Ymgyrch newydd i chwalu'r stigma ynglŷn â'r mislif

  • Cyhoeddwyd
Mari Elen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mari Elen Davies y byddai wedi gwerthfawrogi gallu trafod y mislif yn agored pan roedd hi'n fengach

Creu Cymru heb stigma ynglŷn â'r mislif yw nod ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae 'na alw am wella addysg mewn ysgolion a rhoi'r hyder i ferched drafod y pwnc yn gwbl agored, gydag urddas a heb gywilydd.

Yn ôl cyflwynydd y podlediad 'Cylchdro', Mari Elen Davies, mae angen mwy o drafod ar y pwnc.

Dywedodd fod na "stigma achos bod o'n rywbeth ti'n ystyried efo mynd i'r tŷ bach i newid dy dampon a bod o'n rhywbeth cyfrinachol 'dan ni angen cuddio.

"Ond mae o'n rywbeth hollol naturiol sydd yn digwydd i'r rhan fwyaf o bobl bob mis. Dylai bod na ddim cywilydd am y peth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gall effeithiau'r mislif gael eu teimlo y tu hwnt i gyfnod y mislif ei hun, ac mae Mari'n teimlo bod angen i bawb ddysgu mwy am hyn.

"Dwi'n meddwl bod o'n tu hwnt o bwysig bod pobl ifanc yn cael sgyrsiau agored am y peth.

"Os fyswn i wedi cael fy arfogi o oed ifanc hefo'r wybodaeth, dwi'n gwybod ŵan fyswn i heb feddwl mod i'n od ffordd dwi'n bihafio pan dwi ar fy mislif, a mai fi 'di'r unig un a dyliwn i guddio'r ffordd dwi'n teimlo pan dwi ar fy mislif.

"Dwi'n meddwl fod o yn bwysig pwysleisio bod o ddim yn effeithio merched yn unig. Mae o yn effeithio hogiau a dynion yn ein bywydau, a ddim jest merched sydd angen addysgu eu hunain."

Mae cynllun Lywodraeth Cymru i wneud 'Cymru sy'n Falch o'r Mislif' yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thlodi mislif drwy ddarparu nwyddau i bawb sydd eu hangen.

Mae pwyslais hefyd ar sicrhau urddas yn ystod y mislif drwy gael gwared o unrhyw ymdeimlad o stigma neu gywilydd sy'n gysylltiedig â'r mislif.

Disgrifiad o’r llun,

Amelia, Molly, Ella a Jess o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Gyda chefnogaeth y cynllun, mae disgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedi mynd ati i sefydlu eu 'Hymgyrch i wella Urddas Mislif', sy'n ceisio rhoi gwybod i'r disgyblion am realiti'r mislif, gan chwalu'r stigma a magu hyder merched ifanc i siarad am eu cyrff mewn ffordd hyderus.

Mae'r ysgol hefyd wedi mynd ati i greu bocsys sy'n cynnwys nwyddau mislif a phosteri i godi ymwybyddiaeth.

"Dydi mislif ddim yn rywbeth dylai ti fod eisiau cuddio a bod yn hapus i rannu gyda pobl, achos mae'n rywbeth naturiol," meddai Jess, un o'r disgyblion sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch.

"Ti ddim angen bod yn embarrassed. Mae'n helpu lot o ferched sydd ddim yn hyderus i siarad am y mislif" ychwanegodd Molly.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn awyddus i chwalu'r stigma

Mae gan y disgyblion hefyd fentoriaid sy'n cynnig cyngor ar hunan ofal.

Dywedodd Branwen Miles, athrawes yn yr ysgol ac yn un o arweinwyr y fenter: "Mae'n hanfodol i'r merched deimlo'n gyfforddus a bod yna adnoddau ar gael iddyn nhw mewn ffordd sydd yn braf iddyn nhw.

"Mae'r ffaith bod nhw wedi dod at ei gilydd i wneud hyn a wedi trafod hefo aelodau'r chweched wedi gwneud iddyn nhw deimlo bod trafod y mislif yn rhywbeth mae ganddyn nhw hawl ei drafod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hanfodol i ferched ifanc allu trafod y mislif yn gyfforddus, medd Branwen Miles

Er bod y cynllun erbyn hyn yn digwydd mewn ysgolion fel Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, mae 'na alw am rannu'r neges ar draws ysgolion Cymru.

Ar ei hymweliad ag Ysgol Gyfun Cwm Rhymni dywedodd y Dirprwy Weindiog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn: "Dydw i ddim yn cofio unrhyw gefnogaeth pan roeddwn i yn yr ysgol.

"Mae gweld be sy'n digwydd yma heddiw a'r newid cadarnhaol ac ymarferol sydd i wella addysg yn bwysig iawn a rydym yn edrych ymlaen i adeiladu ar hyn."

Pynciau cysylltiedig