Lori carthion dynol wedi troi ar ei hochr yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Lori carthion
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llwyth wedi achosi arogl mawr ar y safle

Fe wnaeth lori oedd yn cario carthion dynol wedi'u trin droi ar ei hochr yn Sir Gaerfyrddin fore dydd Gwener, gan achosi oedi ar yr A485.

Roedd yn ymddangos bod y cerbyd wedi taro ynys goncrit yng nghanol y ffordd yn Rhydargaeau.

Dywedodd un person lleol wrth y BBC fod damweiniau'n digwydd yn llawer rhy aml ar y rhan yma o'r ffordd, gan ddweud mai dyma'r trydydd digwyddiad yn y mis diwethaf.

Fe wnaeth y carthion oedd ar y lori ollwng ar ffordd gyfagos ac mae'r gwasanaethau brys a thimau cynnal a chadw priffyrdd wedi bod yn glanhau'r ffordd cyn symud y lori.

Lori carthion
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid clirio'r llwyth cyn symud y lori

Roedd arogl cryf yn yr ardal wrth i dimau cynnal a chadw priffyrdd geisio clirio'r llwyth.

Dywedodd Michael Evans sy'n byw wrth ymyl y ffordd mai dyma'r "trydydd crash sydd wedi digwydd 'ma".

"Ddydd Mercher diwetha' a'th 4x4 trwy'r clawdd fynna. Wedyn nos Sul diwetha' 'nath Land Rover fwrw'r ffens a bwrw wal y tŷ draw fan 'co. Ac wedyn 5:30 bore 'ma fe nath lori fynd mas o control a mynd ar ei hochr."

Michael Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Michael Evans mai dyma'r trydydd digwyddiad diweddar

"Mae'r tri accident 'ma wedi digwydd yn y nos neu yn y bore a smo nhw'n cymryd dim sylw o'r cyfyngiad cyflymder newydd o 20 milltir yr awr."

Aeth ymlaen i honni ei bod hi'n "saffach pan oedd hi'n 30mya yma. Weden i troi e nol i 30mya os mae'n golygu llai o ddamweiniau."

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi cael eu galw i'r safle wedi gwrthdrawiad un car ar yr A485 yn Rhydargaeau am 05:25 fore Gwener.

Fe ychwanegon nhw fod y lori ar ei hochr ac yn rhwystro'r ffordd yn rhannol.

Nid oedd neb wedi ei anafu.

Pynciau cysylltiedig