Ystyried datblygu safle hen ffatri ym Môn i greu swyddi

  • Cyhoeddwyd
Safle PebocFfynhonnell y llun, Dogfennau Cyngor Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwyafrif helaeth cyn-safle Peboc yn parhau heb ddefnydd swyddogol ers i'r ffatri gau yn 2008

Fe all cyngor sir gymryd camau i brynu cyn-safle diwydiannol mewn ymgais i greu swyddi yno am y tro cyntaf mewn 15 mlynedd.

Pan gaeodd ffatri Eastman Peboc, Llangefni yn 2008 fe gollodd 65 o bobl eu swyddi - un o sawl ergyd economaidd i daro'r ynys dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond mae adroddiad cyngor wedi datgan pryder dros gyflwr y safle naw acer, gan nodi ei fod bellach yn berygl i'r amgylchedd ac i iechyd y cyhoedd.

Gyda'r gobaith o ddenu arian i'w ail ddatblygu a'i wneud yn ddiogel, dydi'r awdurdod ddim yn diystyru'r posibilrwydd o brynu'r safle'n orfodol os oes rhaid.

Yn ei anterth roedd y gweithfeydd cemegol yn cyflogi 170 o bobl.

Ond er i'r ffatri gau yn 2008 roedd 'na obaith o'r newydd wedi i gwmni Ecopellets Ltd o Iwerddon ddatgelu cynlluniau i adeiladu gorsaf biomas ar y safle.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor wedi datgan pryder am gyflwr y safle naw acer

Ers gwrthod caniatâd cynllunio i'r datblygiad yn 2012 mae'r mwyafrif helaeth o'r hen weithfeydd wedi aros yn wag.

Ond mae swyddogion cyngor wedi eu hawdurdodi i gychwyn trafodaethau ffurfiol gyda'r perchnogion yn sgil pryder am ei "gyflwr gwael iawn".

Gyda'r ynys hefyd wedi ei ddynodi fel safle porthladd rhydd, mae arian ar gael i ystyried y dyfodol a datblygu cynllun busnes.

Un cynnig yw bod yr awdurdod yn ystyried prynu'r safle naw acer ar stad ddiwydiannol y dref a'i adnewyddu at ddiben economaidd.

Mae Cyngor Môn eisoes wedi sicrhau caniatâd cynllunio amlinellol yn 2019 i adeiladu unedau busnes yno, ond gan nad nhw sy'n berchen ar y safle mae'r dyfodol yn parhau i fod yn aneglur, gyda'r awdurdod yn awyddus i wybod beth yw bwriad y perchnogion.

'Trio denu busnesau'

Gyda'r safle drws nesaf i uned wag arall, sef cyn-ffatri brosesu cig 2Sisters, mae 'na oblygiadau economaidd hefyd.

Mae 2Sisters yn parhau i fod yn segur ers i'r cwmni - a oedd yn cyflogi dros 700 o bobl - benderfynu gadael y safle ym Mawrth 2023.

Yn ôl Dr Edward Thomas Jones, sy'n uwch ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor, mae'r economi leol wedi derbyn sawl ergyd ers 2007.

Ychwanegodd fod "lle i ddysgu o beth ddigwyddodd i Peboc a 2Sisters" ond "hefyd i lunio strategaeth ar sut i edrych ymlaen ar gyfer y dyfodol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-safle 2Sisters yn dal i fod ar werth ers cau y llynedd

"Mae busnesau wedi bod drwy gryn dipyn ond 'da ni yn gweld y sefyllfa'n gwella ar hyn o bryd ar Sir Fôn ac ar draws Cymru," meddai.

"'Sw ni'n tybio mi fydd 'na alw am unedau busnes yn Llangefni, rhai o bob maint.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar gymysgedd o drio denu busnesau mawr i'r ardal ond hefyd edrych ar fusnesau lleol a sut allwn roi cymorth iddyn nhw i dyfu.

"Pan 'da ni yn edrych ar gwmnïau mawr, er enghraifft Peboc gynt, 'da ni'n cystadlu hefo gwledydd eraill ar draws y byd, rhai ohonyn nhw yn gallu cynhyrchu yn llawer rhatach.

"Ond mae'n rhaid i ni drio gwneud ein gorau i ddenu'r busnesau yna ac yn sicr ym Môn mae 'na lawer o bethau o blaid yr ardal, ond hefyd mae'n rhaid i ni edrych ar y busnesau lleol bychain a pha gymorth maen nhw angen er mwyn tyfu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Edward Jones yn credu y bydd yna alw am unedau busnes "o bob maint" yn Llangefni

Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu â chwmni Ecopellets Ltd, ac yn ôl adroddiad gan Gyngor Môn, er bod "ymdrechion wedi bod i geisio ymgysylltu gyda'r perchnogion", aflwyddiannus oedd y rhain yn y gorffennol.

Mae'r safle yn cael ei ddisgrifio fel un sydd "mewn cyflwr gwael iawn" ac un sy'n "peri pryderon iechyd a diogelwch cyhoeddus sylweddol".

Mae'r cyngor hefyd o'r farn ei fod yn "effeithio ar olygfa ffordd allweddol i Barc Busnes Bryn Cefni a thref Llangefni".

Yn sgil hyn mae ymdrechion ar droed i gysylltu â'r cwmni a "deall beth yw eu bwriad a pha mor fodlon ydynt i hepgor y safle".

Maen nhw hefyd am sicrhau "prisiad annibynnol" o'r safle, ac er nad yw'n cael ei grybwyll am y tro, dydi'r posibilrwydd o orfodi'r perchnogion i werthu ddim yn cael ei ddiystyru chwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae ffenestr fer ond amserol wedi dod i'r amlwg i wneud cais am arian grant a allai helpu i sicrhau'r safle o safbwynt iechyd a diogelwch y cyhoedd a rhoi'r cyfle i ni adfer y safle, a fyddai o fudd i'r economi leol."

Yn ôl arweinydd y cyngor, Llinos Medi, "yr uchelgais yw ei gael yn ôl yn dir diwydiannol, sy'n creu swyddi ac yn bwydo'r economi yma".

Disgrifiad o’r llun,

Dydi'r cyngor ddim yn diystyru unrhyw beth ar hyn o bryd, yn ôl yr arweinydd Llinos Medi

"Mae o mewn safle strategol gyda chysylltiadau â'r A55, felly mae'n safle i'w ddatblygu yn lle mynd fewn i dir gwyrdd," meddai.

"Mae 'na rwystredigaeth, mae o mewn perchnogaeth breifat, mae'r elfen amgylcheddol - mae eisiau gwario ar ddod i adnabod yr heriau yna... mae angen gwneud y safle yn ddeniadol i fedru denu arian cyhoeddus a grantiau lawr i fedru ei ddatblygu.

"Y dyhead yw ei ddefnyddio i'w lawn botensial, 'da ni'n gwybod fod prinder unedau busnes... ond mae'n safle o faint da a heb ei ddatblygu ar dir gwyrdd yn ddiangen."

Ychwanegodd Ms Medi: "Mae 'na gamau cyfreithiol gallwn gymryd os nad ydi'r sgyrsiau [gyda'r perchnogion] yn adeiladol.

"Fedrwn ni ddim diystyru dim byd, mae hwn yn wastraff ar hyn o bryd, dydi o ddim yn creu swyddi ac mae'n 'chydig o liability dydi?

"Mae angen creu swyddi yma a chreu dyfodol i fusnesau sydd eisiau tyfu."

Pynciau cysylltiedig