Rolls-Royce: Dros 100 o swyddi newydd yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Llong danforFfynhonnell y llun, Rolls Royce
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y swyddi yng Nghaerdydd yn cynhyrchu adweithyddion niwclear ar gyfer llongau tanfor newydd

Mae Rolls-Royce wedi cyhoeddi y byddan nhw'n creu dros 100 o swyddi newydd yng Nghaerdydd er mwyn cynhyrchu adweithyddion niwclear ar gyfer llongau tanfor newydd.

Mae'r cwmni yn gobeithio denu peirianwyr ac arbenigwyr i'w swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd a Glasgow.

Bydd dros 100 o swyddi'n cael eu lleoli yn Llaneirwg, Caerdydd, a dros 100 o swyddi eraill ym mharc busnes Maes Awyr Glasgow.

Daw hynny ar ôl cytundeb rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau ac Awstralia i greu llongau tanfor newydd, gan ddefnyddio adweithyddion fydd yn cael eu gwneud ym Mhrydain gan Rolls-Royce.

Yng Nghaerdydd, mae'r cwmni'n gobeithio denu pobl sydd ag arbenigedd mewn dylunio mecanyddol, peirianwaith a mecaneg hylifol.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: "Bydd y buddsoddiad yma yn creu 100 o swyddi sgiliau uchel, fydd yn cael eu talu'n dda yn ein prifddinas."

Pynciau cysylltiedig