Ramsey yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau ail gyfle

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl i Ramsey fethu'r gemau ail gyfle wedi iddo anafu ei goes yn ystod sesiwn ymarfer gyda Chaerdydd

Mae capten Cymru, Aaron Ramsey, wedi ei gynnwys yng ngharfan Robert Page ar gyfer gemau ail gyfle Euro 2024.

Dim ond ddwywaith mae Ramsey wedi chwarae i Gaerdydd ers dioddef anaf i'w ben-glin ym mis Medi.

Roedd disgwyl y byddai'n methu'r gemau ail gyfle oherwydd anaf i'w goes ond mae'r chwaraewr canol cae 33 oed wedi gwella'n gynt na'r disgwyl.

Bydd Cymru yn wynebu'r Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Iau, 21 Mawrth yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Euro 2024.

Fe fydd enillwyr y gêm honno yn chwarae gartref yn erbyn Gwlad Pwyl neu Estonia yn y rownd derfynol ar nos Fawrth, 27 Mawrth.

Mae rheolwr Cymru, Robert Page, wedi cynnwys 28 o chwaraewyr yn ei garfan.

Bydd Ethan Ampadu a Daniel James - y ddau yn chwarae i Leeds United - yn ennill cap rhif 50 os ydyn nhw'n wynebu'r Ffindir.

Mae ddau chwaraewr sydd yn chwarae i glybiau yn yr Alban, Rabbi Matondo (Rangers) a Dylan Levitt (Hibernian), yn dychwelyd i'r garfan am y tro cyntaf ers 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r asgellwr, Rabbi Matondo wedi ei gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers 2022

Mae tri chwaraewr gafodd eu cynnwys yng ngharfan dan-21 cymru ar gyfer y gemau diwethaf - Joe Low, Rubin Colwill a Charlie Savage - hefyd wedi eu cynnwys.

Mae anafiadau yn golygu nad yw Niall Huggins, Joe Morrell a Tom Bradshaw yn rhan o'r garfan, yn ogystal â Tom Lockyer.

Fe ddisgynnodd amddiffynnwr Luton Town, 29, ar y cae mewn gêm Uwch Gynghrair yn erbyn Bournemouth ym mis Rhagfyr.

Y garfan yn llawn

Wayne Hennessey (Nottingham Forest), Danny Ward (Caerlŷr), Tom King (Wolverhampton Wanderers), Adam Davies (Sheffield United);

Ben Davies (Tottenham Hotspur), Joe Rodon (Leeds United), Joe Low (Wycombe Wanderers), Chris Mepham (Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Nottingham Forest), Jay DaSilva (Coventry City), Connor Roberts (Leeds United), Wes Burns (Ipswich Town);

Ethan Ampadu (Leeds United), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Dylan Levitt (Hibernian), Jordan James (Birmingham City), Charlie Savage (Reading), Harry Wilson (Fulham), Nathan Broadhead (Ipswich Town), Aaron Ramsey (Caerdydd), Rabbi Matondo (Rangers), David Brooks (Southampton - ar fenthyg o Bournemouth), Daniel James (Leeds United);

Liam Cullen (Abertawe), Rubin Colwill (Caerdydd), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Kieffer Moore (Ipswich Town).