Llywodraeth Cymru 'heb roi ceiniog' i achub swyddi dur
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio "buddsoddi ceiniog" er mwyn ceisio achub swyddi dur ym Mhort Talbot.
Dywedodd Mr Sunak fod Llywodraeth y DU wedi rhoi grant o £500m i gwmni Tata fuddsoddi mewn ffwrnais drydan ar y safle, a bod hynny'n "un o'r [grantiau] mwyaf yn hanes y wlad".
Ond dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi rhoi unrhyw arian er mwyn ceisio cefnogi'r diwydiant ac achub swyddi, meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb i'r sylwadau.
Mae Tata wedi cyhoeddi y bydd y ddwy ffwrnais chwyth sydd ym Mhort Talbot yn cau erbyn diwedd 2024, gyda ffwrnais drydan i'w gosod yno yn eu lle.
Bydd hynny'n golygu colli bron i 2,000 o swyddi, ond mae'r cwmni yn mynnu mai dyma'r unig ffordd i gadw'r safle ar agor.
Roedd Mr Sunak yn siarad gyda BBC Cymru cyn cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llandudno.
"Y sefyllfa oedd yn ein hwynebu gyda Tata oedd y posibilrwydd o golli 8,000 o swyddi a chau gwaith dur yn barhaol," meddai.
"Dyna pam fod Llywodraeth y DU, ar ôl gweithio a thrafod am yn hir, wedi darparu un o'r pecynnau cefnogaeth ariannol mwyaf erioed yn hanes ein gwlad - grant o hanner biliwn o bunnoedd."
Ychwanegodd: "Y cwestiwn yw, pam nad yw'r llywodraeth Lafur yma yng Nghymru wedi buddsoddi ceiniog er mwyn ceisio gwneud rhywbeth i gefnogi'r gweithwyr a dyfodol y diwydiant dur yn ne Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2024