Arestio dyn ar ôl cwynion am gwmni teithio o Wynedd

  • Cyhoeddwyd
KilimanjaroFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dwyll yn dilyn cwynion am gwmni teithio yng Ngwynedd.

Cafodd y dyn, 49, ei arestio ar ôl i Heddlu Gogledd Cymru dderbyn nifer o gwynion am y cwmni Aspire Adventures o ardal Brynrefail.

Fis diwethaf, fe wnaeth grŵp o bobl oedd ar daith gerdded elusennol honni eu bod wedi cael eu gadael yn Nhanzania ar ôl cyrraedd i ddringo mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro.

Roedd y rhan fwyaf o'r grŵp - a oedd yn cynnwys 26 o bobl i gyd - yn casglu arian i Hope4, sy'n helpu ffoaduriaid a phlant amddifad o Wcráin ym Moldova.

Fe wnaeth y cerddwyr sefydlu tudalen GoFundMe, defnyddio eu harian eu hunain a benthyg arian gan ffrindiau a theulu i allu parhau gyda'r daith.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru mewn datganiad: "Mae ein hymchwiliad yn parhau ac ni allwn roi unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd".

Pynciau cysylltiedig