£2.5m at waith adfer concrit RAAC mewn pum ysgol

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth yn Ysgol Uwchradd Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith atgyweirio i do un o ddosbarthiadau Ysgol Uwchradd Caergybi

Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi £2.56m i dalu am gostau gwaith adfer mewn pum ysgol - pedair yn y gogledd ac un yn y de - wedi i arolwg y llynedd ganfod concrit diffygiol mewn adeiladau.

Bu'n rhaid cau dwy ysgol uwchradd ar Ynys Môn am gyfnod - Ysgol David Hughes, Porthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi - wedi pryder ar draws y DU ynghylch y defnydd o goncrit RAAC.

Cafodd RAAC, sy'n gallu dymchwel yn ddirybudd, ei ganfod hefyd yn adeiladau tair ysgol gynradd - Ysgol Maes Owen ym Mae Cinmel, Ysgol Trefnant yn Sir Ddinbych ac Ysgol Gynradd Eveswell yng Nghasnewydd.

Mae'r arian yn rhan o becyn cyfalaf ehangach gwerth dros £12.5m ar gyfer gwella adeiladau ysgolion a cholegau trwy Gymru.

Fe fydd yn cael ei wario ar waith cynnal a chadw fel ailosod toeau, ffenestri, gwaith gwresogi ac awyru a systemau trydanol, ac fe fydd yn gyfle i fabwysiadu mesurau arbed ynni.

Disgrifiad,

Beth yw concrit RAAC a pham ei fod yn beryglus?

Roedd nifer yr ysgolion â choncrit RAAC yng Nghymru yn sylweddol yn is nag yn Lloegr (dros 230) a'r Alban (39).

Mae hynny, medd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, "yn dyst i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn ysgolion dros nifer o flynyddoedd".

Dywedodd ei fod eisiau sicrhau bod addysg disgyblion "yn cael ei darparu mewn amgylcheddau sy'n addas i'r diben".

Fe fydd y pecyn cyllido newydd, meddai, "yn galluogi awdurdodau lleol a cholegau i wneud gwaith cynnal a chadw i sicrhau bod yr ystâd addysg yng Nghymru yn ddiogel ac yn effeithlon".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi - y ddwy ysgol uwchradd sy'n derbyn arian ar gyfer costau adfer concrit RAAC

Mae awdurdodau lleol ag ysgolion sydd wedi'u heffeithio gan RAAC wedi croesawu'r cyllid newydd.

Mae'r misoedd ers arolwg RAAC haf diwethaf wedi bod yn rhai heriol, yn ôl arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llinos Medi bod "gwaith pellach angen ei wneud" er mwyn sicrhau diogelwch yn yr ysgolion

"Mae gwaith trwsio sylweddol eisoes wedi'i wneud er mwyn sicrhau bod y ddwy ysgol wedi gallu croesawu disgyblion yn ôl i'w hadeiladau ar gyfer addysg wyneb yn wyneb," dywedodd.

"Mae gwaith pellach angen ei wneud ac mae'n bwysig bod hynny'n digwydd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod holl ardaloedd o fewn adeiladau'r ysgolion yn ddiogel i'w defnyddio.

"Bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn ein galluogi ni i gwblhau'r gwaith yma a chwrdd â chostau eraill yn gysylltiedig â RAAC, heb orfod defnyddio ein harian wrth gefn prin ein hunain."