Cyhuddo dyn 19 oed wedi gwrthdrawiad difrifol yn Hirwaun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus ac o beidio rhoi sampl i swyddogion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Rhondda Cynon Taf nos Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn Hirwaun am 18:25, wedi adroddiadau bod cerddwr ifanc wedi cael ei daro gan gar.
Mae'r bachgen 13 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau sy'n cael eu disgrifio gan yr heddlu fel rhai "all beryglu ei fywyd".
Fe wnaeth Harley Whiteman o Hirwaun ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn, a bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ym mis Ebrill.
Cafodd dau ddyn arall eu harestio wedi'r digwyddiad ond maen nhw bellach wedi eu rhyddhau heb gyhuddiad.
Mae Heddlu'r De yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.