Cwmni o Wynedd wedi gadael cerddwyr yn sownd yn Tanzania

  • Cyhoeddwyd
Criw TanzaniaFfynhonnell y llun, Hope4
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd mwyafrif yr arian sy'n cael ei godi gan y criw yn mynd i elusen Hope4, sy'n cynorthwyo ffoaduriaid yn Wcráin

Mae grŵp o bobl oedd ar daith gerdded elusennol yn dweud iddyn nhw gael eu gadael yn sownd yn Tanzania gan gwmni teithiau o Wynedd ar ôl iddyn nhw dalu miloedd o bunnoedd.

Talodd 26 o gerddwyr hyd at £3,500 yr un i Aspire Adventures o Frynrefail i ddringo mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro.

Ond ddydd Gwener, wrth iddyn nhw gyrraedd Tanzania, fe gawson nhw e-bost yn dweud na fyddai unrhyw wasanaethau'n cael eu darparu.

Mae Aspire Adventures wedi cael cais am sylw.

'Dim opsiynau'

Yn yr e-bost gan berchennog y cwmni, Jason Rawles, sydd wedi cael ei weld gan y BBC, mae'n dweud fod y cwmni "wedi cael ein taro gan gyfres o ddigwyddiad y tu hwnt i'n rheolaeth, a does dim opsiynau ar ôl".

Aeth ymlaen i ddweud ei fod "yn flin calon" ganddo a'i fod wedi ceisio "bob ffordd o'i chwmpas hi", ond mai'r "realiti yw na allwn dalu am yr hyn sydd ei angen ar gyfer eich taith i Kilimanjaro".

Ffynhonnell y llun, Hope4.org
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r criw wedi llwyddo i godi digon o arian i barhau gyda'u taith

Mae Lea Turner yn un o ymddiriedolwyr yr elusen, ac roedd ar ei ffordd i Affrica pan welodd yr e-bost.

Dywedodd ei bod wedi bod "yn ei dagrau" ac yn teimlo'n gyfrifol, ond ychwanegodd fod y criw wedi bod "yn benderfynol" o barhau gyda'r daith.

Llwyddodd y criw i gael $80,000 at ei gilydd i dalu'r biliau fel bod y daith yn medru cychwyn, gan fenthyg gan deulu neu o gynilion. Maen nhw bellach dridiau i mewn i'r daith i'r copa.

Mae unrhyw ymholiad ar e-bost i Aspire Adventure yn derbyn ymateb awtomatig gan Jason Rawles i ddweud fod y cwmni'n cymryd hoe tan fis Mawrth.

Aiff yr ateb ymlaen i ddweud mai "bwriad y cwmni yw darparu" unrhyw deithiau a gaiff eu harchebu o fis Ebrill ymlaen, ond fod "pob sianel ar y cyfryngau cymdeithasol wedi eu cau yn y cyfamser".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae degau o filoedd o bobl yn dringo i gopa Kilimanjaro bob blwyddyn, llawer er mwyn codi arian i elusennau

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn gohebiaeth gan Hope4.org.

Dywedodd llefarydd eu bod yn bwrw golwg dros y wybodaeth ac yn bwriadu trafod gyda'r elusen ymhellach.

"Ar hyn o bryd, ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach," ychwanegodd y llefarydd.

Cafodd Aspire Adventure ei sefydlu gan Mr Rawles yn 2013, ac maen nhw'n trefnu teithiau antur i leoliadau fel Tanzania, Nepal a Mont Blanc yn Ffrainc.