Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Lloegr 16-14 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe roddodd Cymru fraw i'r Saeson ar ail benwythnos Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2024 ond boddi ar ymyl y lan oedd eu hanes.

Yn dilyn hanner cyntaf rhyfeddol roedd Cymru ar o blaen o 14 i 5.

Ond roedd yna ddiffyg disgyblaeth am gyfnodau wedi'r egwyl a fe lwyddodd Lloegr i droi'r fantol, gan eu trechu yn y pen draw o 16 i 14.

Dyma'r ail golled o ddau felly i dîm Warren Gatland wedi iddyn nhw golli o drwch blewyn yn erbyn Yr Alban penwythnos diwethaf,

Roedd yna gymeradwyaeth cyn y gic gyntaf i goffa'r cyn chwaraewyr chwedlonol JPR Williams a Barry John, a fu farw'n ddiweddar.

Cais cofiadwy i Alex Mann

Daeth pwyntiau cyntaf Cymru trwy gais gosb. Gydag Ollie Chessum eisoes yn y gell gosb fe welodd Ethan Roots gerdyn melyn hefyd am drosedd, ac roedd Lloegr ddau ddyn yn brin am gyfnod.

Fe darodd y tîm cartref yn ôl pan diriodd Ben Earl, ond fe fethodd George Ford ag ychwanegu pwyntiau gyda'r trosiad.

Ond fe lwyddodd Ford i ychwanegu dau bwynt wedi i Gymru ildio cic gosb

Ond gyda dau funud ar y cloc cyn yr egwyl, fe gyfrannodd Tommy Reffell a Tomos Williams at symudiad gwych a arweiniodd at gais gan y blaenasgellwr Alex Mann wedi iddo ddechrau gêm ryngwladol am y tro cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Alex Mann yn tirio tua diwedd yr hanner cyntaf

Gyda'r fath fantais ar ddiwedd yr hanner cyntaf yr her i Gymru wedi'r egwyl oedd cadw eu pennau a chynnal momentwm a disgyblaeth os am sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn Twickenham ers 2015.

Roedd angen ymdrech arwrol gan Cameron Winnett i atal Elliot Daly rhag tirio yn y gornel.

Ac roedd gofyn am dacl lawn cystal gan Tommy Freeman i atal rhediad at y llinell gan Josh Adams.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ond fe lwyddodd George Ford i gau'r bwlch gyda chic gosb cyn i Fraser Dingwall groesi'r llinell yn y gornel i sgorio ei gais rhyngwladol cyntaf.

Roedd yna ochenaid o ryddhad pan aeth trosiad Ford o chwith. Roedd Cymru'n yn dal ar y blaen o 14 i 13, ond roedd yna chwarter awr yn weddill.

Roedd Lloegr eisoes wedi dechrau cynyddu'r pwysau, cyn i Mason Grady droseddu a chael ei anfon i'r gell gosb.

Y gic gosb, eto gan Ford, wnaeth sicrhau mai Lloegr nawr oedd ar y blaen am y tro cyntaf.

Ac er gwaethaf eu hymdrechion gorau, colli o drwch blewyn oedd hanes Cymru unwaith eto y penwythnos yma.

Iwerddon yw'r gwrthwynebwyr nesaf mewn pythefnos, sy'n dalcen caled eto os am lwyddo i sicrhau buddugoliaeth a chodi o bumed safle'r tabl.

Pynciau cysylltiedig