Pum peth i Gymru i'w gwylio yn y gyllideb

  • Cyhoeddwyd
CyllidebFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Canghellor Jeremy Hunt yn cyhoeddi manylion ei gyllideb am 12:30 dydd Mercher

Am 12:30 ddydd Mercher fe fydd y Canghellor Jeremy Hunt yn cyhoeddi manylion ei gyllideb i'r Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl mai hon fydd y gyllideb olaf cyn yr etholiad cyffredinol, ac felly mae mwy o bwysau nag erioed ar y Canghellor i gynnig danteithion i etholwyr tra'n anrhydeddu addewid ei lywodraeth ar wariant a benthyca.

Beth felly y gallwn ni ddisgwyl o'r datganiad?

Toriadau treth?

Dyma'r aur i unrhyw lywodraeth cyn etholiad - cynnig toriadau treth.

Mae dau opsiwn dan ystyriaeth gan y Trysorlys - cwtogi Yswiriant Gwladol neu Dreth Incwm.

Mae torri Treth Incwm yn fwy effeithiol i bleidleiswyr, ond torri Yswiriant Gwladol yn rhatach i'r Trysorlys.

Y dyfalu diweddaraf yw mai torri 2c oddi ar Yswiriant Gwladol fydd dewis y Trysorlys - fydd ar ben y toriad o 2c ar Yswiriant Gwladol a gyhoeddwyd nôl yn Natganiad yr Hydref.

Ond ai dyna'i diwedd hi, neu a fydd syrpreis arall ym mlwch coch Jeremy Hunt?

Mae Llafur yn amau bod y Trysorlys yn llygadu toriadau treth incwm hefyd.

Ond hyd yn oed gyda'r toriadau hynny fe fydd pobl dal yn talu un o'r lefelau uchaf o dreth erioed am fod y trothwy i dalu trethi wedi eu rhewi - sy'n golygu bod pobl yn talu graddfa uwch o dreth nag o'n nhw'n arfer ei dalu.

Ond uwchben unrhyw doriad fe fydd un cwestiwn mawr i'r Canghellor, sef o ble yn union y daw'r toriadau i dalu amdanyn nhw?

Llety gwyliau

Roedd 11,300 o lety gwyliau hunanarlwyo yng Nghymru yn 2022-23 - a'u dyfodol yn bwnc llosg yma eisoes ar ôl i Lywodraeth Lafur Bae Caerdydd ei gwneud hi'n anoddach i berchnogion eiddo fod yn gymwys i alw'r eiddo yn llety gwyliau.

Mae hynny wedi cythruddo'r Ceidwadwyr Cymreig - ond beth fydd eu barn ar adroddiadau bod y Canghellor yn ystyried 'neud bywyd hyd yn oed yn anoddach i'r busnesau hynny?

Disgrifiad o’r llun,

"Gallai'r camau ychwanegol hyn fod yn hoelen olaf yn arch nifer o'r busnesau o fewn y sector llety gwyliau," meddai Jim Jones

Yn ôl papur newydd y Times, mae'r Trysorlys yn gobeithio ychwanegu £300m at eu coffrau trwy ddileu'r manteision treth ar lety gwyliau hunanarlwyo - gan ddileu pethau fel hawlio cost dodrefnu ac ati a gan ddadlau bod hynny'n helpu taclo'r diffyg tai mewn ardaloedd arfordirol, twristaidd.

Ond yn ôl Jim Jones, rheolwr gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru, byddai'r newid yn "ergyd ariannol sylweddol" i'r sector llety gwyliau.

"Mae nifer o fusnesau eisoes yn ystyried eu dyfodol, a gallai'r camau ychwanegol hyn fod yn hoelen olaf yn arch nifer o'r busnesau o fewn y sector llety gwyliau," meddai.

Ond mae Plaid Cymru wedi croesawu'r syniad, mewn egwyddor, a'r aelod dros Geredigion Ben Lake yn dweud y bydd "croeso i'r cynlluniau yma os ydyn nhw'n dod â chartrefi nôl i'r farchnad mewn ardaloedd lle mae 'na argyfwng tai".

Gwariant cyhoeddus

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ragor o arian i wasanaethau cyhoeddus, a Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, yn dweud y dylai'r Canghellor "flaenoriaethu buddsoddiad angenrheidiol yn y gwasanaethau cyhoeddus yr ydyn ni gyd yn dibynnu arnyn nhw".

Ond tynhau ar gynlluniau gwariant yw'r disgwyl, a'r Trysorlys yn ystyried torri'r addewid o wario 1% uwchben chwyddiant ar wasanaethau cyhoeddus i 0.75%, gan arbed rhyw £5bn.

Bydd llai o wariant yn Lloegr yn golygu "rhagor o boen" i gyllideb Llywodraeth Cymru yn ôl Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethant Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd llai o wariant yn Lloegr yn golygu "rhagor o boen" i gyllideb Llywodraeth Cymru, medd Guto Ifan

"Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweld gwerth termau real eu cyllideb yn cael ei wasgu gan chwyddiant, gan arwain at doriadau ar draws rhan fwya'r gyllideb," meddai.

"Mae cynlluniau gwariant y Canghellor yn awgrymu bod mwy o boen i ddod yn hynny o beth."

Gwagio coffrau Llafur

Mae Llafur Prydain wedi bod yn addo mwy o arian i wasanaethau cyhoeddus drwy osod mwy o drethi ar y cyfoethocaf.

Ond beth os yw'r Canghellor ar fin defnyddio'r arian hwnnw at ei bwrpas ei hun?

Yn ôl y dyfalu, fe allai dau beth achosi pen tost i fathemateg unrhyw Faniffesto Llafur Prydain - cyfyngu ar hawliau 'Non-Doms' a mwy o dreth gorelw ar gwmnïau ynni.

Ar 'Non-Doms' - y bobl hynny sy'n gallu osgoi talu treth ym Mhrydain am 15 mlynedd - os allan nhw hawlio'u bod nhw'n talu treth mewn gwlad arall, mae Llafur wedi amcangyfrif yn flaenorol y gallai hyn ychwanegu rhyw £3bn at goffrau Prydain.

Ar dreth gorelw wedyn, mae Llafur wedi bod yn pwyso ers tro am ragor o drethi ar gwmnïau olew a nwy, sydd wedi gweld eu helw'n codi'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y dyfalu diweddaraf yw mai torri 2c oddi ar Yswiriant Gwladol fydd dewis y Trysorlys

Mae'r dreth gorelw presennol gan Lywodraeth Prydain fod i ddod i ben yn 2028, ond gydag adroddiadau bod y Trysorlys yn bwriadu ei hymestyn - fe allai hynny olygu bod llai o gyfle ariannol i Lafur pe bydden nhw'n ennill yr etholiad nesaf.

Beth am fusnesau bach?

Mae 99% o fusnesau Cymru yn rhai bach neu ganolig, ac yn cyflogi rhyw 63% o weithwyr Cymru - ac mae gan Lywodraeth Prydain arfau pwysig iawn i'w helpu.

Yn bennaf oll, mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru eisiau gweld y Canghellor yn codi'r trothwy enillion i orfod cofrestru ar gyfer Treth Ar Werth o £85,000 i £100,000, gan ddweud bod y "trothwy presennol yn cyfyngu ar awydd cwmnïau i dyfu".

Mae 45 o Aelodau Seneddol Ceidwadol hefyd wedi galw am newidiadau i Dreth ar Werth mewn llythyr at y Canghellor - maen nhw'n galw am "doriad dros dro mewn Treth ar Werth i'r sector lletygarwch a thwristiaeth".

Mae'r Trysorlys yn mynnu mai cyllideb i wthio twf tymor hir yn yr economi fydd hon, ond ag economi Prydain wedi llithro mewn i ddirwasgiad technegol ddiwedd y llynedd a 25,000 o fusnesau wedi mynd i'r wal yng Nghymru a Lloegr y llynedd - y nifer uchaf ers 30 mlynedd - fe fydd pwysau o sawl cornel ar i'r Canghellor roi hwb go iawn i fusnesau a chynhyrchiant.