Apêl i ganfod mwy o ddioddefwyr treisiwr merch 13 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei garcharu am dros 10 mlynedd am dreisio merch 13 oed ar ôl ei chyfarfod ar ap cymdeithasol Snapchat.
Roedd Rhodri Llyr Griffiths, o Fynachlog Nedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, wedi cysylltu â'r ferch ym mis Hydref 2023 gan ddefnyddio proffil ffug.
Fe ofynnodd iddi ba mor hen oedd hi, ac er iddi hi ddweud ei bod yn 13 oed, fe ddechreuodd anfon negeseuon rhywiol ati.
Mae Heddlu Gwent yn credu ei bod yn bosib fod mwy o ddioddefwyr, ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sy'n credu fod Griffiths wedi eu targedu nhw i gysylltu â'r llu.
Roedd Griffiths wedi pledio'n euog i dreisio, cyfathrebu rhywiol gyda phlentyn a throseddau rhyw eraill mewn gwrandawiad blaenorol.
'Wna i fyth ymddiried mewn dyn eto'
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Griffiths wedi cynnig arian ac alcohol i'r ferch er mwyn iddi gyflawni gweithredoedd rhywiol arno.
Roedd y ferch wedi dweud wrth Griffiths ble roedd hi'n byw, ac fe aeth i'w nôl yn ei gar.
Wedi iddi fynd i'w gar, fe wnaeth y ferch ddarganfod bod Griffiths yn llawer hŷn nag yr oedd yn ei honni.
Gofynnodd hi iddo stopio'r car, ond fe wrthododd.
Gyrrodd sawl milltir i faes parcio, lle dywedodd wrthi am fynd i gefn ei gar, ble digwyddodd yr ymosodiad.
Dywedodd y Barnwr Daniel Williams bod y ferch "yn ofnus eich bod am ei lladd os nad oedd yn gwneud fel yr oeddech chi'n ei ddweud".
Mewn datganiad i'r llys, dywedodd mam y ferch fod yr hyn a ddigwyddodd yn "hunllef i bob rhiant", a bod ei merch wedi cymryd gorddos yn dilyn yr ymosodiad.
Dywedodd y ferch mewn datganiad: "Dwi'n teimlo bod fy mywyd a'm plentyndod wedi'u dinistrio.
"Bob tro dwi'n edrych mewn drych dwi'n ei weld o yn edrych yn ôl arna i fel y gwnaeth o'r noson honno."
Dywedodd ei bod wedi newid ei hymddangosiad ac nad yw'n teimlo'n ddiogel yn gadael ei chartref.
Ychwanegodd: "Wna i fyth ymddiried mewn dyn arall eto."
Cafodd Griffiths ei ddedfrydu i 10 mlynedd a hanner o garchar, gyda chyfnod estynedig o bum mlynedd ar drwydded.
Mwy o ddioddefwyr?
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn gwybod fod Griffiths wedi anfon negeseuon at ferched ar Snapchat yn y gorffennol yn ddefnyddio enwau ffug - yn aml dan yr enw James.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Sedgebeer fod "ymddygiad Rhodri Griffiths yn awgrymu efallai bod mwy o ddioddefwyr sydd heb ddweud wrth yr heddlu eto".
"Rydym yn gobeithio bod y canlyniad yma'n dangos i unrhyw un sy'n dioddef ymosodiad rhywiol y byddwn yn gwrando arnyn nhw, yn eu credu nhw ac yn eu parchu nhw.
"Rydym yn cymryd pob honiad o ddifrif ac os bydd digwyddiad yn cael ei adrodd i ni, byddwn yn ymchwilio iddo'n drwyadl."
'Gweithio i ganfod ac atal camdriniaeth'
Dywedodd lefarydd ar ran Snapchat: "Mae unrhyw gam-fanteisio rhywiol ar bobl ifanc yn wrthun, ac rydym yn cydymdeimlo gyda'r dioddefwr yn yr achos hwn."
Ychwanegodd y cwmni cyfryngau cymdeithasol eu bod yn "gweithio mewn sawl ffordd i ganfod ac atal y math yma o gamdriniaeth" gan gynnwys rhybuddion sy'n cael eu gyrru at rieni os ydy plentyn yn cysylltu â rhywun diarth.