Swyddogion Heddlu Gwent yn wynebu gwrandawiadau camymddwyn

  • Cyhoeddwyd
Ricky JonesFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd negeseuon amhriodol eu darganfod ar ffôn symudol Ricky Jones wedi iddo ladd ei hun yn 2020

Mae dau o swyddogion Heddlu Gwent ac un cyn-swyddog yn wynebu gwrandawiadau camymddwyn difrifol yn sgil honiadau eu bod wedi rhannu negeseuon atgas.

Daw yn sgil ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i negeseuon sarhaus a gafodd eu darganfod ar ffôn Ricky Jones, plismon wedi ymddeol a fu farw drwy hunanladdiad yn 2020.

Cafodd y negeseuon, oedd yn cynnwys rhai o natur hiliol a homoffobig, eu darganfod gan deulu Mr Jones, a chafodd y mater ei gyfeirio at yr IOPC gan Heddlu Gwent ym mis Tachwedd 2022.

Mae'r llu yn dweud eu bod yn bwriadu cynnal y gwrandawiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Daeth ymchwiliad yr IOPC, oedd yn edrych ar ymddygiad saith swyddog a phedwar cyn-swyddog, i ben ym mis Hydref y llynedd.

Cafodd archwiliad fforensig digidol ei gynnal ar ffôn Mr Jones, tra bod y swyddogion dan sylw wedi cael eu cyfweld.

Dywedodd y swyddfa fod dau swyddog ac un cyn-gwnstabl yn wynebu honiadau eu bod wedi rhannu negeseuon a oedd yn mynegi hiliaeth, homoffobia a chasineb at fenywod.

Yn ogystal, daeth yr ymchwiliad i'r casgliad nad oedd y swyddogion hynny, o bosib, wedi herio nac wedi rhoi gwybod am achosion o gydweithwyr yn rhannu negeseuon amhriodol.

Canfyddiadau eraill yr ymchwiliad:

  • Roedd yr ymchwiliad yn edrych ar ymddygiad 11 o swyddogion i gyd - naw sydd yn parhau i weithio i'r heddlu, a dau gyn-swyddog

  • Mae'n nodi bod pedwar swyddog arall hefyd wedi camymddwyn

  • Cafodd gwrandawiadau eu cynnal yn gynharach yn y mis, lle daethpwyd i'r casgliad fod yr honiadau o gamymddwyn wedi eu profi yn achos tri o'r swyddogion hynny - ac fe wnaethon nhw dderbyn rhybuddion ysgrifenedig;

  • Yn achos y pedwerydd swyddog, ni chafodd yr honiadau o gamymddwyn eu profi, a bydd disgwyl iddyn nhw gymryd rhan mewn ymarfer myfyriol;

  • Ni chafodd unrhyw gamau eu cymryd yn erbyn dau swyddog wnaeth ymddiswyddo yn ystod yr ymchwiliad;

  • Roedd un swyddog arall wedi gadael y llu ers rhai blynyddoedd cyn dechrau'r ymchwiliad, felly ni chafodd penderfyniad ei wneud yn ei achos ef;

  • Fe wnaeth yr IOPC dynnu eu hymchwiliad i un swyddog yn ôl, a ni chafodd unrhyw gamau pellach eu cymryd yn ei erbyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: "Roedd cynnwys rhai o'r negeseuon gafodd eu hymchwilio yn codi pryderon difrifol ynglŷn ag ymddygiad y swyddogion dan sylw.

"Ni chafodd unrhyw dystiolaeth ei darganfod i gefnogi honiad bod Heddlu Gwent wedi ceisio cuddio neu cadw'r negeseuon amhriodol yma yn dawel a fyddai wedi bod yn arwydd o lygredd.

"Mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos bod yr ymchwiliadau gafodd eu cynnal ar ffôn Ricky Jones yn addas ac yn gywir drwy gydol y broses."

Mae teulu Mr Jones wedi cael gwybod am benderfyniadau'r IOPC.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu Gwent yn dweud nad oes lle i gamymddwyn o unrhyw fath fewn y llu

Mae ymchwiliad arall ar waith gan Heddlu Wiltshire i gwynion gafodd eu gwneud gan deulu Mr Jones am y ffordd wnaeth Heddlu Gwent ymdrin â'r ymchwiliad i'w farwolaeth a'i gysylltiadau gyda'r swyddogion eraill.

Dywedodd teulu Mr Jones mewn datganiad eu bod yn croesawu adroddiad yr IOPC, a'u penderfyniad i gymryd camau disgyblu yn erbyn y swyddogion.

"Er ein bod ni'n ddiolchgar bod y camymddygiad yma wedi dod i'r amlwg, ry'n ni'n teimlo bod angen gwneud mwy er mwyn cael gwared ag unrhyw swyddogion eraill sy'n rhannu'r un fath o syniadau."

Pan ddaeth y negeseuon i'r amlwg ym mis Tachwedd 2022, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, bod y cynnwys wedi ei syfrdanu.

Ychwanegodd Ms Kelly ei bod yn "benderfynol o sicrhau bod unrhyw achosion o ymddygiad fel hyn yn cael eu hymchwilio'n llawn a thrylwyr".

"Ry'n ni wedi bod yn gwbl glir nad oes lle i gamymddwyn o unrhyw fath o fewn y llu, a dylai'r achos yma fod yn arwydd i bawb o'r math o ganlyniadau sy'n wynebu rhywun sy'n camymddwyn."

Pynciau cysylltiedig