Dillon Lewis: Paratoi at fywyd ar ôl rygbi
- Cyhoeddwyd
Mae'n gwestiwn anochel fydd yn wynebu nifer o chwaraewyr yn ystod eu gyrfaoedd proffesiynol: beth i'w wneud wedi i'r yrfa hwnnw ddod i ben?
I rai mae dilyn trywydd hyfforddi yn gam naturiol tra bod eraill wedi mentro i fyd darlledu. Yr hyn sy'n amlwg yw bod gyrfa broffesiynol mewn gwirionedd yn un byr ac mae'n allweddol felly bod 'na gynlluniau wrth gefn ar gyfer y diwrnod hwnnw pan fydd y sgidiau yn mynd i'r naill ochr.
Mae'n gwestiwn dwys sy' wedi dod fwy fwy i'r wyneb yn y blynyddoedd diwethaf gyda chyfergyd ac ergyd i'r pen wedi bod yn destun trafod yn y nod o ddiogelu chwaraewyr. Mi oedd yn gwestiwn oedd yn cylchdroi ym meddwl Dillon Lewis ac un digwyddiad arbennig wedi ei gymell i asesu'i opsiynau yn fwy difrifol.
Anaf i'w ffrind
Rhyw saith mlynedd yn ôl fe wnaeth ei ffrind ac un o'i gyd chwaraewyr gyda Chaerdydd ar y pryd, Brad Thyer, ddioddef ceulad gwaed ar ôl cynrychioli'r tîm mewn gêm yn erbyn Glasgow - roedd y digwyddiad brawychus yn ddigon i'w cymell i ddechrau meddwl am y dyfodol.
Eglurodd Dillon Lewis: "Ar y pryd, roeddwn wrthi'n astudio cwrs rheoli busnes ym Mhrifysgol De Cymru - doedd dim byd wedi cynllunio ond yn aml fyddai Brad a finnau'n taflu syniadau yn y stafell newid ynglŷn â'r hyn y gallwn wneud â'r posibilrwydd o sefydlu busnes ein hunen ac wedi'r ddamwain fe ddaeth hwn yn fwy o flaenoriaeth i Brad.
"Roedd y ddau ohonom yn ymwybodol faint o arian (ac amser) oedd y bois yn treulio mewn siopau coffi ac felly dyfodd y syniad o'r pwynt yna."
Sefydlwyd Fat Dragon Coffee dros chwe blynedd yn ôl ac mae'r fenter bellach yn mynd o nerth i nerth - cwmni ar-lein ydyw yn bresennol yn darparu coffi i'r cyhoedd fedru mwynhau adre. Wrth ddarparu cynnyrch hefyd i amryw o siopau, y gobaith mewn amser yw ehangu'r cwmni.
Meddai Dillon: "Dyna'r bwriad, ry' ni mor bles sut ma' pethau wedi mynd o nerth i nerth ac yn hynod ddiolchgar o'r gefnogaeth rydyn ni wedi derbyn - er bod hynny wedi golygu lot o goffi am ddim i lot o'r bois ar y dechrau!
"Y bwriad yw bod y busnes yn tyfu a'r gobaith yw dod o hyd i leoliad ac agor cyfres o ganghennau."
Ond, ag yntau ond yn 28 oed, y cae rygbi fydd ei brif ffocws am flynyddoedd i ddod a'i yrfa yn parhau i ddatblygu ar ôl mentro i Lundain y llynedd wrth ymuno a'r Harlequins. Yn sgil y wasgfa ariannol a'r hinsawdd economaidd yn amgylchynu rygbi Cymru mi oedd yn gyfle euraidd roedd yn rhaid derbyn, meddai:
"Oeddwn yn hapus iawn yng Nghaerdydd ond roedd y sefyllfa'r llynedd yn ansicr ac yn anodd iawn ar y chwaraewyr. Fe ddaeth 'na gynnig gan Harlequins ac roedd rhaid i fi dderbyn - yn gynta' i ddiogelu fy ngyrfa ond hefyd mi oedd e'n gyfle i brofi rhywbeth newydd ac o'n i wastad am wneud hynny."
Cofio ei wreiddiau
Ond er ei fod bellach yn chwarae i dîm sy'n ail yn Uwch Gynghrair Lloegr, dyw Dillon heb anghofio am ei wreiddiau ac yn ddyledus i'w brentisiaeth â Phontypridd a chyn hynny Clwb Rygbi Beddau.
"Fel sawl pentref arall yng Nghymru roedd Clwb Rygbi Beddau yn ganolbwynt i'r gymuned - roedd pawb yn nabod ei gilydd ac roeddwn i'n mynd yno gyda'n ffrindiau - dyna oedd y clwb ddechreuodd Gethin Jenkins felly roedd 'na dipyn o draddodiad mawr.
"Roedd fy nhad Tony neu 'Big Tony' fel oedd yn cael ei adnabod yn rhan allweddol o ran fy natblygiad ac mae dal yn lico meddwl ei fod yn rhyw fath o Warren Gatland neu Clive Woodward hyd heddi!
"Dyw hynny ddim wedi newid ers fy nyddie gyda'r clwb lleol, Ysgol Gartholwg neu gyda Rygbi Caerdydd felly ma' fy nyled yn fawr iddo."
Herio'r Ffrancwyr
Ond nôl at y presennol. Wrth baratoi at y gêm nesaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn y Ffrancod ar 10 Mawrth, beth yw'r teimladau wedi'r canlyniad siomedig yn y gêm ddiwethaf yn Nulyn ar 24 Chwefror?
"Does dim dwywaith odd bois yn siomedig â'r perfformiad yn Nulyn," meddai. "Does neb yn mynd mas i'r cae i chwarae fel nethon ni yn erbyn Iwerddon a ry' ni'n sylweddoli ein bod ni wedi tan berfformio yn yr hanner cyntaf ond mesur cymeriad tîm yw sut i daro nôl wedi profiad o'r fath.
"Roedd y garfan yn brifo ar y nos Sadwrn ac mae gofyn i ni ddefnyddio a harnesu'r teimlad hwnnw wrth fynd mewn i'r gêm nesa yn erbyn Ffrainc.
"Byddan nhw yn benderfynol o daro nôl hefyd wedi'r gêm gyfartal yn erbyn yr Eidal hyderus wrth gwrs, ond ry ni'n awyddus i wneud yn iawn y tro hwn. I ni nôl yng Nghaerdydd fydd o dan ei sang.
"Na, dy'n ni heb ennill hyd yma ond mae 'na agweddau positif wedi bod ym mhob un o'r tair gêm hyd yn hyn. Mae'n dîm ifanc, dibrofiad ond gobeithio fydd y siom a'r poen ry ni'n mynd drwodd ar hyn o bryd werth e yn y pen draw!"
Y cwestiwn yw, ai coffi'r cwmni neu rywbeth cryfach fydd y ddiod os dathlu yn erbyn y Ffrancwyr?