Gosod miloedd o esgidiau glaw o flaen y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae 5,500 o esgidiau glaw wedi eu gosod o flaen Senedd Cymru fel protest i wrthwynebu cynlluniau amaeth Llywodraeth Cymru.
Fe ddisgrifiodd y trefnwyr yr arddangosfa fel un "bwerus ac emosiynol" sy'n cynrychioli y nifer o swyddi y maen nhw'n ei ragweld a fydd yn cael eu colli ym myd amaethyddiaeth.
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi dweud nad yw hi am weld "un swydd yn cael ei cholli" o ganlyniad i'r cynlluniau.
Mae grwpiau amgylcheddol wedi disgrifio'r cynllun fel un hanfodol er mwyn mynd i'r afael â byd natur a newid hinsawdd ond maen nhw wedi galw am sicrwydd y bydd ffermwyr yn derbyn cyllid digonol.
Mae disgwyl i ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) dadleuol Llywodraeth Cymru ddod i ben ddydd Iau.
O 2025, fydd yr SFS yn cymryd lle cymorthdaliadau amaethyddol o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd, ond mae'r cynllun wedi arwain at brotestiadau mawr ledled Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Asesiad o effaith economaidd y cynllun a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru sydd wedi sbarduno'r ffrae.
Awgrymodd pe bai pob fferm yn cymryd rhan y gallai weld gostyngiad o 122,000 yn unedau da byw Cymru a thoriad o 11% yn y llafur sydd ei angen, rhywbeth honnodd undeb amaethyddol NFU Cymru fyddai fel colli 5,500 o swyddi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb gan ddweud fod y dadansoddiad eisoes yn hen ac yn adlewyrchu fersiwn cynharach o'r cynllun heb ystyried yr ystod lawn o gynlluniau ariannu sy'n cael eu cynnig.
Roedd y ddogfen ei hun hefyd yn nodi y gallai fod cynnydd mewn swyddi y tu allan i amaeth ar ffermydd mewn meysydd fel rheoli coetiroedd.
Ond gyda chyfraddau talu'r cynllun newydd eto i'w cyhoeddi, dywedodd NFU Cymru fod yr asesiad effaith economaidd yn cynnwys "yr unig ffigyrau sydd ar gael i ffermwyr i wneud penderfyniad".
Pwysleisio 'faint sydd yn y fantol'
Fe esboniodd Dirpryw Lywydd NFU Cymru, Abi Reader, fod yr adroddiad "wedi pwysleisio mewn gwirionedd faint sydd yn y fantol".
"Gallwn ni'm caniatáu i'n cymunedau gwledig ddioddef oherwydd polisi sy'n annoeth ar y gorau ac yn wallgof ar y gwaethaf".
Fe wnaeth yr undeb ofyn i ffermwyr i roi hen esgidiau glaw o flaen y Senedd a dywedodd Ms Reader fod yr ymateb wedi bod yn "anhygoel".
Mae Paul Williams, ffermwr cig eidion o Lanrwst, Conwy wedi bod yn casglu esgidiau glaw yn ei ardal a dywedodd mai'r nod oedd "i aelodau'r llywodraeth weld be fyddai 5,500 o swyddi'n edrych fel".
"Mae'n anodd i unrhyw un weld be mae 5,500 o bobl yn edrych fel felly roeddan ni isio g'neud rhywbeth oedd yn weledol i aelodau'r senedd."
Ychwanegodd: "Dwi'n sicr mae o'n mynd i fod yn drawiadol ac mewn ffordd mi fydd o'n eitha trist dwi'n meddwl gweld ffasiwn nifer o barau o wellingtons yne yn gwynebu ni felly," meddai.
Dywedodd fod ei deulu wedi llenwi ymgynghoriad y llywodraeth ar-lein a'u bod yn "barod i blannu mwy o goed" ond ychwanegodd "fedrwn ni ddim ymrwymo i roi 10% o'n tir mewn coed".
Mae'r gofyniad yn y cynllun i ffermydd gael 10% o orchudd coed a rheoli 10% o dir fel cynefin bywyd gwyllt wedi bod yn hynod ddadleuol.
Er i undebau ddadlau fod hyn yn anymarferol dywedodd arweinydd Ymgyrchoedd Coed Cadw yng Nghymru, Nigel Pugh, fod "llawer o gamddealltwriaeth" ynghylch y mater.
Ar gyfartaledd mae gan ffermydd Cymru eisoes rhwng 6-7% o orchudd coed ac mae hyblygrwydd o fewn y rheolau i helpu'r rhai a fyddai'n gweld plannu coed yn heriol, esboniodd.
Mynnodd Rachel Sharp, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaethau Natur Cymru nad oedd y gofynion cynefin yn ymwneud â thynnu tir allan o gynhyrchu bwyd.
Byddai dolydd blodau gwyllt er enghraifft yn cyfrif fel rhan o'r 10% tra'n dal i gael eu pori a darparu gwair fel porthiant gaeaf i dda byw.
Dywedodd: "Rydyn ni mewn argyfwng byd natur. Dwy i yn fy 50au nawr ac yn anffodus yn fy oes rydyn ni wedi colli tua 60% o doreithrwydd bywyd gwyllt yng Nghymru - does ddim cenhedlaeth arall gyda ni."
Fodd bynnag, pwysleisiodd y ddau sefydliad amgylcheddol fod sicrhau cyllideb ddigon mawr ar gyfer y cynllun yn allweddol.
"Os ydyn ni am i ffermwyr fod yn geidwaid cefn gwlad mae angen i ni eu talu nhw a rhoi sicrwydd iddyn nhw wrth symud ymlaen," meddai Ms Sharp.
Fore Mercher dywedodd Sam Kurtz AS, llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar faterion gwledig: "Mae grisiau'r Senedd wedi gweld nifer o brotestiadau a gwrthdystiadau dros y blynyddoedd, ond byddwn yn dadlau nad oes yr un ohonynt wedi bod mor ingol a phwerus â'r arddangosfa o 5,500 o wellingtons gwag.
"Mae wellies gwag yn cynrychioli'r ffermydd gwag a'r cymunedau gwag a fydd i'w gweld ledled cefn gwlad Cymru wledig os aiff yr SFS yn ei flaen heb newidiadau difrifol a chyffredinol.
"Rwy'n annog y Prif Weinidog, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a'r holl Aelodau Seneddol i fynd i weld yr arddangosfa drostynt eu hunain ac rwy'n eu herio i beidio â chael eu symud."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr ymgynghoriad yn un "gwirioneddol ac ni fydd unrhyw benderfyniadau ar unrhyw elfen o'r cynnig, gan gynnwys sut rydym yn cyflawni'r gofyniad am gynefinoedd a choed, yn cael eu gwneud nes ein bod wedi cynnal dadansoddiad llawn o'r ymatebion i'r ymgynghoriad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Mai