Disgwyl i Aaron Ramsey fethu gemau ail gyfle Euro 2024

  • Cyhoeddwyd
Aaron Ramsey clutches at his leg against PrestonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ramsey allan am "bedair i chwe wythnos" meddai rheolwr Caerdydd Erol Bulut

Mae 'na ergyd i garfan bêl-droed Cymru gyda'r newyddion nad oes disgwyl i'r capten Aaron Ramsey fod yn holliach i wynebu'r Ffindir yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Euro 2024.

Yn ôl rheolwr ei glwb Caerdydd, Erol Bulut, fydd Ramsey ddim ar gael i chwarae am hyd at chwe wythnos ar ôl anafu ei goes yn ystod sesiwn ymarfer.

Bydd Cymru yn wynebu'r Ffindir yng Nghaerdydd ar 21 Mawrth yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Euro 2024, gyda rownd derfynol bosib gartref yn erbyn Gwlad Pwyl neu Estonia bum diwrnod yn ddiweddarach.

"Dywedodd y staff meddygol na fydd Ramsey ar gael am bedair i chwe wythnos," meddai Bulut.

"Roedden ni'n credu'n wreiddiol mai straen oedd yr anaf ond cefais wybod ddoe fod y straen ar y tendon, nid ar y cyhyr.

"Mae'n bosib y bydd o ar gael i chwarae erbyn diwedd mis Mawrth."

Dim ond dwywaith chwaraeodd Ramsey fel eilydd i Gaerdydd ym mis Chwefror ar ôl dychwelyd o anaf i'w ben-glin, oedd wedi golygu nad oedd ar gael i chwarae ers mis Medi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Bulut bod yr anaf "yn siomedig i ni ac i Ramsey".

"Mi fydda i yn ei gefnogi o... dwi'n gwybod sut mae'n teimlo.

"Nid yw'n hawdd i chwaraewr fod allan am bum mis, dod yn ôl, chwarae a chael ei anafu eto.

"Mae o'n siomedig hefyd... mae'n un anaf ar ôl y llall iddo.

"Ond fydda i yn ei gefnogi tan y diwedd. Rwy'n gobeithio y gall ddod yn ôl cyn gynted â phosibl.

"I Gaerdydd mae'n chwaraewr pwysig, i Gymru mae'n chwaraewr pwysig.

"Pan nad oes gennych chi'r safon yna ar y cae, i bob hyfforddwr mae'n golled."