Cur pen ac annwyd wedi troi'n ddiagnosis canser i Rhys, 15

  • Cyhoeddwyd
Rhys ar ôl y llawdriniaeth ym mis IonawrFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Rhys lawdriniaeth frys yng Nghaerdydd ar 17 Ionawr i gael gwared ar y tiwmor, oedd yn lledu'n gyflym

Mae bachgen o Abertawe a gafodd diwmor ar ei ymennydd wedi rhybuddio am sut y trodd cur pen arferol yn ddiagnosis difrifol.

Fe ddechreuodd Rhys, 15 o Bontarddulais, gael cur pen ac annwyd ym mis Rhagfyr, cyn iddo sylwi ar bethau'n newid yn sylweddol erbyn Ionawr. 

"Roedd poen gyda fi ar gefn y gwddwg ac yn y pen. O'n i'n chwydu, do'n i ddim yn gallu cadw fy mhen lan," dywedodd Rhys.

Dywedodd ei deulu eu bod wedi gorfod "dyfalbarhau" wrth i'r symptomau waethygu a dychwelyd i'r feddygfa leol sawl gwaith cyn i Rhys gael ei anfon i Ysbyty Treforys a chael diagnosis yng nghanol mis Ionawr.

Mae'r feddygfa wedi cael cais am sylw.

'Ro'n i'n gwybod nad oedd rhywbeth yn iawn'

Dywedodd mam Rhys, Clare, bod ei mab yn "chwydu bob dydd".

"Fe adawon ni amser i'r gwrthfiotigau weithio, ond doedd dim byd.

"Fe aethon ni lawr ag e ar y dydd Iau, Gwener a wedyn y dydd Llun, pan aeth fy ngŵr â fe lawr, fe ddywedon nhw, 'na, mae'n rhaid i chi fynd i Ysbyty Treforys'.

"Fe wnaeth e fwy neu lai gwympo i'r llawr wrth gerdded ar hyd y coridor," dywedodd.

"Roedd e'n bryderus. Ro'n i'n gwybod nad oedd rhywbeth yn iawn ond dy'ch chi ddim yn meddwl y gwaethaf."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cefn pen Rhys ar ôl cael tynnu'r tiwmor fis Ionawr

Fe gafodd Rhys lawdriniaeth frys yng Nghaerdydd ar 17 Ionawr i gael gwared ar y tiwmor, oedd yn lledu'n gyflym. 

"Os na fydden ni wedi dyfalbarhau, dy'n ni ddim yn gwybod beth fyddai wedi digwydd," ychwanegodd Clare. 

"Tasen ni ddim wedi cadw i fynd at y meddyg teulu, wel, mae mor lwcus nad yw e [y canser] wedi lledu i'w asgwrn cefn ond ma' hynny yn botensial." 

Bydd Rhys yn dechrau therapi proton - math arbennig o radiotherapi - ar ardal y cefn yr wythnos nesaf.

Bydd yn teithio i Lundain ddydd Llun i ddechrau ar y driniaeth, drwy'r GIG.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys, yma gyda'i rieni, Clare a Steven, yn dweud bod cwnsela wedi bod yn gymorth iddo

"Dwi'n meddwl ro'n ni'n gafael yn y gobaith yna y byddai popeth yn iawn," dywedodd Clare. 

"Ond roedd rhaid iddyn nhw brofi'r tiwmor… ac fe gafon ni alwad ffôn yn dweud bod angen i ni fynd i'r adran oncoleg a dyna lle ddaethom i ddeall ei fod yn fwy difrifol na'r hyn roedden nhw'n ei ddisgwyl.

"Chi'n gweld hyn ar y teledu a phethau. Mae'n swreal, chi'n colli pob teimlad."

'Teimlo'n bositif' am ei driniaeth nesaf

Dywedodd Rhys ei fod yn teimlo'n bositif am ei driniaeth yn Llundain.

Ychwanegodd ei fod wedi cael cefnogaeth gan ei deulu, ffrindiau a thrwy sesiynau cwnsela yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd.

"Mae'r cwnsela wir wedi helpu. Mae'r fenyw sydd wedi bod yn gwneud e wedi rhoi syniadau i fi am beth alla' i wneud i deimlo'n fwy cartrefol. 

"Dwi'n edrych 'mlaen i gael y cyfan ar ben."

Mae Rhys yn annog unrhyw un sy'n sylwi ar symptomau anarferol i fynd i weld eu meddyg teulu. 

"Just ewch i'r doctor - ewch i gael eich checkio."

Pynciau cysylltiedig