Torcalon teulu cyn-AS wedi marwolaeth menyw o Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tetiana MartynovaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tetiana Martynova wedi bod yn byw yng Nghymru ers Gorffennaf 2022, wedi iddi ffoi gyda'i mab rhag yr ymladd yn Wcráin

Mae cyn-AS Plaid Cymru a fu'n gofalu am fenyw o Wcráin wedi disgrifio torcalon ei deulu yn dilyn ei marwolaeth mewn gwrthdrawiad.

Bu farw Tetiana Martynova, 40 oed o Wcráin, mewn gwrthdrawiad car yn Abertawe ddiwedd Ionawr.

Fe wnaeth Dr Dai Lloyd - cyn-aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru - a'i wraig roi lloches i Tetiana a'i mab Iliah wedi iddyn nhw ffoi o'r rhyfel yn Wcráin.

Wrth sgwrsio ar raglen Dros Ginio ddydd Gwener, fe ddisgrifiodd Dr Dai Lloyd ei marwolaeth fel "ergyd drom" iddyn nhw.

Mae Iliah bellach yn ôl yng ngofal Dr Lloyd a'i wraig yn Abertawe.

'Fel merch i ni'

Gyda dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i Rwsia ymosod ar Wcráin, fe esboniodd Dr Dai Lloyd sut aeth ef a'i wraig - a nifer o drigolion eraill Abertawe - ati i gynnig lloches i'r rheiny oedd yn ffoi o'r rhyfel drwy gynllun Homes for Ukraine.

"Mi ddaeth Tetiana ac Iliah yma, ac roedden nhw gyda ni am ddau fis a hanner cyn iddyn nhw symud i mewn i fflat sydd gyda ni yn Abertawe," meddai.

Dywedodd eu bod yn trin Tetiana "fel merch i ni" a hithau'r un oed â'u plant nhw, a bod "Iliah fel ŵyr bach arall".

Wrth sôn am y broses o dderbyn Tatiana a'i mab i'w gofal, dywedodd fod "popeth yn rhedeg yn weddol llyfn" a'u bod yn "falch iawn o allu croesawu'r teulu bach efo ni".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Dai Lloyd yn gyn-aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Un o'r heriau "sylfaenol" oedd yn wynebu nifer o'r rheiny oedd yn symud i Gymru oedd nad oeddynt yn siarad Saesneg, ond roedd Tatiana yn medru gwneud hynny ac wedi gallu cael swydd yma.

"Wrth gwrs doedden nhw ddim yn disgwyl bod yma am fisoedd ar fisoedd, ac oedden nhw'n hiraethu am fynd nôl i Wcráin," meddai Dr Dai Lloyd.

Dywedodd fod marwolaeth sydyn Tatiana lai na mis yn ôl wedi bod yn "ergyd drom" i'w deulu.

Wrth sôn am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei dderbyn, dywedodd fod "pawb wedi bod yn hollol fendigedig fan hyn".

Mae Iliah bellach yn ôl yn byw gyda Dr Lloyd a'i wraig, ac mae'n mynychu ysgol leol.

"Does 'da fe ddim teulu yng Nghymru na thu allan i Wcráin a dweud y gwir," meddai'r cyn-AS.

Codi ymwybyddiaeth ac arian

Mae Dr Lloyd yn mynychu pob math o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth ac arian at y sefyllfa yn Wcráin.

Ag yntau'n feddyg, mae'n pwysleisio'r angen mawr sydd yna i gael cyfarpar meddygol er mwyn achub bywydau yno.

Dywedodd ei fod yn "falch o'r ardal yma achos mae miloedd o bobl wedi bod wrthi" yn codi arian.

Pynciau cysylltiedig