Dyn â chanser terfynol yn cwblhau taith yn Stadiwm Principality

  • Cyhoeddwyd
Sam WarburtonFfynhonnell y llun, Cronfa Teulu Maxwell
Disgrifiad o’r llun,

Mae sêr o'r byd rygbi, fel Sam Warburton, wedi ymuno â Craig Maxwell ar gyfer rhannau o'i daith

Mae dyn o Benarth sydd â chanser terfynol wedi cwblhau taith gerdded arbennig ar gae Stadiwm Principality cyn gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ddydd Sul.

Cafodd Craig Maxwell, 41, ddiagnosis o ganser EGFR ar ei ysgyfaint a'i esgyrn y llynedd.

Does dim triniaeth ar gyfer y math hwn o ganser.

Bu taith Craig Maxwell o amgylch yr arfordir yn stopio yn Aberffraw, Borth-y-gest, Aberystwyth, Llandysul, Tyddewi ac Abertawe.

Disgrifiad o’r llun,

Craig Maxwell yn cyrraedd strydoedd canol Caerdydd gyda'i deulu brynhawn Sul

Ers hynny mae Mr Maxwell - oedd yn brif swyddog masnachol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a chyn hynny'n gweithio i Undeb Rygbi Cymru - wedi bod yn codi arian ar gyfer yr elusen ganser Cronfa Teulu Maxwell.

Ers ei ddiagnosis mae wedi codi cyfanswm o £837,000 ar gyfer y gronfa, sy'n anelu at "wella a datblygu'r llwybr canser yng Nghymru".

Ffynhonnell y llun, Cronfa Teulu Maxwell
Disgrifiad o’r llun,

Bu taith Craig Maxwell o amgylch yr arfordir yn stopio yn Aberffraw, Borth-y-gest, Aberystwyth, Llandysul, Tyddewi ac Abertawe

Mae sêr o'r byd chwaraeon, gan gynnwys cyn-chwaraewyr Cymru Shane Williams, Sam Warburton a Jamie Roberts wedi bod yn gwmni i Mr Maxwell ar wahanol rannau o'r daith 780 milltir o amgylch Llwybr Arfordir Cymru.

Mae'r cyflwynydd teledu Gethin Jones, y digrifwr Rhod Gilbert, y canwr a'r cyflwynydd Wynne Evans, a dyn tywydd BBC Cymru Derek Brockway wedi bod yn ei gefnogi hefyd.

Fe fuodd Mr Maxwell a'i gefnogwyr yn cludo pêl rygbi ar hyd y daith.

Ffynhonnell y llun, Cronfa Teulu Maxwell
Disgrifiad o’r llun,

Bu Jonathan 'Jiffy' Davies yn ymuno â Craig Maxwell ar gyfer rhan o'r daith

Bu Mr Maxwell a'i blant - Isla, 12, a Zach, 8 - yn cludo'r bêl i'r stadiwm cyn y gêm yn erbyn Ffrainc.

"Mae'r holl beth wedi bod yn anhygoel," meddai Mr Maxwell, gan ychwanegu: "Mae gweld cymaint o bobl yn ymuno bob diwrnod wedi codi'n nghalon!"

Yn siarad gyda diwedd yr her ar y gorwel, dywedodd ei fod yn teimlo'n "emosiynol iawn".

"Am ffordd i orffen gyda fy nheulu yn y stadiwm," meddai.

Pynciau cysylltiedig