Carcharu rheolwr meddygfa am ddwyn £324,000 gan ei chyflogwr
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi cael ei charcharu am dair blynedd am ddwyn dros £300,000 gan y feddygfa roedd hi'n ei rheoli.
Clare Boland, 51 oed o Lansawel, oedd rheolwr meddygfa Fairfield ym Mhort Talbot pan ddechreuodd hi wneud taliadau i'w hun o gyfrif ei chyflogwr yn Awst 2017.
Clywodd Llys y Goron Abertawe ei bod wedi dwyn cyfanswm o £324,706.85 erbyn iddi gael ei gwahardd ym mis Medi 2022.
Roedd Boland wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol i dwyll drwy gamddefnyddio ei swydd.
Mewn gwrandawiad dedfrydu ddydd Gwener clywodd y llys mai Boland, oedd ar gyflog o £53,000 y flwyddyn, oedd "yr unig un â chyfrifoldeb dros weithredoedd ariannol y feddygfa o ddydd i ddydd" ers iddi ddechrau yn y rôl yn 2009.
Clywodd y llys fod ganddi "ymddiriedaeth lawn" y partneriaid a bod ei gweithredoedd wedi eu rhoi dan "risg a phwysau ariannol sylweddol".
Dywedwyd bod un o'r uwch bartneriaid wedi bod angen cwnsela, wedi cael trafferth cysgu ac wedi dioddef pyliau o banig ers darganfod troseddau Boland, a ddigwyddodd dros gyfnod o bum mlynedd.
Roedd Boland wedi bod yn trosglwyddo rhwng £2,500 a £13,000 y mis i'w hun o gyfrif y feddygfa - "llawer mwy" na'r hyn oedd yn aml yn cael ei dalu i'r meddygon.
Wedi i un o'r partneriaid sylweddoli bod arian wedi bod yn cael ei dalu ar gam i gyfrif banc pob mis, dywedodd Boland i ddechrau mai camgymeriad gweinyddol oedd ar fai, cyn newid ei stori i ddweud nad oedd y feddygfa wedi bod yn talu digon o dreth.
Ar ôl cael ei holi gan ei chyflogwyr, fe ysgrifennodd lythyr yn honni ei bod "yn teimlo dan straen ac yn teimlo wedi'i bychanu yn y ffordd yr oedden nhw wedi mynd ati ynglŷn â'r taliadau hyn," clywodd y llys.
Ond wedi iddi ddod i'r amlwg mai i'w chyfrif hi yr oedd yr arian yn mynd, cafodd Boland ei harestio.
Gan ei dedfrydu i dair blynedd o garchar, fe wnaeth y Barnwr Catherine Richards nodi fod Boland yn fam sengl i ferch 10 oed.
Ond ychwanegodd fod "effaith y math yma o dwyll yn eang - emosiynol, ymarferol ac ariannol".
Mae disgwyl i Boland dreulio hanner ei dedfryd dan glo, a'r hanner arall ar drwydded.