Rishi Sunak yn cefnogi ffermwyr yng nghynhadledd y Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cwrdd â ffermwyr yn y gogledd wrth iddyn nhw unwaith eto ddangos eu hanfodlonrwydd gyda chynlluniau amaeth Llywodraeth Cymru.
Bu Mr Sunak yn siarad gydag amaethwyr, gan gynnwys y ffermwr adnabyddus Gareth Wyn Jones, y tu allan i gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llandudno ddydd Gwener.
Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn, dywedodd Mr Jones ei fod wedi derbyn bygythiadau i'w fywyd yn dilyn ei rôl yn y protestiadau yn erbyn y cynlluniau.
Dywedodd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth y DU yn "gwneud popeth ry'n ni'n gallu" i gefnogi ffermwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai nod y cynllun newydd ydy cefnogi pob ffermwr, ac mae'r gweinidog materion gwledig wedi dweud eu bod "yn gwrando" ar bryderon ffermwyr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd newidiadau i'r cynlluniau amaeth yn sgil barn y rhai yn y diwydiant.
Yn ôl y gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths bydd "pob ymateb unigol i'r ymgynghoriad yn cael ei ystyried", ac na fydd penderfyniad terfynol nes bod yr holl ymatebion wedi eu hystyried.
Mae ymgynghoriad ar y cynlluniau ar agor tan 7 Mawrth.
Wrth siarad ar y Post Prynhawn dydd Gwener, dywedodd Gareth Wyn Jones ei fod wedi derbyn bygythiadau i'w fywyd yn dilyn ei rôl yn y protestiadau yn erbyn y cynlluniau.
Dywedodd: "Mae hwn y pedwerydd neu'r pumed gwaith i mi gael rhywbeth tebyg, a nes i feddwl i beidio mynd heddiw."
Dywedodd ei fod wedi ffonio ei ferch sydd yn y brifysgol ym Mryste a'i bod wedi dweud wrtho, "os ti'm yn mynd fory maen nhw di curo, maen nhw wedi dy ddistewi di".
"Felly mi wnaethon ni benderfyniad fel teulu i mi fynd, a chwrdd â'r ffermwyr a phawb oedd yno, a rhoi'r neges drosodd da ni'n teimlo."
Mae wedi derbyn negeseuon a galwadau ffôn yn ei gefnogi, ac yn dweud eu bod "wedi codi 'nghalon i".
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol o'r bygythiadau sydd wedi eu gwneud ar-lein at Mr Jones a'i deulu, ac maen nhw'n derbyn cymorth gan swyddogion tra bod ymchwiliad yn digwydd.
'Llafur yn trin Cymru fel labordy'
Fe wnaeth Mr Sunak araith i'r gynhadledd fore Gwener, gan honni fod Cymru yn cael "ei thrin fel labordy Llafur".
Bu'n ymosod ar record Llywodraeth Cymru ar y gwasanaeth iechyd ac addysg, a'r polisi 20mya.
Arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, oedd un o'r prif siaradwyr ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd
Dywedodd fod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn dioddef oherwydd athroniaeth Llafur, nid cyllid annigonol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Bu Mr Davies yn dadlau y dylai miliynau o bunnau sy'n cael eu gwario ar ehangu'r Senedd fynd i gefnogi'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
"Mae Llafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, yn gwastraffu amser, egni ac adnoddau ar y blaenoriaethau anghywir," meddai.
Mae gweinidogion Llafur yn dweud fod eu cyllid, yn bennaf gan lywodraeth Geidwadol y DU, yn annigonol os ydyn nhw am fynd i'r afael a'r heriau "aruthrol" y mae Cymru'n eu hwynebu.
"Yn lle llogi mwy o feddygon, nyrsys ac athrawon, mae Llafur eisiau mwy o wleidyddion," meddai Mr Davies.
"Mae eu cynlluniau ar gyfer ehangu'r Senedd yn vanity project sy'n nodweddiadol o Lafur.
"Bydd yn costio £120m. Dylai'r arian hwnnw fynd i'n gwasanaeth iechyd yng Nghymru."
Mae dogfennau gan weinidogion Llafur yn amcangyfrif y gallai gostio cymaint â £17.8m yn ychwanegol y flwyddyn ar gyfartaledd i gynyddu nifer aelodau'r Senedd o 60 i 96.
Y Ceidwadwyr yw ail grŵp mwyaf y Senedd, gydag 16 aelod, y tu ôl i 30 sedd Llafur yn y siambr bresennol o 60 aelod.
Yn ei araith, fe wnaeth Mr Davies gyhuddo gweinidogion Cymru o osod cyfyngiadau cyflymder newydd o 20mya mewn ardaloedd trefol "waeth beth" y difrod economaidd posib.
'Athroniaeth yn bwysicach na synnwyr cyffredin'
"Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi cyfaddef y bydd yn taro economi Cymru hyd at £9bn," meddai Mr Davies.
"I Lafur a Phlaid Cymru, mae athroniaeth yn bwysicach na synnwyr cyffredin, oherwydd mae ganddyn nhw'r blaenoriaethau anghywir."
Roedd "amcangyfrif canolog" yn nadansoddiad y llywodraeth o effaith economaidd teithiau arafach gan deithwyr a phobl sy'n gyrru fel rhan o'u swyddi yn darogan ergyd o £4.5bn dros 30 mlynedd.
Ond roedd yr astudiaeth yn cydnabod bod "ansicrwydd sylweddol" ynghylch y ffigwr a "dadl broffesiynol weithredol" ynglŷn â sut y cafodd ei gyfrifo.
Gallai rhwng 40 a 440 o fywydau gael eu hachub dros 30 mlynedd, yn ôl yr ymchwil, o dan bolisi yr ymrwymodd Llafur a Phlaid Cymru iddo yn etholiad diwethaf y Senedd dair blynedd yn ôl.
Bu Mr Davies hefyd yn rhoi blas o'r hyn y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn bwriadu ei roi gerbron pleidleiswyr yn etholiad nesaf Senedd Cymru, yn 2026.
Bydd yn cynnwys dileu "terfynau cyflymder gwallgof 20mya Llafur a Phlaid Cymru" a buddsoddi yn y GIG "drwy ddod â'r sgandal i ben lle mae Llafur yn cymryd arian o'r gyllideb iechyd i ariannu eu vanity projects".
"Fe fyddwn ni'n cael gwared ar waharddiad Llafur ar adeiladu ffyrdd - mae hynny wedi atal prosiectau seilwaith hanfodol fel Ffordd Liniaru'r M4 a gwelliannau i'r A55 - i gael Cymru i symud," fe fydd yn dweud wrth y gynhadledd.
Mae Cynllun Trafnidiaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i brosiectau ffyrdd yn y dyfodol beidio â chynyddu allyriadau carbon, na nifer y ceir ar y ffyrdd, i beidio ag arwain at gyflymderau uwch na chael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
Fe wnaeth Mr Davies addo rhoi "bargen deg" i fusnesau bach a chanolig eu maint ar drethi busnes.
"Yng Nghymru Llafur - mae tafarn arferol yn talu £6,000 yn fwy mewn trethi busnes na'i chymar yn Lloegr," meddai.
"Byddwn yn diwygio'r system i ddod â'r anghyfiawnder hwn i ben."
O fis Ebrill ymlaen, bydd rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer tafarndai, siopau a bwytai yng Nghymru yn cael ei ostwng o 75% i 40%.
Mae'n parhau ar 75% yn Lloegr, lle mae ardrethi busnes yn cael eu gosod gan Lywodraeth y DU.
Fe wnaeth yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd feirniadu'r ddau ymgeisydd yn yr ornest bresennol am arweinyddiaeth Llafur Cymru, i benderfynu pwy fydd yn cymryd lle'r Prif Weinidog Mark Drakeford fis nesaf, gan ragweld y byddan nhw'n "rhoi mwy o'r un peth i Gymru".
Wrth edrych ymlaen at yr etholiad cyffredinol, o fewn 11 mis, dywedodd Mr Davies y bydd pleidleiswyr yn wynebu dewis rhwng "arweinyddiaeth gref gan Rishi Sunak, neu adael i Keir Starmer orfodi polisïau gwirion, rhwygol a dinistriol Mark Drakeford ar y DU cyfan".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd22 Chwefror