Angharad Jenkins: 'Dwi wedi ffeindio'n llais i'
- Cyhoeddwyd
"'Nes i ffeindio taw'r unig ffordd i gyfathrebu gyda babi bach oedd trwy ganu. Dyna pryd 'nes i ddechrau cyfansoddi caneuon - oedd e'n ffordd o gadw ymennydd fi i fynd achos o'n i'n styc ar y soffa a ddim yn mynd mas. O'n i wedi colli fy hunaniaeth yn llwyr."
Drwy golli ei hunaniaeth yn magu plant mae'r cerddor Angharad Jenkins yn credu ei bod wedi dod o hyd i'w llais.
Mae'r chwaraewr ffidl, sy'n adnabyddus yn y sin gwerin yng Nghymru am fod yn aelod o fandiau fel Calan, Pendevig a DnA, newydd ryddhau albwm o'r enw Motherland am ei phrofiad o fod yn fam.
A'r profiad hynny sy' wedi ei hysbrydoli i gyfansoddi'r caneuon ar gyfer ei halbwm cyntaf - ac hefyd eu canu, fel mae'n esbonio wrth Cymru Fyw mewn darn arbennig ar gyfer Sul y Mamau.
Dwi erioed wedi ysgrifennu cân tan i fi gael plant ond o fewn chwe mis roedd yr holl albwm wedi cael ei ysgrifennu. Mae sawl genre yn yr albwm ond mae fe'n fwy o stori nag unrhyw beth.
Oedd e fel ton o hunan-fynegiant ar ôl y sioc o droi'n fam. O'n i ddim wedi ysgrifennu hi gyda unrhyw fwriad o ryddhau albwm - oedd e jest yn ffordd i ddelio 'da beth o'n i'n mynd trwyddo. Mae'n dangos y ddwy ochr o fod yn fam - yr uchafbwyntiau a'r isaf fannau hefyd.
Tywyllwch
Mae rhai traciau'n llawn llawenydd ac mae rhai'n eitha tywyll hefyd.
O'n i moyn i rai o'r caneuon fod yn wers neu'n rhybudd. Mae 'na ddarn, Postpartum, sy' fel rhybudd. O'n i'n teimlo bod chi ddim yn cael y llun cyfan pan chi'n mynd i ddosbarthiadau antenatal neu hyd yn oed pan chi'n siarad gyda pobl.
Dyw stori'r ferch ddim i'w glywed o gwbl ac mae hynny'n drueni achos mae'n rhan mor fawr o fod yn ddynol. Ni'n cael y portreadau hyfryd pastel o'r fam a'r babi yn edrych yn ciwt a'n brydferth ond dim ond un ochr yw hynny. Dwi wir yn gweld y diffyg portread o bob ochr o fod yn fam mewn celf yn gyffredinol.
Ond mae 'na shifft mawr ar hyn o bryd - mae pethau'n newid ac mae pobl yn siarad amdano'n fwy agored nawr sy'n rili gyffrous.
Yr eithafon
Mae sawl ochr i fod yn fam.
Dwi erioed wedi teimlo cariad fel hwn o'r blaen. Mae pob teimlad ti'n teimlo yn fwy - mae'r llawenydd yn fwy, mae'r isel bwyntiau yn fwy.
Mae meddwl bod fi wedi cael gallu creu bywyd newydd yn rhywbeth anhygoel. Ond wedyn yr isel bwynt i fi yw colli hunaniaeth.
Mae fy nghefndir mewn cerddoriaeth gwerin traddodiadol ond o'n i'n ffaelu chwarae'r ffidil achos o'n i'n dal babi bron trwy'r dydd a thrwy'r nos so dyna pam 'nes i ddechrau canu. O'n i ddim yn canu o'r blaen ond dyna'r unig ffordd o'n i'n gallu tawelu a diddanu hi (merch Angharad, Tanwen) a 'nes i sylwi bod hynny'n helpu fi hefyd.
'Nes i ddechrau gyda'r hwiangerddi oedd rhieni fi'n canu ond o'n i'n mynd yn bored iawn gyda rheina a dyna pryd 'nes i ddechrau cyfansoddi caneuon - oedd e'n ffordd o gadw ymennydd fi i fynd.
Ar ben hynny oedd y pandemig so oedd gwaith fi gyd wedi cael ei ganslo. O'n i ddim yn gwybod os fydden i erioed yn chwarae cerddoriaeth eto.
Dwi wedi ffeindio'n llais i yn bendant. O'n i'n meddwl bod fi ddim yn gallu canu ond oedd cael plant wedi gorfodi fi i ffeindio'n llais er mwyn tawelu nhw.
Creadigrwydd
Dwi'n teimlo'n fwy creadigol nag erioed. Mae 'na naratif mae cymdeithas yn bwydo i ni fod plant yn mynd i fod yn ddiwedd eich gyrfa, yn enwedig yn y celfyddydau. Roedd Mam yn gerddor (y delynores Delyth Jenkins) ac wedi cymryd cam yn ôl yn ei gyrfa i magu fi a chwaer fi.
O'n i'n meddwl, sut ydw i'n mynd i barhau gyda hwn pan mae gen i blant ac a fydd rhaid i fi chwilio am swydd 9 i 5? Dyna oedd y neges oedd yn dod nôl i fi o hyd gan ddynion a merched. Ond o ran y creu dwi wedi cael ton enfawr o greadigrwydd.
Hwiangerddi
Dwi'n neud project gyda'r NHS a Mind o'r enw y Lullaby Project lle dwi'n gweithio gyda mamau i ysgrifennu hwiangerdd personol i'w plentyn nhw. Dwi wedi gweithio gyda degau o famau nawr dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae fe'n broses mor emosiynol pan dwi'n gweithio gyda mamau eraill yn ysgrifennu popeth i lawr ar bapur a wedyn troi e mewn i gân. Mae mor bwerus.
Mae fel bod e'n tapio mewn i emosiynau maen nhw ddim wedi caniatáu eu hunain i deimlo. Fel arfer mae dagrau. Mae'r caneuon 'ma'n helpu nhw i bondio gyda'r plentyn - mae fel arf.
Mae gen i hwiangerdd yr un i fy mhlant i ac mae'n helpu llonyddu nhw.
Neges i famau
Y peth mawr yw jest neud pethau ar dermau eich hun. Mae'r amser sy' gyda ni ar y ddaear yn fyr, mae'n rhaid i chi jest fynd amdani.
Mae 'na elfen o deimlo'n eitha hunanol bod fi'n rhyddhau albwm - dwi'n siŵr fod pob mam yn teimlo'n euog ond dwi'n gobeithio yn y pen draw bydd plant fi yn falch. I fi o'n i jest moyn cofnodi rhywbeth i helpu fi ac i adael rhywbeth i'm mhlant pan fyddai wedi mynd.
Mae'n nhad i wedi'n gadael ni nawr ond mi oedd e'n awdur (y bardd Nigel Jenkins) a dwi'n gallu troi at y llyfrau 'na a theimlo ei bresenoldeb. Oedd e'n helpu fi ac mae fe'n rhywbeth i 'mlant i gael fel cofnod o beth oedd Mam yn neud pan oedden nhw'n fach.
Mae'n rhaid trio chwalu'r ystradebau 'ma bod ni'n stopio pan ni'n cael plant. Mae 'na stori bwysig iawn i'w chlywed ac i'w dweud sy' ddim yn cael ei chlywed ddigon.