'Colli cyfle' wrth beidio cael sylwebaeth yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Sgrin gyfrifiadur

Mae pennaeth ysgol yn honni fod Undeb Rygbi Cymru wedi "colli cyfle" i hyrwyddo'r Gymraeg yn rownd derfynol cwpan Ysgolion Cymru dan 18.

Fe wnaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin guro Ysgol Bro Dinefwr o 20-19 mewn gêm yn Stadiwm y Principality ddydd Mercher.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Dr Llinos Jones, y byddai wedi "gwerthfawrogi mwy o Gymraeg".

Wrth ymateb, dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney eu bod "ychydig yn siomedig" o dderbyn cwynion am ddiffyg darpariaeth y Gymraeg.

'Falle o ni'n disgwyl gormod'

I Rebecca Hayes a oedd yn gwylio'r gêm ar wefan YouTube, dywedodd ei bod wedi gorfod ailfeddwl a oedd wedi defnyddio'r ddolen gywir.

"Ro'n i'n meddwl falle mod i wedi clicio ar y linc anghywir" meddai.

"Fe wnes i wrando ar y rhan helaeth y sylwebaeth a chlywes i ddim Cymraeg trwyddo fe".

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rebecca Hayes o'r farn bod yr Undeb wedi dangos "diffyg parch" at yr iaith

Aeth ymlaen i ddweud bod yr Undeb yn "dangos diffyg parch llwyr, dangos diffyg ymwybyddiaeth ac yn ymddangos i fi bod y Gymraeg ddim ar eu radar".

"Falle o ni'n disgwyl gormod."

Fe ychwanegodd fod y tlws yn uniaith Saesneg hefyd.

'Colli cyfle' i hyrwyddo'r Gymraeg

Roedd cynulleidfa dda yno yn cefnogi'r ddau dîm o Sir Gar, ond yn ôl Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru "golli cyfle" wrth beidio manteisio ar y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod y gêm.

Wrth siarad â BBC Cymru Fyw dywedodd Dr Llinos Jones fod yna "gyfle pellach i hyrwyddo'r Gymraeg... roedd cynulleidfa eang er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg ond fe wnaethon nhw golli'r cyfle i wneud hynny yn sicr".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Llinos Jones o'r farn bod URC wedi colli cyfle i hyrwyddo'r Gymraeg yn ystod y gêm

"Gan fod cynulleidfa eang o blant hefyd, oedd e'n gyfle da iddyn nhw glywed y Gymraeg".

Fe bwysleisiodd Dr Llinos Jones fod y rhaglen yn gwbl ddwyieithog, a'i bod yn anodd iddi glywed yr holl gyhoeddiadau oherwydd y "bwrlwm" ar y cae, ond y byddai wedi "gwerthfawrogi mwy o Gymraeg".

Fe ddisgrifiodd y gystadleuaeth fel un "gwych ac yn gyfle da i ddatblygu rygbi ond hefyd i ddatblygu'r Gymraeg ochr yn ochr â'i gilydd".

Roedd rownd derfynol cystadleuaeth blwyddyn 9 dydd Iau. Dywedodd Dr Jones fod mwy o Gymraeg i'w gweld ar y sgrin erbyn hynny.

URC yn 'siomedig' gyda'r cwynion

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney eu bod "ychydig yn siomedig ein bod wedi derbyn cwynion am ddiffyg darpariaeth yn y Gymraeg" gan ychwanegu fod "defnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg yn arbennig o bwysig i ni."

Fe wnaeth hi gydnabod fod y "sylwebaeth yn Saesneg ond defnyddiwyd y Gymraeg yn ogystal gan y sylwebwyr".

Dywedodd eu bod "wedi defnyddio cyhoeddiadau dwyieithog o fewn y Stadiwm ers blynyddoedd" a bod y ddarpariaeth ddwyieithog "fel y mae ar gyfer ein gemau rhyngwladol".