Eira wedi disgyn dros rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae eira wedi disgyn dros rai ardaloedd yng Nghymru dros nos.
Mae lluniau yn dangos blancedi gwyn dros rannau o Geredigion, Powys, ac ar y Preselau yn Sir Benfro fore Gwener.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl rhagor o gawodydd gaeafol ar dir uchel brynhawn Gwener, cyn i'r cawodydd gaeafol glirio erbyn y nos.
Mae rhybudd melyn am law trwm dros y rhan fwyaf o Gymru tan 15:00 ddydd Gwener.
Mae disgwyl hyd at 15mm o law ar gyfartaledd ymhob rhan o Gymru, heblaw am Ynys Môn a rhannau o'r Gogledd Ddwyrain a Gogledd Orllewin.
Mae rhybudd y gallai hyd at 30mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd8 Chwefror