Rhyddhau dau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â marwolaethau babanod

  • Cyhoeddwyd
Fan heddlu a swyddogion tu ôl tŷ ar stad Y Felin-wyllt
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyrff dau fabi eu canfod mewn tŷ ar stad Y Felin-wyllt fis Tachwedd 2022

Mae dyn a dynes sydd wedi'u cyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithiol dau fabi yn ne Cymru wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae Egle Zilinskaite, 30, a Zilvinas Ledovskis, 48, yn wynebu dau gyhuddiad yr un o gelu genedigaeth plentyn a dau gyhuddiad yr un o atal claddedigaeth gyfreithiol.

Cafodd Heddlu'r De eu galw i dŷ yn ardal Y Felin-wyllt ym Mhen-y-bont ym mis Tachwedd 2022 ble cafwyd hyd i gyrff y babanod.

Fe ymddangosodd y ddau yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth gan gadarnhau eu henwau a'u cyfeiriadau, a'u bod yn deall y cyhuddiadau, gyda help cyfieithydd.

Disgrifiad o’r llun,

Heddlu a phabell ymchwilwyr fforensig ar y safle yn 2022

Mae'r ddau yn byw ar wahân, gyda Mr Ledovskis yn byw yn Abertawe a Ms Zilinskaite yng Nghaerdydd.

Fe fyddan nhw'n ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 19 Mawrth, ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol tan hynny.