Dyn wedi'i drydanu wrth osod polyn fflag yn yr ardd - cwest
- Cyhoeddwyd
Cafodd dyn oedd am roi syrpréis i'w wraig drwy osod polyn fflag yn eu gardd ei drydanu i farwolaeth, clywodd cwest.
Daeth Julie Roberts o hyd i'w gŵr, David Ian Roberts - oedd yn 69 oed - yn yr ardd yn Llanfairpwll, Ynys Môn ym mis Mehefin y llynedd.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ei fod wedi ei ganfod gyda'i wyneb ar y llawr a marciau llosg ar ei ddwylo.
Daeth y crwner i gasgliad o farwolaeth trwy ddamwain.
Wrth grynhoi'r dystiolaeth, dywedodd y crwner Kate Robertson fod Mrs Roberts a'i gŵr wedi bod yn trafod gosod polyn yn yr ardd wedi iddyn nhw ddychwelyd o wyliau yn America.
Dywedodd Mrs Roberts fod ei gŵr wedi awgrymu'n wreiddiol gosod y polyn mewn llecyn arferai fod yn bren i gyd, ond eu bod wedi cytuno fod hynny'n rhy agos at wifrau trydan uwchlaw eu heiddo oedd yn cario 11,000 folt o drydan i gyflenwi'r dref i gyd.
Ond roedd Mr Roberts yn hyderus y byddai'n ddiogel gosod y polyn mewn lleoliad arall yn yr ardd, a'r bwriad oedd gwneud hynny y penwythnos canlynol.
Dywedodd Mrs Roberts fod ei gŵr, oedd yn cael ei adnabod fel Ian, yn hoff o roi syrpréis iddi.
Roedd hi'n amau ei fod wedi ceisio gosod y polyn ar brynhawn Iau cyn iddi hi ddychwelyd o'i gwaith mewn siop torri gwallt yn Llangefni.
'Mater peryglus'
Cadarnhaodd y patholegydd Dr Mark Atkinson fod y llosgiadau ar ddwylo Mr Roberts yn nodweddiadol o drydanu, a'i fod mwy na thebyg wedi marw yn ddisymwth.
Dywedodd Andrew Churchman, rheolwr gyda chwmni trydan SP Energy, wrth y cwest fod peirianwyr wedi gwirio'r ceblau a'u bod yn cwrdd â safonau diogelwch a'u bod o fewn yr uchder safonol uwchben yr eiddo.
Cafodd Ian Roberts ei ddisgrifio fel gŵr, tad a thaid cariadus oedd wrth ei fodd yn canu ac yn gefnogwr pybyr o glwb pêl-droed Bangor.
Roedd yn gymwys ymhob agwedd o waith cynnal a chadw, ac yn rhedeg busnes gosod drysau garej.
Wrth gofnodi bod y farwolaeth "drasig" yn ddamweiniol, dywedodd y crwner ei bod yn tanlinellu mater pwysig i drigolion sy'n byw gyda gwifrau trydan uwchlaw eu heiddo, a "pha mor beryglus y gall hynny fod".