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams AS, hefyd wedi galw am adolygiad llawn o holl wasanaethau tân Cymru.

"Mae'r ffaith fod 'na honiadau yn erbyn y Prif Swyddog Tân dros dro, gafodd ei benodi gan gomisiynwyr yr wythnos ddiwetha', yn bryderus iawn, ac mae'n bygwth tanseilio'r ymdrechion i greu diwylliant newydd o fewn y gwasanaeth," meddai.

"Mae'n rhaid codi cwestiynau difrifol ynglŷn â'r drefn gafodd ei ddilyn yn ystod y penodiad hwn gan y comisiynwyr a'r llywodraeth Lafur maen nhw'n gweithredu ar ei rhan."

Galwodd am ail-ystyried pa mor briodol oedd y penodiad ac ystyried yr honiadau ar frys.

Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Ionawr, fe gyhoeddodd prif swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway, ei fod yn ymddeol yn dilyn adolygiad damniol

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Dyffryn Clwyd, James Davies, yn dweud ei fod wedi cael gwybod am "nifer o honiadau yn ymwneud â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sy'n ymddangos yr un mor bryderus, os nad yn fwy felly, na'r rhai ddaeth i'r amlwg yn ne Cymru".

"Fe ysgrifennais at y gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ar 6 Chwefror i dynnu sylw at yr honiadau," meddai.

"Mae angen ymchwilio ymhellach i'r pryderon ynglŷn â'r gogledd, mae'n ymddangos y gall fod angen ymyrraeth yn debyg i'r adolygiad o ddiwylliant ddigwyddodd yn ne Cymru."

'Rhoi bywydau mewn perygl'

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymryd rheolaeth uniongyrchol dros Wasanaeth Tân De Cymru yr wythnos ddiwethaf ar ôl i adroddiad damniol sôn am ddiwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod o fewn y gwasanaeth.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, ei bod hi'n "anodd gweld" y newidiadau gofynnol yn digwydd, heb yr ymyrraeth.

Fel arall, fe rybuddiodd bod yna risg y "gallai'r methiannau hyn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau a rhoi bywydau mewn perygl".

Mae pedwar comisiynydd a benodwyd gan y llywodraeth wedi cymryd rheolaeth dros bwerau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru.

Ffynhonnell y llun, HEDDLU'R GOGLEDD/GETTY/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar comisiynydd (gyda'r cloc o'r chwith uchaf): Carl Foulkes, Kirsty Williams, Vij Randeniya a'r Farwnes Wilcox

Wrth ymateb i'r pryderon ynglŷn â phenodiad Stuart Millington yn bennaeth dros dro, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r comisiynwyr yn gwneud gwaith pwysig a gwerthfawr i weithredu'r newidiadau sydd eu hangen yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

"Mae ganddyn nhw bwerau llawn i ailstrwythuro a diwygio rheolaeth y gwasanaeth a chyflwyno diwylliant cadarnhaol, sydd ddim yn gwahaniaethu.

"Fe fydden nhw'n parhau yn eu swyddi hyd nes bod y gwasanaeth yn amlwg yn weithle cynhwysol a chroesawgar i bawb.

"Mae Prif Swyddog Tân dros dro wedi'i benodi gan y comisiynwyr, ac fe fydd swydd barhaol yn cael ei hysbysebu a'i benodi cyn gynted ag y bo modd."

'Ddim yn goddef ymddygiad na iaith amhriodol'

Mewn datganiad dywedodd Prif Swyddog Tân y Gogledd, Dawn Docx: "Er mwyn cefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, fe gytunais gyda Llywodraeth Cymru y bydd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Stuart Millington, yn cael ei secondio i swydd Prif Swyddog Tân dros dro y de ac i weithio gyda'r comisiynwyr.

"Penodiad dros dro yw hwn gafodd ei oruchwylio gan y comisiynwyr oedd wedi'u penodi gan Lywodraeth Cymru. Dydyn ni ddim yn goddef ymddygiad na iaith amhriodol o fewn ein sefydliad.

"Rydym yn ymdrechu yn barhaus i gyrraedd y diwylliant gorau yn unol â'n gwerthoedd craidd, ac mae gennym ni bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cadarn i'n cefnogi ni i gyrraedd y safonau uchaf posib sy'n ddisgwyliedig gan y cyhoedd

"Tra'i fod yn amhriodol gwneud sylw ar unrhyw gwyn benodol, rydym yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am fanylion achosion o ymddygiad amhriodol, gan gynnwys bwlio ac aflonyddu, yn rheolaidd.

"Fel gydag unrhyw sefydliad sy'n cyflogi dros 900 o bobl, rydym weithiau yn dod ar draws pryderon ynglŷn ag ymddygiad sydd ddim yn cadw at ein safonau, a'n blaenoriaeth yw sicrhau bod y materion hyn yn cael eu hadnabod, bod ymchwiliad cywir yn digwydd, a'n bod yn delio a nhw yn deg, boed hynny'n ffurfiol neu'n anffurfiol, gan ddibynnu ar eu natur."

Ychwanegodd bod penderfyniad White Ribbon UK i ddileu achrediad y gwasanaeth "yn siomedig" a'u bod yn gobeithio cael "cydweithio â nhw i drafod eu pryderon".

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod "nifer o unigolion wedi eu hystyried" ar gyfer y secondiad, a bod Stuart Millington yn "bodloni'r gofynion gan y comisiynwyr o ran profiad a'r gallu i sicrhau parhad o fewn y gwasanaeth".

Ychwanegodd y llefarydd mai ar y sail yna y cafodd Stuart Millington ei benodi.

Pynciau cysylltiedig