Caergybi: Pryderon parcio ar ôl colli safle lorïau
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon y bydd colli cyfleuster parcio yn arwain at fwy o lorïau yn achosi problemau ar strydoedd a chilfannau ar Ynys Môn.
Ar hyn o bryd mae llawer o'r lorïau sy'n teithio drwy borthladd Caergybi yn parcio ar safle 60 bae sydd wedi'i ddynodi fel cyfleuster stacio brys ar gyfer cerbydau HGV, dolen allanol.
Ond gyda Llywodraeth Cymru yn bwriadu addasu'r safle i'w ddefnyddio fel man gwirio ar gyfer cynnyrch anifeiliaid a phlanhigion, bydd ei ddefnydd fel cyfleuster parcio yn dod i ben "am gyfnod dros dro" ar ôl 31 Mawrth.
Wrth roi'r bai ar "bwysau cyllidebol", mae'r penderfyniad wedi arwain at bryder y gall colli mannau dynodedig arwain at fwy o broblemau parcio o gwmpas y dref.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu "gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol i ddarparu gwasanaeth cost effeithiol wrth symud ymlaen".
Ond mae un cynghorydd lleol yn ofni y bydd hefyd yn arwain at ddiffyg cyfleusterau priodol, sy'n "annheg" i yrwyr HGV sy'n teithio drwy Gaergybi.
'Pwysau cyllidebol'
Fel rhan o fesurau ôl-Brexit mae angen i Lywodraeth Cymru adeiladu safle i wirio nwyddau iechydol a ffytoiechydol (SPS) fel anifeiliaid, planhigion a chynnyrch sy'n deillio o anifeiliaid.
Mae'r safle arfaethedig ar Lain 9 ym Marc Cybi, ar gyrion Caergybi, wedi ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru fel cyfleuster parcio lorïau gyda lle i 60 o gerbydau HGV.
Mae staff diogelwch wedi bod yn gyflogedig yno ond gan feio "pwysau cyllidebol", dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cyfleuster presennol ar gau am "gyfnod dros dro" o 31 Mawrth.
Mae'r cyhoeddiad wedi arwain at yr awdurdod lleol a gwleidyddion i bwyso am fwy o eglurder ynghylch canlyniadau hyn.
Dywedodd Pennaeth Priffyrdd Cyngor Ynys Môn, Huw Percy: "Rydym yn ymwybodol o bryderon ymysg y gymuned leol a staff ynglŷn â dyfodol safle parcio lorïau Plot 9 ym Mharc Cybi.
"Fel cyngor, rydym eisoes wedi cynnal cyfarfod brys gyda swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn cael gwell dealltwriaeth am y safle a'r effeithiau ar staff a'r gymuned leol.
"Rydym hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru i roi gwybod i'n haelodau etholedig a'r gymuned leol am y camau nesaf."
Colli Road King
Roedd 'Llain 9' yn arbennig o ddefnyddiol fel cyfleuster parcio wedi i safle Road King gael ei werthu i Lywodraeth y DU yn 2021.
Gan gynnig cyfleusterau bwyta, parcio, cysgu a chawod i yrwyr lori, dim ond yn 2015 yr agorwyd y safle wedi pryderon nad oedd unrhyw gyfleusterau addas ar yr ynys.
Cyn hynny roedd gyrwyr yn parcio mewn cilfannau a safleoedd eraill ar ymyl y ffordd cyn mynd at neu adael y porthladd, ond roedd hyn wedi bod yn destun pryder yn y dref a'r cyffiniau.
Prynwyd safle Road King gan adran dollau Llywodraeth y DU i ddarparu Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) i weithredu fel man gwirio nwyddau sy'n cael eu mewnforio o'r Undeb Ewropeaidd a'u hallforio i'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Aelod Senedd yr ynys mai'r cynllun gwreiddiol oedd fod y gwaith yn dechrau ar gyfleuster gwirio Llywodraeth Cymru tra fod y safle'n parhau i gynnig nifer llai o lefydd parcio HGV.
"Fe wnes i ymgyrchu dros gyfleuster o'r fath pan gefais fy ethol gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan nifer fawr o lorïau'n parcio ar strydoedd Caergybi," medd Rhun ap Iorwerth AS.
"Fe wnaeth agor Road King ddatrys y mater, ond wedyn cafodd ei golli.
"Unwaith eto bu'n rhaid i ni alw am gyfleusterau newydd, ac roeddwn yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu lle parcio ar eu safle ar Barc Cybi.
"Rwan dwi'n ofni byddwn yn ôl yn yr un sefyllfa eto, gyda lorïau'n chwilio am lefydd parcio eraill o gwmpas y dref.
"Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog yr Economi yn gofyn am fwy o wybodaeth am pam mae'r penderfyniad hwn wedi'i wneud a pha gynlluniau amgen sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd i liniaru hyn."
'Problem fawr'
Dywedodd un o'r cynghorwyr sir lleol, Dafydd Rhys Thomas, ei fod yn "siomedig iawn" yn sgil y cyhoeddiad, gan ychwanegu fod parcio HGV yn broblem hyd yn oed cyn cau 'Llain 9'.
"Mae'n broblem rwan ond un dwi'n ofni fydd o'n gwaethygu," meddai.
"Mae hefyd yn arbennig o annheg ar y gyrwyr HGV, oedd yn cael eu hystyried yn weithwyr allweddol yn ystod y pandemig ond sydd rwan yn cael eu gadael heb gyfleusterau.
"Mae 'na gwynion am sbwriel yn mynd yn ôl blynyddoedd, â lorïau yn blocio strydoedd a laybys.
"Ond does ond angen edrych ar feysydd parcio archfarchnadoedd o gwmpas Caergybi i weld sut y gall ddod yn broblem fawr unwaith eto."
'Dim gofyn statudol'
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r man gwirio ddelio â hyd at 15 o gerbydau HGV y dydd, gyda hyd at 30 o weithwyr ar y safle dros gyfnod o 24 awr.
Dywedodd llefarydd: "Oherwydd pwysau cyllidebol, bydd y cyfleuster HGV presennol Parc Cybi yng Nghaergybi ar gau am gyfnod dros dro o ddydd Sul, 31 Mawrth.
"Does dim gofyn statudol ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfleuster yma ond byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid allweddol i ddarparu gwasanaeth cost effeithiol wrth symud ymlaen.
"Yn y cyfamser, rydym yn annog gyrwyr i ddod o hyd i lefydd parcio addas i ffwrdd o ardaloedd preswyl a busnesau lleol i helpu i leihau aflonyddwch tra bod y safle ar gau.
"Gofynnwn i bob gyrrwr barchu trigolion lleol, a gweithredu mewn modd priodol a pharchus bob amser."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2020