Hen glwb cymdeithasol wedi ei ddinistrio mewn tân
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr hen glwb chwaraeon ei ddinistrio yn llwyr gan y fflamau
Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i hen glwb cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr gael ei ddinistrio mewn tân.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn Lewistown ger Cwm Ogwr am tua 16:44 brynhawn Sadwrn.
Bu criwiau tân yn brwydro'r fflamau am rai oriau, ond cafodd yr adeilad ei ddinistrio yn llwyr.
Chafodd neb eu hanafu a does neb wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae ymchwiliad Heddlu'r De i achos y tân yn parhau.
