S4C yn ymchwilio i drafferthion pleidleisio Cân i Gymru
- Cyhoeddwyd

Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur oedd yn cyflwyno ar y noson
Mae S4C wedi dweud eu bod yn bwriadu adolygu trefniadau pleidleisio Cân i Gymru yn sgil adroddiadau bod rhai gwylwyr wedi wynebu trafferthion nos Wener.
Mae nifer o bobl yn honni nad oedden nhw wedi gallu pleidleisio am eu hoff gân oherwydd problemau gyda'r llinellau ffôn.
Sara Davies oedd yr enillydd eleni gyda'r gân Ti, gyda Steve Balsamo a Kirstie Roberts yn gorffen yn ail a Gwion Phillips ac Efa Rowlands yn drydydd.
Dywedodd S4C mewn datganiad eu bod yn "ymddiheuro i unrhyw un wynebodd drafferthion" ac eu bod yn "ymchwilio i achos hynny".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Er mwyn pleidleisio roedd angen i bobl ffonio rhif oedd yn dechrau gyda 0900, ond mae'n ymddangos nad oedd rhai cyflenwyr yn caniatáu defnyddio llinellau o'r fath.
Oherwydd y trafferthion mae rhai wedi cwestiynu dilysrwydd a thegwch y broses bleidleisio.
'17,000 o bleidleisiau wedi eu cyfri'
Yn ôl S4C, cafodd dros 17,000 o bleidleisiau eu cyfri a bod hynny "llawer yn fwy na'r cyfanswm y llynedd".
Nododd S4C hefyd fod yr enillydd wedi derbyn "rhai miloedd yn fwy o bleidleisiau na'r gân yn yr ail safle".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae Cân i Gymru yn un o brif ddigwyddiadau S4C. Rydym yn hynod o falch ohono ac roedd safon y gystadleuaeth eleni yn arbennig o uchel.
"Rydym yn gwerthfawrogi'r holl gefnogaeth gan ein gwylwyr ledled Cymru a thu hwnt ac yn siomedig bod rhai wedi cael trafferthion wrth geisio taro'u pleidlais neithiwr.
"Roedd y system ddefnyddiwyd i bleidleisio yn debyg iawn i'r hyn sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfresi tebyg ar draws y diwydiant darlledu.
"Er hyn rydym yn ymddiheuro i unrhyw un wynebodd drafferthion neithiwr ac yn ymchwilio i achos hynny.
"Byddwn hefyd yn adolygu'r trefniant ar gyfer y flwyddyn nesaf."
Dywedodd Ofcom Cymru nad oedden nhw'n ymwybodol o unrhyw gwynion ar hyn o bryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024