Pennal: Rhieni ar fws ysgol i osgoi awr o daith

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Plant Ysgol Pennal yn sôn am fynd ar fws ysgol gyda'u rhieni

Mae plant ysgol gynradd yn ne Gwynedd yn mynd â'u rhieni ar fws ysgol er mwyn osgoi taith o bron i awr ar hyd dargyfeiriad hir i gyrraedd eu gwersi.

Mae hanner y 30 o blant sy'n mynd i Ysgol Pennal yn byw ym Machynlleth, ac ers dechrau'r mis mae'r ffordd rhwng y ddau le ar gau i gerbydau oherwydd gwaith hanfodol.

Oherwydd y gwaith, mae dargyfeiriad o o leiaf 30 milltir mewn grym rhwng Machynlleth a Phennal wrth i yrwyr gael eu cyfeirio trwy Gorris, Tal-y-llyn, Tywyn ac Aberdyfi.

Ond yn dilyn trafodaethau rhwng yr ysgol, Cyngor Gwynedd a'r contractwyr, cwmni Griffiths, mae'r plant yn cael cerdded heibio'r gwaith ffordd er mwyn dal bws yr ochr draw sy'n eu cludo i'r ysgol.

Llywodraeth Cymru sydd yn talu am y bws.

Disgrifiad o’r llun,

Mae plant o Fachynlleth yn teithio gyda'u rhieni i Ysgol Pennal

Mae rhai o athrawon yr ysgol yn dal y bws hefyd, ond gan nad oes sicrwydd y bydd aelod o staff ar y bws bob dydd, mae'r ysgol wedi gofyn i rieni fod yn gyfrifol am eu plant hyd at giât yr ysgol.

"Pan glywson ni ym mis Hydref bod y ffordd yn cau roedd hi yn achosi tipyn o bryder i ni," dywedodd pennaeth Ysgol Pennal, Nia Wyn Thomas-Evans.

"Ond ar ôl ymgynghoriadau gyda chwmni Griffiths, a holiadur i rieni, trafodaethau wedyn gyda phennaeth addysg Gwynedd, rhoddon nhw fws Lloyds Coaches mewn lle a 'dan ni mor lwcus bod y bws yn dod â'r plant mewn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trefniadau'n gweithio'n dda, medd Nia Wyn Thomas-Evans

"Fuasai 'na ddim disgwyl i'r rhieni deithio awr rownd trwy Dal-y-llyn i ddod yr holl ffordd i Bennal, ac awr wedyn i fynd adre - ac wedyn yr un fath ar ddiwedd dydd.

"Byddai hynny'n bedair awr ar y ffordd!

"Bydden ni wedi gorfod meddwl am ffordd o weithio gartref efallai, ond 'dwi ddim isie mynd nôl i hynny fel oedd hi yn y cyfnod clo."

Dywedodd Ms Thomas-Evans bod y system yn gweithio'n dda a bod y plant yn gyffrous iawn wrth deithio ar y bws gyda rhiant.

Disgrifiad o’r llun,

Er mor agos yw'r ddau le, mae yna ddargyfeiriad hir mewn grym am gyfnod

Mae Jack, sy'n wyth oed, yn hoff iawn o'r ffordd newydd o gyrraedd yr ysgol.

"Mae mam neu dad yn dod gyda fi ar y bws i'r ysgol ac mae'n gyffrous," dywedodd.

"Fel arfer 'dan ni'n dod i'r ysgol yn y car."

Disgrifiad o’r llun,

Dau o'r teithwyr ifanc - Pearl a Jack

Dywedodd Tom, tad Jack, ei fod e'n mwynhau'r profiad hefyd.

"Mae'n braf cael bach o amser gyda'r plant ar y bws, ac mae'n dod ag atgofion melys yn ôl i mi o fy mhlentyndod fy hun," meddai.

"Mae'n braf gweld y plant gyda'u ffrindiau, a 'dw i'n meddwl ei fod yn brofiad positif ond dwi'n falch hefyd bod y diwedd yn dod, cyn bo hir gobeithio."

Disgrifiad o’r llun,

Talitiu a Wren

Dywedodd Pearl, sy'n 10 oed, ei bod hi'n gorfod codi'r gynharach na'r arfer er mwyn dal y bws gyda'i thad.

"Mae'n gadael am chwarter wedi wyth, ond mae'n neis i gael rhywun dwi'n nabod yn rili dda i siarad efo nhw ar y bws," meddai.

Aeth Talitiu, naw, ar y bws gyda'i thaid, ond doedd Wren, sy'n 11 oed, ddim wedi siarad gyda'i thad hi yn ystod y daith.

"Mae'n iawn cael dad ar y bws, ond 'dw i ddim rili yn eistedd ar ei bwys e, dwi'n eistedd yn ymyl ffrindiau fi.

"Mae e angen dod yma ar y bws ac yna mynd yn ôl ar y bws - dyw e ddim rili yn meindio."

Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd y bont newydd ddechrau Chwefror

Rhan ola'r prosiect i godi pont newydd dros Afon Dyfi yw'r gwaith ar y ffordd.

Mae'r bont ar agor nawr, ac ar ôl cau'r hen bont mae cwmni Griffiths yn gosod system ddraenio newydd a mesurau tawelu traffig ger rhes o hen fythynnod lle mae'r ffordd yn culhau.

Tra bod pethau yn gweithio'n hwylus i blant Ysgol Pennal, mae cau'r ffordd a'r dargyfeiriad yn achosi anawsterau i bobl a busnesau'r ardal.

Roedd tref glan môr Aberdyfi'n dawelach na'r arfer yn ystod y gwyliau hanner tymor diweddar, yn ôl pobl leol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rhyddarch Jones ei fod ar ei golled tra bo'r dargyfeiriad mewn grym oherwydd cost petrol

Mae Rhyddarch Jones yn athro gyrru sy'n byw yn Aberdyfi ac yn dysgu nifer o bobl ifanc ym Machynlleth.

Dywedodd ei fod wedi gorfod newid patrwm ei wersi er mwyn defnyddio'r dargyfeiriad hir cyn lleied â phosib.

"Ym Machynlleth yn lle gwneud dwy i dair awr dwi'n gorfod gwneud saith i wyth awr yna i wneud e'n werth mynd i Fachynlleth i ddreifio," meddai.

"Fedra i ddim rhoi'r costau ychwanegol i'r plant dwi'n dysgu, felly mae'n rhaid i fi gymryd nhw fy hunain a dwi'n colli allan oherwydd y costau petrol uwch."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n effeithio ar gyflenwadau siop Heidi Yate

Rheolwraig siop fwyd Aberdyfi yw Heidi Yate ac mae hi'n dweud bod y dargyfeiriad wedi cael effaith ar ei chyflenwyr hi.

"Roedd llawer ohonyn nhw wedi dod â nwyddau atom ni cyn i'r ffordd gau a dy'n nhw ddim yn dod nôl nawr hyd nes bod y ffordd wedi agor eto," meddai.

"'Dan ni'n defnyddio llawer o gwmnïau bach a dwedodd y dyn wyau y byddai fe'n gweld ni eto mewn rhai wythnosau, felly os ydyn ni'n mynd yn brin bydd rhaid i ni gael wyau o rywle arall dros dro."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n cymryd yn hirach i gyflenwyr gyrraedd siop sglodion Josh Walker

Mae Josh Walker yn rhedeg siop sglodion yn Aberdyfi a dywedodd bod llawer llai o gwsmeriaid wedi bod yno.

"Mae hanner tymor yn bwysig i ni o ran y pres. Mae pobl eisiau dod yma ond dydyn nhw ddim yn gallu yn rhwydd," meddai.

"Hefyd mae ein deliveries ni yn dod o'r de felly maen nhw'n gorfod dod rownd 'wan.

"Maen nhw'n gorfod dod trwy Dal-y-llyn ac mae'n cymryd awr iddyn nhw - ac awr yn ôl."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er mwyn lleihau'r effaith ar deithio i ysgol, rydym wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Gwynedd a Lloyds Coaches i ddarparu gwasanaeth bws gwennol pwrpasol i ddisgyblion ysgol sy'n teithio rhwng Machynlleth ac Ysgol Uwchradd Tywyn yn ystod y cyfnod hwn o gau.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd a gweithredwyr bysiau i roi cyhoeddusrwydd i newidiadau i wasanaethau bysiau lleol eraill a fydd yn cael eu heffeithio gan y cau hwn."

Pynciau Cysylltiedig