Hanes y Llwy Bren
- Cyhoeddwyd
Os yw Cymru'n colli'n erbyn yr Eidal dydd Sadwrn yma - ac mae hynny'n bosibilrwydd - yna mi fyddan nhw'n derbyn y Llwy Bren.
Ond beth yw hanes y 'wobr' yma does 'na'r un tîm eisiau ei hennill? Y gohebydd Gareth Rhys Owen sy'n esbonio.
Llwy Bren: 'Fake news'
Dewch i ni gychwyn drwy gywiro'r fake news ynglŷn â'r Chwe Gwlad. Y tîm sy'n gorffen ar waelod y tabl sy'n hawlio'r Llwy Bren, nid y tîm sy'n colli pob gêm yn y gystadleuaeth.
Gwyngalchu (whitewash) yw'r term am golli'r pum gem, ond y gwirionedd pur sy'n wynebu Cymru'r penwythnos hwn yw bod 'na bosibilrwydd o hawlio'r ddwy wobr annymunol.
Hanes y Llwy Bren
Mae hanes y Llwy Bren yn dyddio 'nôl i Brifysgol Caergrawnt yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y llwy yn cael ei wobrwyo i'r myfyriwr anffodus a dderbyniodd y radd isaf mewn arholiad mathemateg.
Cafodd y llwy olaf ei hawlio yn 1909 gan fyfyriwr o'r enw Cuthbert Lempriere Holthouse. Roedd y llwy honno yn mesur dros ddwy fedr mewn hyd ac mae'n parhau i'w gweld mewn arddangosfa hyd heddiw.
Bathwyd y term gan newyddiadurwyr rygbi rhyw ddeng mlynedd ynghynt mewn erthygl yn y South Wales Daily Post yn 1894 yn honni bod y frwydr rhwng Cymru ac Iwerddon yn penderfynu tynged y Llwy Bren.
Mae'r term bellach yn cael ei ddefnyddio'n gyson ar draws nifer o gampau yn hemisffer y de ac er nad oes tlws penodol, mae'n anrhydedd i'w hosgoi.
Llwy Bren a Chymru
Mae Cymru wedi hawlio'r Llwy Bren wyth gwaith ac, ar y cyfan, mae'r dyddiadau yn adlewyrchu cyfnodau anodd yn hanes y gamp yma.
Cafodd y ddwy gyntaf eu hennill yn 1938 ac 1949 pan oedd y wlad yn parhau i ddioddef o sgil effeithiau'r rhyfeloedd mawr. Fe'i gwobrwywyd dwywaith yn y chwedegau ('64 a '68) ar drothwy ail gyfnod euraidd rygbi Cymru yn y saithdegau.
Prin fyddai'n synnu clywed i Gymru orffen yn olaf pedair gwaith rhwng 1990 a 2003 ('90, '93, '96, '03) wrth i lond sach o chwaraewyr godi pac i'r gêm triarddeg.
2003 Y Llwy Bren Goch Ddiwethaf
Mae yna gymariaethau amlwg rhwng y garfan bresennol a charfan Steve Hansen yn 2003. Fe feirniadwyd Hansen yn hallt am fynnu mai ei flaenoriaeth oedd perfformiadau, nid canlyniadau.
Ei fwriad oedd datblygu cyfres o chwaraewyr a fyddai'n medru cystadlu ar y lefel uchaf hyd yn oed tase hynny yn golygu colledion tymor byr.
Mae hanes yn dangos i hynny dalu ar ei ganfed wrth i'r tîm greu argraff yng Nghwpan Y Byd y flwyddyn honno.
Yna, dau dymor yn ddiweddarach, bellach dan arweinyddiaeth Mike Ruddock - hawliodd Cymru Camp Lawn am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth.
2024 Llwy Bren a'i peidio?
Os yw Cymru'n colli yn erbyn yr Eidal brynhawn Sadwrn fe fydden yn derbyn Llwy Bren ac yn cael eu gwyngalchu am y tro cyntaf ers un mlynedd ar hugain.
Ond mae'n bosib y bydd Cymru yn gorffen yn olaf hyd yn oed os ydyn nhw'n curo'r Eidalwyr.
Tase'r gystadleuaeth yn defnyddio'r hen system o ddynodi pwyntiau byddai gobeithion tîm Warren Gatland o osgoi eistedd ar waelod y tabl eisoes ar ben gan fod yr Eidal wedi sicrhau buddugoliaeth a gêm gyfartal yn y bencampwriaeth.
Ond mae bodolaeth pwyntiau bonws wedi rhoi llygedyn o obaith i ni fel Cymry.
2024 Maths y Llwy Bren
Cofiwch fod pwyntiau bonws yn cael eu gwobrwyo am y canlynol:
Sgorio pedwar cais (ennill a cholli)
Colli o fewn saith pwynt i'r tîm buddugol
Mae gan yr Eidal saith o bwyntiau tra bod gan Gymru dri.
Os yw'r Eidal yn hawlio dau bwynt bonws wrth golli yna does dim modd i Gymru eu dal. Tase'r Eidal yn hawlio un pwynt bonws yna bydd yn rhaid i Gymru hawlio pwynt eu hunain (wrth sgorio pedwar cais) a sicrhau eu bod yn ennill o bum pwynt neu mwy.
Os yw Cymru yn atal yr Eidal rhag hawlio unrhyw bwynt bonws yna rhaid ennill o bum pwynt neu fwy.
Llwy Bren: Canlyniad Trychinebus?
Fel ei rhagflaenydd Steve Hansen mae Warren Gatland wedi ceisio ei orau glas i dawelu disgwyliadau'r bencampwriaeth yma.
Ei naratif ef yw mai dyma'r flwyddyn i ail danio'r gêm yng Nghymru, datblygu'r to ifanc ac i anwybyddu'r canlyniadau i ryw raddau.
Mae'n deg dweud, hyd yn hyn, bod y cefnogwyr wedi cydymdeimlo a'r meddylfryd yma.
Ond a fydd y cyhoedd yn parhau i fod mor amyneddgar gyda Llwy Bren arall yn y casgliad?
RADIO CYMRU - Y Frwydr Fawr: Cymru a Streic y Glowyr
RADIO CYMRU 2 - Dewis: Tara Bandito
PODLEDIAD - Esgusodwch Fi: Y cyfarwyddwr Euros Lyn