Ateb y Galw: Owain Williams
- Cyhoeddwyd
Yn adnabyddus fel un o gyflwynwyr Stwnsh Sadwrn a chyfres Taith Bywyd ar S4C, Owain Williams sy'n Ateb y Galw'r wythnos hon.
Yn ogystal â bod yn gyflwynydd, mae Owain hefyd yn actor ac mae newydd gael ei gastio fel cymeriad Tick/Mitzi yn y sioe gerdd, 'Priscilla the Party' yn y West End, sy'n addasiad o'r sioe gerdd boblogaidd 'Priscilla Queen of the Desert'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Naill ai gwyneb mam yn ffenest drws y ward pan es i i gwrdd â'm chwaer fach am y tro cyntaf, neu dad yn trial diffodd darn o lô wnaeth gwmpo o'r tân i'r carped! Sai'n siwr p'un ddath yn gyntaf.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mwnt. Er mae'n draeth poblogaidd, fi bob tro'n teimlo mai fy nghyfrinach bach i yw e. Fi'n caru'r tonnau mawr, a'r teimlad anghysbell sydd yno. Cysgodfan go iawn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y tro cyntaf ges i gyflwyno o'r carped coch yn y Brits. Troedio'r carped wrth ochor One Direction, cyfweld â London Grammar (un o'n hoff fandiau i), Beyoncé'n perfformio, a chloncan gyda Tom Daley yn yr after-party. Noson hollol nyts!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Meddylgar, doniol, egnïol.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Atgofion o'n Nhad-cu, Andrew Williams. Roedd e'n dipyn o dderyn! Fel prif gymeriad o gyfres lyfrau i blant. Wnaeth e gatapwltio'i hun dros glawdd unwaith trwy rasio'i mobility scooter i lawr bryn.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Fi'n cofio anghofio fy ngeiriau i ddarn llefaru ar lwyfan yr Eisteddfod pan o'n i'n 8 mlwydd oed - roedd hwnna'n eitha' trawmatig.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn y sinema wythnos diwethaf yn gwylio All of us Strangers. Am ffilm. Ro'n i'n llefen mas yn uchel - ma'r stori, y sgript, a'r perfformiadau yn wych.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bisgedi siocled a chreision onion rings, a'r gallu i fwyta pecyn cyfan mewn un.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Home Alone 2: Lost in New York. Fi'n caru Efrog Newydd. Fi'n caru slapstick, a mae Kevin McAllister yn hollol lejynd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Spider-Man, er mwyn trial ei wisg e ymlaen a gweld siwd ma'r gwê'n gweithio.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fi'n lico llonydd a llonyddwch. Fi'n mediteiddio'n ddyddiol, ac yn aml yn dychmygu lolfa mewnol i eistedd ynddi pan fo'r byd allanol yn teimlo'n lot.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Eistedd ar lan y môr yn edrych mas i'r gorwel, a tecstio pawb fi erioed wedi ffansïo i ddiolch iddyn nhw am fod mor ffit.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Es i i ddigwyddiad hunan-hyder llynedd oedd yn cael ei arwain gan y siaradwr, hyfforddwr ac awdur Americanaidd Tony Robbins. 4 diwrnod epic gyda 10,000 o bobol o dros 100 o wledydd. Wnes i hyd yn oed gerdded dros fflamau tân.
Roedd e'n brofiad bythgofiadwy wnaeth agor y'n enaid i, a tynnodd rhywun lun ohona'i ar y diwrnod olaf pan o'n i'n llawn hyder a phwer. Fi'n edrych ar y llun yn aml i atgoffa'n hunan o beth sydd tu mewn i fi.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Alfie, fy nghi. Mae ei fywyd e'n foethus, hapus a chyfforddus. Dim cyfrifoldebau, dim yn ei boeni, a jyst yn byw i chwarae a chael maldod.
Hefyd o ddiddordeb: