Y brodyr Croft yn gadael carfan Olympaidd Prydain

  • Cyhoeddwyd
Ioan (left) a Garan (right) Croft
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan (chwith) a Garan (dde) wedi gadael carfan Olympaidd Prydain

Mae'r efeilliaid Ioan a Garan Croft wedi gadael carfan Prydain pum mis cyn Gemau Olympaidd Paris 2024.

Cafodd penderfyniad y ddau Gymro Cymraeg 22 oed o Grymych ei gyhoeddi gan gorff Bocsio Cymru.

Dywedodd Ioan ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn "amser i ni symud i'r bennod nesaf yn ein gyrfaoedd bocsio".

Dywedodd pennaeth perfformiad Bocsio Cymru Adam Park: "Hoffai pawb yn Bocsio Cymru ddiolch i Garan ac Ioan am eu cyfraniad aruthrol i'r Rhaglen Berfformio."

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Ioan fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2022, tra bod Garan wedi ennill efydd

Ychwanegodd Park: "Er ein bod yn drist i weld y ddau yn gadael Rhaglen Bocsio Prydain ar yr adeg hon yn y tymor Olympaidd, ni'n dymuno dim ond llwyddiant iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.

"Maen nhw wedi ymddwyn yn broffesiynol drwy gydol eu hamser yn y rhaglen ac maen nhw wastad wedi gwneud amser i'r genhedlaeth nesaf sy'n dod drwy'r rhaglen."

Dywedodd Bocsio Cymru: "Ar ôl chwe medal rhyngddynt yn y pencampwriaethau mawr, mae'r efeilliaid Croft wedi penderfynu gadael Carfan Podiwm Bocsio Prydain.

"Mae taith a ddechreuon nhw gyda'i gilydd yng Nghlwb Bocsio Amatur Aberteifi o dan ofal eu tad Guy Croft wedi dod i ben."

Pynciau cysylltiedig