Cân i Gymru: 'Siom' bil ffôn ar ôl 'methu pleidleisio'

  • Cyhoeddwyd
Trystan Ellis-Morris, Sara Davies ac Elin FflurFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur oedd yn cyflwyno ar y noson

Mae gwylwyr rhaglen Cân i Gymru wedi dweud eu bod yn "siomedig" ac yn "rhwystredig" ar ôl derbyn biliau ffôn uwch na'r arfer, gan nad oedden nhw'n credu bod eu galwadau i bleidleisio yn y gystadleuaeth wedi cysylltu'n iawn.

Mae Cymru Fyw wedi siarad gyda rhai sy'n dweud eu bod wedi cael biliau ffôn o dros £30 ar ôl ceisio pleidleisio sawl gwaith am eu hoff gân.

Ers y rhaglen nos Wener, mae nifer wedi honni nad oedden nhw wedi gallu pleidleisio oherwydd problemau gyda'r llinellau ffôn, ond mae rhai'n dweud eu bod nhw wedi gorfod talu am bob galwad.

Dywedodd un gwyliwr, Kylie Evans o Aberystwyth, ei bod wedi ceisio ffonio i bleidleisio nos Wener ond "doedd y galwad ddim yn cysylltu" a'i bod wedi "ymgeisio eto ac eto".

Dywedodd: "Cymaint ag o'n i'n hoffi'r gân bydden i ddim wedi pleidleisio 37 o weithiau a thalu £31.45!"

Mae S4C wedi dweud bod "problem dechnegol" gyda'r system bleidleisio ar y noson, gan ychwanegu bod trafodaethau'n digwydd ynghylch ad-daliadau posib.

'Dwi ddim yn meddwl bod e'n deg'

Sara Davies oedd yr enillydd eleni gyda'r gân Ti, gyda Steve Balsamo a Kirstie Roberts yn gorffen yn ail a Gwion Phillips ac Efa Rowlands yn drydydd.

Er mwyn pleidleisio roedd angen i bobl ffonio rhif oedd yn dechrau gyda 0900, ond mae'n ymddangos nad oedd rhai cyflenwyr yn caniatáu defnyddio llinellau o'r fath.

Dywedodd Kylie Evans o Aberystwyth wrth Cymru Fyw: "Roeddwn am bleidleisio dros cân rhif 5 - Cysgod Coed - gan fy mod yn teimlo bod Gwion ac Efa wedi gwneud yn arbennig o dda i gyrraedd y ffeinal.

Ffynhonnell y llun, Kylie Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kylie Evans "nad oedd e'n deg i godi ffi ar bobl oedd wedi methu mynd trwyddo"

"Unwaith agorodd y llinellau ffôn, dyma fi'n ceisio mynd trwyddo ond doedd y galwad ddim yn cysylltu... ymgeisio eto ac eto felly, ac yna cael y meibion a'n chwiorydd i dreial ar eu ffonau nhw, ond dim lwc.

"Roeddwn yn siomedig - yn enwedig pan edrychais ar y bil ffôn y diwrnod wedyn a gweld bod nhw wedi codi 85c o ffi am bob tro roeddwn wedi ceisio eto!

"Cymaint ag o'n i'n hoffi'r gân bydden i ddim wedi pleidleisio 37 o weithiau a thalu £31.45!

"Dwi ddim yn meddwl ei fod yn deg i godi ffi ar bobl oedd wedi methu mynd trwyddo ar y llinellau - doedd dim neges hyd yn oed, jyst bod y ffôn ddim yn cysylltu.

"Dwi'm wedi gweld neb ar y cyfryngau cymdeithasol a lwyddodd i gofrestru pleidlais - bach o siop siafins felly!"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llio Davies ei bod wedi ceisio pleidleisio sawl gwaith ac wedi talu am bob galwad

Un arall gafodd brofiad tebyg oedd Llio Davies o Ynys Môn, a ddywedodd wrth Cymru Fyw ei bod wedi ceisio pleidleisio ar ei ffôn symudol a ffôn y tŷ.

"Yr unig beth oedd yn digwydd oedd bod y llinell yn mynd yn farw bob tro... dim neges na sŵn 'prysur'.

"Ceisiais fwy nag unwaith, ac o wirio bil ffôn y tŷ gwelais fy mod wedi talu 52c am bob galwad... roedd hynny'n £3.64 o ffôn y tŷ a dydw i heb wirio bil y ffôn symudol eto.

"Does ryfedd felly fod S4C wedi adrodd bod cymaint wedi pleidleisio os oedd pob galwad yn cyfri', heb yn wybod i'r sawl oedd yn talu'r bil!"

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Sara Davies oedd enillydd tlws newydd Cân i Gymru a'r wobr ariannol o £5,000

Mae'r BBC wedi clywed gan ddynes arall - sydd am aros yn ddi-enw - a ddywedodd ei bod wedi cael bil o £35 ar ôl trio sawl tro, ond oedd dan yr argraff nad oedd yr un alwad yn llwyddiannus.

Dywedodd gwyliwr arall oedd am aros yn ddi-enw wrth Cymru Fyw ei bod "fel nifer, yn anhapus gyda'r hyn ddigwyddodd wrth bleidleisio".

"Ro'n ni wedi talu am y galwadau ffôn a hyd y gwn i, doedd S4C, ddim wedi derbyn ein pleidleisiau.

"Beth ddigwyddodd felly gan mai'r unig dro atebwyd y ffôn yn fy achos i oedd ar ôl i'r llinellau gau?"

'Mae'n chwerthinllyd'

Dywedodd gwyliwr arall, Awen Hamilton, o Lanystumdwy, wrth Cymru Fyw: "Mi wnes i drïo lawer gwaith i bleidleisio oddi ar ffôn y tŷ a phedwar gwaith ar y ffôn bach hyd nes daeth tecst gan Vodafone yn gofyn os oeddwn yn sylweddoli fy mod wedi gwario dros £1 ar wneud galwadau i rif ffôn 0900.

"Mae'n chwerthinllyd na wnaed y gwaith ymchwil priodol ymlaen llaw er osgoi hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Davies yn dweud ei bod hi'n "siomedig a rhwystredig" nad oedd hi'n gallu pleidleisio

Ychwanegodd un arall, Rachel Davies sy'n byw yn ardal Caerfyrddin: "O'dd e ddim yn mynd trwyddo... o'dd dim neges i ddweud bod y neges wedi cyrraedd neu bo fi wedi pleidleisio felly o'n i'n meddwl falle bod y llinellau ffôn yn brysur a trial sawl gwaith a cael yr un peth.

"O'dd e'n siomedig a rhwystredig i fod yn onest... o'n i ddim yn gwybod os oedd y bleidlais wedi cael ei dderbyn ac o ran y gost yr alwad hefyd."

'Problem dechnegol' ar y noson

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Rydym yn ymddiheuro am y camgymeriad technegol yn ystod Cân i Gymru.

"Mae S4C mewn trafodaethau gyda'r darparwr telebleidleisio i ymchwilio i'r posibilrwydd o ad-dalu y rhai sydd wedi eu heffeithio.

"Profwyd y broses bleidleisio yn llwyddiannus cyn mynd ar yr awyr.

"Roedd problem dechnegol gyda'r gwasanaeth gan ddarparwr telebleidleisio'r gystadleuaeth, unwaith i'r bleidlais fynd yn fyw.

"Roedd hyn yn golygu na chafodd pleidleiswyr unrhyw gadarnhad bod eu pleidleisiau wedi eu cyfri.

"Mae'r darparwr telebleidleisio wedi ymddiheuro i S4C am y camgymeriad, ond mae wedi cadarnhau bod yr holl bleidleisiau gafodd eu taro yn llwyddiannus wedi cael eu cyfri, ac mae'r canlyniadau wedi eu gwirio.

"Ar hyn o bryd mae tîm technegol y cwmni allanol yn ymchwilio i achos y mater.

"Bydd S4C yn adolygu'r broses bleidleisio ar gyfer Cân i Gymru y flwyddyn nesaf."

Pynciau cysylltiedig