Gareth Potter: 'Gweld diwedd yr antur' wedi diagnosis o ganser

  • Cyhoeddwyd
Gareth PotterFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Potter yn awyddus i rannu ei brofiad o dderbyn triniaeth ganser er mwyn helpu eraill

Mae'r DJ Gareth Potter wedi dweud ei fod bellach yn "gweld diwedd yr antur" wedi iddo dderbyn diagnosis o ganser y coluddyn bron i flwyddyn yn ôl.

Wrth sgwrsio ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru dywedodd "does dim ots pwy wyt ti neu beth wyt ti wedi ei wneud yn dy fywyd di, mae 'na siawns 50% bo ti'n mynd i gael diagnosis o ganser yn ystod dy fywyd di".

Mae bellach wedi derbyn triniaeth chemotherapi, radio therapi ac wedi cael llawdriniaeth i gael gwared o'i goluddyn mawr ac mae bellach ganddo stoma.

Dywedodd un sy'n gweithio i fudiad Tenovus bod rhannu profiadau am ganser yn helpu eraill sy'n mynd trwy'r broses.

'Oedd e'n lot i gymryd mewn'

Fe gafodd Gareth ddiagnosis o ganser y coluddyn fis Mawrth 2023 ar ôl gwneud prawf wedi iddo ddarganfod gwaed yn ei garthion.

Dywedodd mai'r cyfnod rhwng cael y diagnosis a sicrhau camau'r nesaf oedd yr "adeg waetha".

"Pan glywes i'r gair canser, 'nath y doctor oedd wedi archwilio fi ddweud 'this is a curable cancer'. Nath e ddim dweud 'your cancer is curable', ond nes i ddal ymlaen i'r geirie 'na am y 10 diwrnod oedd gyda fi rhwng ffeindio mas amdano fe a chael plan."

"Nes i ddihuno y bore wedyn ac o'n i mewn bits. Dechreues i grio, dechreuodd fy ngwraig i grio. Roedd y ddau o' ni yn breichiau'n gilydd yn crio."

Bellach mae Gareth wedi derbyn triniaeth cemotherapi, radiotherapi a llawdriniaeth i gael gwared o'i goluddyn mawr.

"'Nath y chemo a'r radio shrinko'r tiwmor reit lawr i leihau e, ond i osgoi rhywbeth tebyg i ddigwydd yn y dyfodol, nathon nhw gynnig bo' nhw'n tynnu'r peth allan yn gyfan gwbl, so ma' gyda fi stoma nawr."

Fe gollodd Gareth ei dad i ganser y bledren ryw 18 mlynedd yn ôl, a dywedodd ei fod wedi bod yn "wyliadwrus iawn o be sy'n mynd 'mlaen 'da fi ers hynny".

Wrth edrych yn ôl ar ei driniaeth, dywedodd Gareth ei fod yn gweld "pobl yn iau na fi, pobl yn hŷn na fi, pobl oedd yn byw bywyd lot llai ffodus, oedd pobl lot fwy posh na fi - does dim ots pwy wyt ti neu beth wyt ti wedi ei wneud yn dy fywyd di, mae 'na siawns 50% bo' ti'n mynd i gael diagnosis o ganser yn ystod dy fywyd di."

Rhannu profiad yn gwneud gwahaniaeth

Mae'n amlwg fod Gareth yn gallu, ac yn dymuno, siarad yn agored wrth ddelio gyda'i ddiagnosis.

Mae pwysigrwydd rhannu profiad o ganser yn help i nifer yn ôl un sy'n gweithio i fudiad Tenovous.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lowri Griffiths fod Tenovus yn delio gyda "bron i 2,500" o bobl sydd å chanser yn fynyddol

Dywedodd Lowri Griffiths: "Os 'di pobl yn medru rhannu eu profiadau nhw ma' pobl er'ill yn medru meddwl 'wel dwi ddim yn mynd trwy hyn fy hun - mae pobl er'ill yn cael yr un profiad â fi ac mae yn gwneud gwahaniaeth'.".

Aeth ymlaen i sôn fod y mudiad yn "delio efo bron i 2,500 o bobl bob blwyddyn sydd efo diagnosis o ganser yng Nghymru, ac maen nhw am werthfawrogi'n fawr fod pobl fel Gareth Potter a'r Brenin yn rhannu eu profiad nhw".

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y Brenin Charles fod ganddo ganser.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Potter yn awyddus i rannu ei bositifrwydd ag eraill sy'n mynd trwy triniaeth debyg

Dywedodd Gareth: "Ro'n ni eisiau straeon gobeithiol, straeon oedd yn mynd i hybu fi i deimlo gobaith am fy sefyllfa i a dyna pam dwi wedi penderfynu 'reit, nawr, bron i flwyddyn ers y diagnosis, dwi eisiau spreadio'r newyddion da'."

Ychwanegodd: "Neidiwch mewn i'r antur a byddwch yn bositif. Yn sicr, os ydych chi'n teimlo fod rhywbeth yn wahanol yn eich corff chi ewch at y meddyg.

"Wi'n dechrau gweld diwedd yr antur a dwi'n ffyddiog 'mod i'n mynd i ennill".

Pynciau cysylltiedig